Deuoli'r A465

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:16, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn cytuno gyda'r Aelod. Rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion gynnal dadansoddiad o'r gwersi a ddysgwyd. Rwy'n credu bod yr alwad am reolaethau rheoleiddio tynnach dros gostau'r prosiect hwn yn deg. A hefyd buaswn yn cytuno gyda'r Aelod fod hon yn ffordd arbennig o wych; yn wir, bydd ganddi'r bwa concrit mwyaf o'i fath mewn unrhyw le ar y blaned. Bydd yn brosiect y gallwn fod yn falch ohono. Rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl sy'n dioddef o ganlyniad i'r oedi, ond bydd yn brosiect adeiladu mawr y bydd Cymru yn falch ohono.