Effaith Awtomeiddio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:57, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn hapus iawn i wneud hynny? Rwy'n hapus iawn i edrych ar sut y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gyflawni trwy gyfrwng technoleg ddigidol a sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Buaswn yn hapus iawn i barhau â'r sgwrs gyda'r Aelod os oes ganddo syniadau ynglŷn â sut y gellid cyflawni hynny. Gwn ei fod wedi cyfweld yr Ysgrifennydd Parhaol ar y mater hwn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fis diwethaf, a gobeithiaf ei bod wedi llwyddo i'w sicrhau, gyda phrif swyddog digidol Llywodraeth Cymru, Caren Fullerton, fod gan Lywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar y mater hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn rhan o'n cylch gwaith. Ond yn amlwg, os yw awdurdodau lleol a—. Bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, ac os yw'r Aelod yn dymuno parhau â'r sgwrs ar y mater hwnnw, buaswn yn hapus iawn i wneud hynny gyda'r Aelod dan sylw.