Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni fuasai neb yn anghytuno bod hwn yn brosiect peirianyddol heriol iawn ac y bydd yn ffordd dda iawn pan fydd wedi cael ei chwblhau, ond serch hynny, mae yna bryderon ledled Cymru ac yn y Siambr hon, ond yn sicr yn lleol gyda'r trigolion lleol rwyf wedi cyfarfod â hwy, a chredaf y buasai rhai o'u pryderon wedi cael eu cadarnhau gan y datgeliad diweddar ynglŷn â'r gorwariant o 23 y cant. Ers tro byd bellach, rwyf wedi cael cwynion am Costain, y contractwyr, yn gweithredu mewn amgylchedd rheoleiddio ariannol mwy llac nag y buasai trigolion lleol yn ei ystyried yn addas. Felly, rwy'n credu os gallech edrych eto ar hyn a'ch trefniadau ar gyfer Costain—. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—eu bod yn fwy agored i ysgwyddo mwy o'r risg na Llywodraeth Cymru, ac mae hynny i'w groesawu os yw'n wir, ond ar hyn o bryd, yn sicr yn yr ardal leol, mae yna bryderon go iawn ei bod yn ymddangos nad oes yna afael tynn ar gyllid y prosiect hwn, nac yn wir, ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau'r prosiect y buasai pawb ohonom yn hoffi eu gweld. Felly, os gallwch adolygu hynny, buasai'n cael ei werthfawrogi'n fawr.