Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl. Dadl ydy hi yn y bôn am degwch a chwarae teg. Mae'n fater sy'n effeithio ar fywydau miloedd o bobl yng Nghymru. Mae insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod mewn bron i 14 miliwn o gartrefi ledled y Deyrnas Unedig, ond mewn 3 miliwn o'r rheini, mae o wedi achosi problemau mawr.
Cafodd y math yma o insiwleiddio ôl-weithredol ei hyrwyddo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a chwmnïau ynni, yn ogystal â chynghorau lleol, a'r nod cychwynnol oedd i leihau costau ynni oddeutu £250 y flwyddyn i bob cartref, ac hefyd, wrth gwrs, i fodloni targedau effeithlonrwydd ynni y Llywodraeth.
Mewn llawer o achosion yn fy etholaeth i yn Arfon, nid yw insiwleiddio waliau ceudod ddim wedi cael y canlyniad yna, ond yn hytrach, mae o wedi achosi problemau megis llwydni du, lleithder, pydru sych a difrod i addurniadau a dodrefn. Ac wedyn, mae'r lleithder, yn ei dro, wedi achosi problemau iechyd: asthma a phroblemau anadlu, heb sôn am straen a phryder. Ac, er ei bod hi'n broblem sylweddol, nid oes ymchwil wedi cael ei wneud, o unrhyw fath, y medrwn ni alw'n sylweddol, na galwad cyhoeddus i bobl ddod ymlaen er mwyn adnabod dioddefwyr a chynnig help iddyn nhw.
Cafodd llawer o'r math yma o insiwleiddio ei osod gan gwmnïau ynni neu gan eu his-gontractwyr nhw, fel rhan o gynlluniau Bargen Werdd ac ECO Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a llawer o ddefnyddwyr yn teimlo eu bod nhw'n gallu ymddiried mewn cynllun a oedd yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Nid oedden nhw'n cwestiynu addasrwydd eu heiddo ar gyfer y math yma o insiwleiddio, nac yn cwestiynu gallu'r gosodwyr i'w gosod yn gywir.
Mae'n wir dweud, hyd yn hyn, y bu'r broses iawndal drwy'r Cavity Insulation Guarantee Agency yn anfoddhaol, efo pobl fregus yn dal i ddioddef mewn cartrefi llaith. Mae cynllun gwarantu'r diwydiant wedi siomi llawer o ddioddefwyr, ac mae'r gosodwyr a'r asiantaeth efo hanes o beidio â chymryd y cwynion o ddifrif, gwrthod cynnig mesurau cywiro a gwrthod cynnig iawndal digonol. Mae yna ddiwylliant o osgoi ac anwybyddu ymholiadau cwsmeriaid, methu â darparu atebion llawn i gwestiynu syml a gwadu cyfrifoldeb.
Mae cwmnïau ynni megis E.ON, SSE, Npower ac EDF yn dal i wthio insiwleiddio waliau ceudod, er bod Nwy Prydain wedi rhoi'r gorau i gynnig hyn beth amser yn ôl. Ac, fel y clywsom ni, mae rhaglen Nyth Llywodraeth Cymru—y Llywodraeth yma—yn dal i annog pobl i gael insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod yn y wlad yma, er bod y problemau yn parhau. Mae llawer o'r cwmnïau a gyflawnodd y gosodiadau wedi mynd i'r wal erbyn hyn, ac felly dim ond yr asiantaeth warant sydd gan bobl ar ôl i droi ato fo. Mae dioddefwyr wedi beirniadu'r asiantaeth am fethu ag ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn ag insiwleiddio sydd wedi cael ei osod yn wael neu insiwleiddio sydd wedi'i osod mewn eiddo anaddas.
Yn Arfon, mae Hywel Williams AS wedi bod yn hynod weithgar yn ceisio cefnogi etholwyr. Rydym ni wedi gweld, hyd yma, 80 a mwy o achosion, ac yn yr achosion yna, nid oes gan neb gopi o'r adroddiad cyn-osod a ddylai fod wedi cael ei gwblhau gan y gosodwr cyn cychwyn gwaith insiwleiddio. Ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod CIGA yn parhau i ddatgan y cynhaliwyd asesiadau cyn-osod ar gyfer pob eiddo ac na fyddai'r insiwleiddio wedi cael ei osod os nad oedd yr eiddo yn addas. Mae'n ddrwg iawn gen i, ond nid dyna'r profiad rydym ni wedi ei gael yn Arfon.
Mae un etholwr yn Arfon wedi bod yn brwydro efo'r problemau am bron i bedair blynedd. Aeth y cwmni gosod gwreiddiol i'r wal ac mae'r asiantaeth wedi gwrthod cyfrifoldeb ers dros ddwy flynedd. O'r diwedd, maen nhw wedi cynnig tynnu'r deunydd insiwleiddio allan o un wal, ond rydw i'n deall gan arbenigwyr yn y maes echdynnu fod tynnu insiwleiddio allan o un wal yn creu mannau oer ac yn debygol o waethygu'r broblem yn y tymor hir. Felly, nid ydy hynny'n foddhaol o gwbl.
Mae Hywel Williams wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd i ddarganfod atebion a sicrhau tegwch i etholwyr Arfon a Chymru, ac rydw i'n gwybod bod yna eraill wedi helpu llawer yng Nghymru sydd wedi dioddef. Ac ie, rydw i hefyd yn diolch i Pauline Saunders a CIVALLI am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae'n hen bryd i'r miloedd sydd wedi cael profiadau hollol annerbyniol yn sgil insiwleiddio waliau ceudod gael chwarae teg, ac rydw i'n diolch yn fawr iawn i Mick, Mike a'r gweddill am ddod â'r ddadl yma gerbron.