Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Nid oes unrhyw dystiolaeth fod proses y dull amgen o ddatrys anghydfod, a weithredir y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau'n Effeithiol, yn fwy effeithiol o gwbl. Mae fy etholwr, Mr Gray, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, yn achos prin o'r ganolfan yn caniatáu buddugoliaeth. Cafodd CIGA ei chyfarwyddo gan y ganolfan i gael gwared ar yr inswleiddio o gartref Mr Gray, a gwnaethant hynny, ond yn y broses, achosodd y gwaith cloddio ddifrod helaeth i'r rendr allanol. Argymhellodd adroddiad syrfëwr Mr Gray y dylid ailrendro'r eiddo'n llawn. Gwrthododd CIGA weithredu. Aeth Mr Gray yn ôl at y ganolfan, a ddywedodd nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud, ac mai unig opsiwn fy etholwr oedd mynd â CIGA neu'r cwmni gosod i'r Uchel Lys, ac fel y gwyddoch, mae hynny'n ddrud iawn. Yn aml, y rhai sydd â leiaf o fodd sy'n cael eu brawychu fwyaf gan y broses, a cheir llawer nad ydynt yn trafferthu cwyno. Yn fy marn i, nid yw CIGA yn addas at y diben. Felly, lle mae hyn oll yn gadael y defnyddiwr? Fel y mae Corff Cofrestru a Goruchwylio'r Fargen Werdd yn datgan ar ei wefan, 'Ni cheir llwybr clir ar gyfer digolledu defnyddwyr oherwydd trefniadau contractio cymhleth'.
Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cymhellion sydd wrth wraidd yr amrywiol gynlluniau inswleiddio waliau ceudod yn werth chweil: darparu cartref cynnes a chostau tanwydd is i bobl yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a helpu'r DU i gyflawni ei rhwymedigaethau mewn perthynas â lleihau allyriadau carbon, ond ni all hynny fod yn ben draw ar atebolrwydd a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth y DU, sy'n cynllunio i wneud 1 filiwn o osodiadau pellach, rwymedigaeth i ddatrys y broblem hon. Polisi Llywodraeth y DU sydd wedi chwyddo'r farchnad hon i'w maint enfawr presennol—sy'n werth £800 miliwn yn ôl rhai dulliau o fesur. Llywodraeth y DU sydd wedi methu cymhwyso rheoliadau i ddiogelu pobl rhag camwerthu, a Llywodraeth y DU sydd wedi methu cyflwyno proses dryloyw a chadarn ar gyfer unioni camweddau a digolledu pobl yn briodol.
Rwy'n cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eisoes. Bydd sicrhau bod gosodiadau arfaethedig yn cael eu cyflawni'n annibynnol gan bobl sydd â chymwysterau priodol yn helpu i atal camwerthu yn y dyfodol. Bydd darparu canllawiau i ddeiliaid tai ar gynnal a chadw yn helpu hefyd. Fodd bynnag, buaswn yn gofyn a oes rhagor y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau presennol. Er enghraifft, buasai ail asesiad wedi 24 mis, dyweder, ar ôl gosod yn darparu tystiolaeth gadarn i'w chyflwyno i CIGA ac yn cael gwared ar faich y gost i'r defnyddiwr. Yn y bôn, mae angen i'r cyflenwyr ynni fod yn rhan o'r broses a chymryd cyfrifoldeb dros waith wedi'i is-gontractio a gyfarwyddir ganddynt. Hwy sy'n penderfynu pa fesurau y byddant yn eu hariannu a chyda pha osodwr y maent yn gweithio, felly ni ddylid caniatáu iddynt gamu'n ôl rhag y broblem y maent wedi helpu i'w chreu. Mae'n bosibl y bydd datganoli polisi ynni ymhellach yn 2018 yn cynnig cyfleoedd i wneud hyn, a buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried pa opsiynau newydd a allai fod ar gael i chi mewn gwirionedd.
Agorais drwy broffilio'r dihirod yn y sgandal gynyddol hon, ond diolch byth, ceir rhai arwyr. Mae pob preswyliwr sy'n sefyll yn ddewr yn erbyn camwerthu gan y diwydiant yn deilwng o gydnabyddiaeth. Hoffwn sôn yn arbennig am Pauline Saunders a CIVALLI, y sefydliad gwirfoddol sy'n sefyll dros ddioddefwyr camwerthu gwaith inswleiddio waliau ceudod. Mae Pauline a nifer o ddioddefwyr camwerthu yn yr oriel heddiw, a hoffwn dalu teyrnged i bawb ohonoch am y gwaith a wnewch fel gwirfoddolwyr.
Ond fel y dywedais ar ddechrau fy araith, mae'r broses wedi'i llwytho yn erbyn yr unigolyn. Rhaid inni sefyll yn ddiamwys ar ochr y teuluoedd y mae eu bywydau wedi'u difetha gan y sgandal hon. Fel cam cyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu beth yn union yw'r sefyllfa yng Nghymru a chyhoeddi cynllun gweithredu. Rhaid iddi gydnabod na fydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi bod o fudd i'r rheini sydd eisoes wedi dioddef camwerthu, felly mae'n rhaid cynnwys galwad ar Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad llawn o'r diwydiant, gan gynnwys rheoleiddio gwerthiannau, rôl CIGA, yr angen am broses unioni camweddau a digolledu sy'n deg, rôl Ofgem a chyfrifoldebau'r cwmnïau ynni. Mae'n ymddangos i lawer fod y diwydiant wedi celu'r gwirionedd, naill ai'n fwriadol neu drwy fod yn hunanfodlon. Drwy gefnogi'r cynnig hwn, rydym yn cydnabod bod camwerthu inswleiddio waliau ceudod yn sgandal gynyddol, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr camwerthu a chyfiawnder i'r rheini a fydd yn dioddef yn y blynyddoedd i ddod. Diolch.