Effaith Awtomeiddio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:58, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg y bydd awtomatiaeth yn ymestyn i'r dosbarthiadau proffesiynol yn ogystal, megis meddygon a llawer o bobl sy'n gweithio yn y sector iechyd, ond eraill hefyd sy'n rhoi cyngor proffesiynol, a chyngor drwy awdurdodau lleol a'r sector dinesig yn gyffredinol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd llawer o hyn yn cynnig ffordd wych o ategu'r gwasanaethau hynny, gan ganiatáu i bobl gael mwy o amser gyda'r gweithwyr proffesiynol y maent yn rhyngwynebu â hwy yn y bôn, a bod y gweithwyr proffesiynol hynny'n gallu rhoi'r wybodaeth—y wybodaeth ddiagnostig, er enghraifft—y maent yn ei chael o ddeallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun, ac yna'r gwaith dilynol a sicrhau mai llesiant yr unigolyn hwnnw sy'n dod gyntaf ym mha wasanaeth bynnag y maent yn ei gael. Felly, nid wyf yn siŵr y bydd yn dinistrio rhagolygon swyddi i bawb, ond bydd angen protocolau newydd a hyfforddiant gofalus iawn o ran sut i ddefnyddio'r dechnoleg newydd hon, ac os ydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn ohono.