Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae unrhyw honiadau o gam-drin yn wirioneddol wrthun, ac ni chafodd goroeswyr yr ymateb roeddent yn ei haeddu pan roesant wybod am hyn gyntaf. Buasem yn cynghori unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin i roi gwybod i'r heddlu'n gyfrinachol am honiadau o gam-drin drwy ffonio 101 neu gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, neu'n wir, y Prosiect Gwirionedd ar 0800 917 1000.