3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
3. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr? 76
Mae unrhyw honiadau o gam-drin yn wirioneddol wrthun, ac ni chafodd goroeswyr yr ymateb roeddent yn ei haeddu pan roesant wybod am hyn gyntaf. Buasem yn cynghori unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin i roi gwybod i'r heddlu'n gyfrinachol am honiadau o gam-drin drwy ffonio 101 neu gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, neu'n wir, y Prosiect Gwirionedd ar 0800 917 1000.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ateb. Fel chi a phawb arall yn y Siambr hon, cawsom ein harswydo a'n dychryn gan y cyhuddiadau o gam-drin gan fynach ar Ynys Bŷr a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hyd yn hyn, mae un ar ddeg o fenywod wedi dweud eu bod wedi dioddef cam-drin gan y Tad Thaddeus Kotik pan oeddent yn blant, ac wrth gwrs mae pob un ohonynt yn dioddef canlyniadau gydol oes o ganlyniad i'r cam-drin hwnnw. Yn wir, mae un o'r menywod hynny'n honni bod ail berson wedi ei cham-drin ar yr ynys honno. Ni wyddom pwy yw'r person hwnnw na ble maent mewn gwirionedd, a gwyddom y gallai achosion eraill ddod i'r amlwg hefyd, a buaswn innau hefyd yn annog pobl i roi gwybod am eu pryderon.
Rydym hefyd yn gwybod bod honiadau o gam-drin, wrth gwrs, wedi eu dwyn i sylw'r abad yn Abaty Bŷr yn ôl ym 1990 ond ni roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu ar y pryd, ac ers y dyddiad hwnnw, gwyddom fod troseddwr rhyw, Paul Ashton, wedi cuddio ar Ynys Bŷr am gyfnod o saith mlynedd yn ceisio osgoi cyfiawnder. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod yr holl beth yn drewi. Mae'n drewi o ymdrech fwriadol i guddio'r gwir am gamdriniaeth gan glerigwyr ar yr ynys honno, ynys y bydd plant ifanc yn ymweld â hi'n aml, man a ddylai fod yn ddiogel ac nad yw wedi bod yn ddiogel yn y gorffennol. Ac rwy'n credu ein bod angen atebion. Rydym angen atebion o ran pwy sy'n gwybod beth, pryd, a pham na roddodd yr abaty wybod i'r heddlu am bethau pan ddylent fod wedi gwneud hynny yn syth ar ôl cael gwybod. Rydym hefyd angen gwybod pa bryd y daeth adran gwasanaethau cymdeithasol Sir Benfro i wybod am yr honiadau hyn a pha gamau gweithredu y maent wedi'u cymryd yn y gorffennol, os o gwbl, i amddiffyn plant ifanc sy'n ymweld â'r ynys honno.
Mae hyn yn codi arswyd arnaf a chredaf y buasai'n ddoeth gofyn i chi drefnu ymchwiliad annibynnol i'r hyn a ddigwyddodd, oherwydd mae angen i ni ddysgu gwersi, ac mae angen i ni fod yn hyderus yn awr, yn arbennig o ystyried nad ydym yn gwybod pwy yw'r ail berson hwn, fod plant ifanc yn ddiogel wrth ymweld â'r ynys honno yn y dyfodol. Mae teithiau ysgol yn digwydd o hyd, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae angen i ni fod yn siŵr fod y plant hynny'n cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth.
Diolch i chi am y sylwadau ychwanegol hynny. A gaf fi ddweud, yng ngoleuni'r honiadau newydd a'r honiadau a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar, fod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r honiadau ar hyn o bryd? O ganlyniad, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall, Darren, nad yw'n briodol i mi wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd, oherwydd y risg o beryglu ymchwiliadau ac ymholiadau'r heddlu.
