Effaith Awtomeiddio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:56, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a gaf fi eich croesawu i'ch rôl newydd? Mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd traean o swyddi yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan awtomatiaeth, ond a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw awtomatiaeth yn rhywbeth y dylem geisio ei atal; mae'n rhywbeth y dylem geisio ei harneisio? Mae'r datblygiadau hyn mewn technoleg yn cynnig cyfleoedd i arloesi yn y sector cyhoeddus a gwella'r modd y darparir gwasanaethau, gan ryddhau pobl o orfod gwneud tasgau cyffredin i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Ond wrth gwrs, mae yna gwmnïau sector preifat sy'n ceisio ei bedlera fel ffordd o gael gwared ar swyddi. Felly, er mwyn rhwystro cynghorau sydd o dan bwysau rhag mabwysiadu dull ad hoc o weithredu, a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen dull strategol? Ac a wnaiff ymrwymo i gynnal adolygiad o sut y gellir cynorthwyo awdurdodau lleol i ddefnyddio awtomatiaeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau eu bod yn barod i wynebu'r heriau sydd o'u blaenau?