Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Na, ni wneuthum unrhyw awgrym o'r fath. Mae cod y gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog ar gyfer safonau ymddygiad gweinidogol ac ymddygiad personol, a'r un mor berthnasol i'r Prif Weinidog. Rydym yn cydnabod na fu unrhyw gyfle, hyd yn hyn, i gynnal asesiad annibynnol o'r pryderon sylweddol a godwyd mewn perthynas ag ymlyniad y Prif Weinidog wrth god y gweinidogion.
Cafwyd llawer o alwadau—llawer yn y Siambr hon—am benodi cynghorydd annibynnol i fod yn ffynhonnell o gyngor annibynnol ac allanol ar god y gweinidogion, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Yn wir, cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid at hyn yn ei lythyr ar 14 Tachwedd, ac yn wir cyfeiriodd at y broses a ddilynir yn yr Alban, a'i chymeradwyo i'r Prif Weinidog.
Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, ac yn unol â'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban, mae cod y gweinidogion wedi'i ddiwygio er mwyn caniatáu atgyfeirio materion o'r fath at gynghorydd annibynnol lle mae'r Prif Weinidog yn tybio bod angen gwneud hynny. Mae adran 1.4 o'r cod bellach yn darparu y gall y Prif Weinidog ofyn i gynghorydd annibynnol roi cyngor iddo seilio ei farn arni am unrhyw gamau sy'n ofynnol mewn perthynas ag ymddygiad gweinidogion, ac y cyhoeddir canfyddiadau'r cynghorydd. Gall hyn fod yn berthnasol i unrhyw Weinidog, lle y bo'n briodol.