Effaith Awtomeiddio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:59, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod. Rwyf am ddweud fy mod yn gweld cyfleoedd digidol fel ffordd o ymestyn, dyfnhau ac ehangu'r cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu'r cyhoedd ac i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau'n haws nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Buaswn yn annog yr holl ddarparwyr gwasanaethau i edrych ar sut y gallant ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol er mwyn sicrhau ein bod yn ehangu'r gwasanaethau digidol sydd ar gael ar hyn o bryd, ond ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n eithrio'r rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau o'r fath.