Ond bydd yr Aelodau hefyd yn nodi fod y comisiynydd plant wedi ysgrifennu at abaty Ynys Bŷr eu hunain i geisio sicrwydd, ond hefyd ei bod wedi dweud, ar hyn o bryd, ei bod yn rhy gynnar i alw am ymchwiliad, yn enwedig gan fod y manylion yn parhau i ymddangos a hefyd oherwydd bod ymchwiliad heddlu ar y gweill ar hyn o bryd. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, yn ogystal â'r ffaith bod yr amgylchedd diogelu ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru wedi trawsnewid yn aruthrol, fod yna hefyd wasanaeth cyngor cenedlaethol Catholig ar ddiogelu yn bodoli. Ac fel y soniais, mae'r comisiynydd plant wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at abaty Ynys Bŷr i geisio sicrwydd eu bod yn dilyn polisi diogelu cenedlaethol yr Eglwys Gatholig—eu polisïau diogelu eu hunain yn ogystal—a'u gweithdrefnau amddiffyn plant.
Mae Darren yn llygad ei le pan ddywed ein bod angen atebion i hyn. Mae angen i ni wybod sut y digwyddodd hyn, ond mae angen i ni hefyd—mae'n ymadrodd a gaiff ei orddefnyddio'n aml—ddysgu gwersi ynglŷn â sut y gellir osgoi hyn a lleihau'r risg y gallai hyn ddigwydd eto. Rydym wedi gwneud cymaint yng Nghymru i wella ein gweithdrefnau diogelu, ond os oes gwersi i'w dysgu o hyn, i'r Eglwys Gatholig a hefyd o ran diogelu ehangach, byddwn yn sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi hynny. Ac yn hynny o beth, rwy'n deall y galwadau am yr atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd. Ond ar hyn o bryd, mae yna ymchwiliad heddlu ar y gweill.
Weinidog, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywedasoch wrth Darren Millar, ond mae gennyf ddau bwynt arall yr hoffwn eu gwneud. Y cyntaf yw bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dod yn ymwybodol o'r honiadau hyn yn 2014 ac eto yn 2016. Y rheswm na wnaethant erlyn oedd oherwydd eu bod yn dweud nad oedd llawer o bwynt gan fod y mynach dan sylw wedi marw. Fodd bynnag, dylai rhyw fath o ymchwiliad fod wedi cael ei gynnal, oherwydd sut y gwyddent mai ef oedd yr unig un? Sut y gwyddent nad oedd ganddo gynllwynwyr a oedd yn cuddio pethau? Sut y gwyddent na fyddai plant eraill yn cael eu rhoi mewn perygl? Nid wyf yn hapus iawn gyda chamau gweithredu Heddlu Dyfed-Powys ar y mater hwn, a buaswn yn hoffi gofyn i chi, fel Gweinidog, i ysgrifennu atynt yn y modd cryfaf posibl fel eu bod yn ymchwilio i'r modd y gwnaethant weithredu ac i weld a roddwyd y camau priodol ar waith ganddynt ar y pryd ai peidio, oherwydd credaf fod eu perfformiad yn is na'r safon ar y mater hwn. Dylent fod wedi edrych ar y mater a gwneud rhywbeth mwy na dweud, 'Wel, ta waeth, mae'r dyn wedi marw, mae'n amherthnasol.' Ac rwy'n credu y dylent gael eu dwyn i gyfrif am hyn.
Yr ail bwynt yr hoffwn siarad amdano yw'r ffaith fy mod wedi ysgrifennu at yr abad ar Ynys Bŷr yr wythnos diwethaf i ofyn iddo a fuasai'n cyfeirio'i hun neu'n sefydlu ymchwiliad llawn i'w gynnal gan gorff annibynnol arall. Rwy'n derbyn eich bod yn teimlo na allwch symud ymlaen oherwydd ymchwiliad cyfredol yr heddlu, ond rwyf wedi meddwl mwy am hyn, ac fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae gan yr Eglwys Gatholig eu hunain ymchwiliad annibynnol ar y gweill ar gam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant yn yr Eglwys Gatholig. Rwy'n deall, ar hyn o bryd, eu bod yn edrych ar y cynulliad Benedictaidd, ond tybed a fuasech chi, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog, yn ysgrifennu at yr ymchwiliad hwnnw, a gofyn iddynt a fuasent hefyd yn edrych ar yr Urdd Sistersaidd ar Ynys Bŷr, oherwydd mae ganddynt gylch gwaith ehangach na'r cynulliad Benedictaidd yn unig. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Eglwys Gatholig yn mynd i'r afael â'r mater hwn, a bod hon yn enghraifft arall o ble y credaf y dylent fod yn edrych arno er mwyn sicrhau nad oes cam-drin systemig yn digwydd yn unrhyw un o'r sefydliadau hyn.
