Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rydym wedi clywed gan fusnesau, wrth gwrs, a fydd yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd oedi. Mae yna rwystredigaethau ac anghyfleustra amlwg i breswylwyr. A gaf fi ofyn: pryd y daethoch yn ymwybodol y buasai'r prosiect yn debygol o wynebu gorwariant? Pa ddarpariaethau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dalu am orwariant posibl y cynllun? Hefyd, os yw Llywodraeth Cymru yn atebol am gyfran o gyfanswm cost y gorwariant, beth yw'r gyfran honno? Os nad ydych yn gwybod beth yw'r ffigur hwnnw, a gaf fi ofyn pam nad ydych yn gwybod? Sut y cytunwyd ar gytundeb caffael ar gyfer prosiect o'r maint hwn heb i'ch Llywodraeth amddiffyn trethdalwyr rhag gorwariant nad ydynt yn gyfrifol amdano, os yw hynny'n wir? Yn ogystal, rwyf eisiau gofyn pa gyngor technegol annibynnol y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano mewn perthynas â llawer o'r heriau cymhleth sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn, ac yn bwysig, cyn i'r fanyleb dendro gael ei llunio.