Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Tybed a ydych yn derbyn y gall fod dadl y buasai ymchwiliad seneddol cynnar, os gallaf ei roi felly, o gymorth mewn gwirionedd i unrhyw ymchwiliad annibynnol, yn enwedig gan ei fod yn debygol o ddatgelu materion na fuasent wedi cael eu rhagweld efallai ar yr adeg y buasai cylch gwaith yr ymchwilydd annibynnol yn ei ddilyn?