Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydw i'n credu, mae'r Athro Gerry Holtham wedi bod yn hyrwyddo'r syniad, ers rhai blynyddoedd, fod yna gyfle fan hyn i Gymru ddatblygu canolfan a fyddai'n rhagori'n fyd-eang, o bosib. Hynny yw, creu école nationale, yng ngeiriau'r Athro Holtham, ar gyfer arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector cyhoeddus.
Mae lot o bethau rydych chi'n gallu eu dweud am yr Athro Holtham, ond nid yw diffyg uchelgais yn un ohonyn nhw. Ond, pam lai? Pam na allwn ni, a dweud y gwir, nid yn unig ddiwallu ein hanghenion ein hunain trwy greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr a rheolwyr yn y sector cyhoeddus, ond hefyd creu canolfan a fydd yn ennill ei bri ar lefel fyd-eang?