Diolch i chi, unwaith eto, am y sylwadau a'r ymholiadau ychwanegol hynny. Ac rydych yn gywir i ddweud bod yna adolygiad ar wahân yn yr Eglwys Gatholig ei hun o'i threfniadau diogelu. Nodwn hefyd fod yr ymchwiliad annibynnol i achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn ystyried methiannau sefydliadau crefyddol, fel rhan o ymchwiliad yn y DU gyfan. Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r ymchwiliad mewn perthynas â'r cam-drin a gofnodwyd, a byddwn wrth gwrs yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae'r ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo, ond hefyd yn ceisio dysgu gwersi o ganfyddiadau ehangach yr ymchwiliad i gyrff crefyddol, i ymchwiliadau sefydliadau crefyddol.
Byddaf yn sicr yn ystyried y pwyntiau sydd wedi cael eu codi ynglŷn ag ysgrifennu ymhellach at eraill, ond mae'n werth nodi, hyd yn oed ar y cam hwn, er nad wyf yn dweud unrhyw beth ynglŷn ag ymchwiliadau cyfredol yr heddlu sy'n mynd rhagddynt—ac mae'n rhaid i mi wneud yn siŵr nad ydym yn peryglu'r ymchwiliadau byw hynny—bydd fy swyddogion, yn ôl fy nghyfarwyddiadau, yn gofyn i CYSUR a bwrdd diogelu canolbarth a gorllewin Cymru sicrhau fy mod i a Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn am gynnydd yr ymchwiliad hyd yn hyn, ond hefyd ynglŷn ag a oes unrhyw ddiffygion yn y trefniadau ar hyn o bryd, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â hynny. Byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol Catholig ar Ddiogelu hefyd i geisio sicrwydd ar faterion hanesyddol, a materion cyfredol yn ogystal. Byddaf yn siarad â fy swyddogion i weld a oes yna sicrwydd ychwanegol y gallwn ei roi, yng ngoleuni'r pwyntiau a gododd yr Aelod.
Yn ychwanegol at y cwestiynau a godwyd eisoes, credaf ei bod yn bwysig tanlinellu bod Ynys Bŷr yn fan pererindod ac yn noddfa, sydd wedi bod yn rhan o'r traddodiad Cristnogol ers dros 1,600 o flynyddoedd yng Nghymru, a bydd pobl yn parhau i fynd yno. A'r mynaich sydd yno ar hyn o bryd, er nad ydynt wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y sgandal, sy'n etifeddu'r traddodiad yno ac felly hwy yw ceidwaid y fflam, yn llythrennol, o ran y safonau sydd angen eu cynnal ar yr ynys.
Yr hyn sy'n peri pryder i mi o'r hyn a glywais ac a ddarllenais yn y wasg, a'ch ymateb heddiw, yw bod y rheolau a oedd ar waith bryd hynny, hyd yn oed ar yr adeg y cafodd y gŵyn wreiddiol ei gwneud—bryd hynny hyd yn oed; rydych wedi sôn am y gwelliannau ers hynny, ond bryd hynny hyd yn oed—yn golygu y dylai'r gŵyn fod wedi ei chyfeirio at yr heddlu. Ni ddigwyddodd hynny, a chafodd y mater ei guddio gan yr abad ar y pryd i bob pwrpas—nid yr abad cyfredol, ond yr abad ar y pryd. Mae hwn yn batrwm o ymddygiad rydym wedi'i weld yn ehangach, nid yn yr Eglwys Gatholig yn unig, ond mewn sefydliadau eglwysig—ym mhob sefydliad, gadewch i ni fod yn onest; mae'n beth sefydliadol.
Felly, er eich bod wrth ymateb i Aelodau eraill wedi sôn am y comisiynydd plant yn ysgrifennu i sicrhau bod gweithdrefnau ar waith, yr hyn yr hoffwn ei glywed gennych heddiw yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, ac yn ddelfrydol, eich bod yn gallu rhoi sicrwydd yma yn y Siambr heddiw eich bod naill ai wedi gweld neu wedi cael sicrwydd ynglŷn â'r gweithdrefnau amddiffyn, nid yn unig ar gyfer plant, ond oedolion agored i niwed hefyd, ar Ynys Bŷr, a bod y gweithdrefnau hyn nid yn unig ar waith, ond eu bod yn cael eu dilyn yn weithredol, a bod yr hyfforddiant cywir wedi'i roi ar waith i sicrhau y buasai'r sefyllfa'n cael ei datrys pe bai unrhyw beth yn digwydd heddiw. Nid mater hanesyddol yn unig ydyw, nid yw'n ymwneud â'r ffaith bod y gweithdrefnau'n wael yn y gorffennol; ni chawsant eu dilyn hyd yn oed. Cafodd pethau eu cuddio'n fwriadol, ac nid oedd mor bell â hynny'n ôl, ac mae'n rhaid i ni gael sicrwydd na all ddigwydd eto.
Mae Simon yn ein hatgoffa o'r ffaith, er na allwn fyth ddiystyru'r posibilrwydd o unrhyw achos o gam-drin—plentyn neu oedolyn—rydym yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd arnom fel Llywodraeth Cymru, nid yn unig yr heddlu, nid yn unig byrddau diogelu, i fod yn weithgar yn ein penderfyniad, nid yn unig i ymdrin â'r materion hanesyddol a godwyd heddiw yn y Siambr, ond hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd. Yn wir, rydym eisoes wedi rhoi camau o'r fath ar waith ar draws Llywodraeth Cymru, nid yn unig o ran newid tirlun cyfan yr amgylchedd diogelu yng Nghymru, ar gyfer oedolion a phlant gyda'r bwrdd diogelu cenedlaethol, y byrddau diogelu oedolion a phlant, ond hefyd yn ein hymateb, er enghraifft, i argymhellion Waterhouse, ac ym mhob achos, os oedd gwersi i'w dysgu a chamau i'w cymryd, fe roesom y camau hynny ar waith, ac rwy'n dweud wrthych y byddwn yn gwneud yr un peth yn awr.
Ac nid ydym yn chwarae rôl oddefol yn hyn o beth. Mae fy swyddogion wrthi'n brysur gyda'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd a'r honiadau sy'n dod i'r amlwg, ond hefyd o ran pa wersi y gellir eu dysgu o honiadau hanesyddol yn ogystal. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd i unrhyw unigolyn mor fach â phosibl. Mae'n gywir yn nodi'r ffaith bod Ynys Bŷr, sydd wedi'i llethu ar hyn o bryd gan yr honiadau sydd wedi dod i'r amlwg, yn lleoliad cysegredig crefyddol i lawer o bobl hefyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, ac mae'n ddyletswydd arnom ni yn ogystal â'r rhai sy'n gweithredu ar lawr gwlad—Heddlu Dyfed-Powys, y byrddau diogelu, Cyngor Sir Benfro ac eraill—i sicrhau ein bod yn rhoi'r trefniadau diogelu ar waith gyda'n gilydd fel na all hyn ddigwydd, ac fel y gallwn ddysgu'r gwersi. Ond mae arnaf ofn fod yn rhaid i chi ddeall nad wyf eisiau gwneud sylwadau pellach, yn enwedig tra bod ymchwiliad byw ar y gweill, ond byddwn yn dysgu pa wersi fydd yn codi o hyn.
Diolch i'r Gweinidog, a'r cwestiwn nesaf, felly, Leanne Wood.