2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches? OAQ51402
Ie. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth leol, gwasanaethau iechyd a Chynghrair Ffoaduriaid Cymru, yn ogystal â ffoaduriaid a cheiswyr lloches eu hunain, i ddatblygu cynllun cyflawni newydd. Gwneir hyn gyda golwg agos ar adroddiad y pwyllgor 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun'.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn dangos cryn ddiddordeb yng Nghasnewydd, sydd, yn amlwg, yn un o'r dinasoedd ac un o'r ardaloedd mwy amrywiol yn ethnig yng Nghymru, ond hefyd ceir ardaloedd eraill tebyg yng Nghymru o ran hynny. Felly, mae cryn ddiddordeb allan yno ac mae'n dda gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Tybed a allech chi ddweud mwy ynglŷn â sut yr ymdrinnir â'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, a sut y mae'n debygol yr ymdrinnir â hwy, ac mewn perthynas â'r cynllun cyflawni ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pa bryd y mae'r cynllun diwygiedig yn debygol o gael ei gyhoeddi.
Gallaf. Bydd drafft o'r cynllun yn cael ei gyflwyno i'r bwrdd gweithrediadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar 16 Ionawr ac yna'n cael ei gyflwyno wedyn yng nghyfarfod y tasglu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng nghanol mis Mawrth, o ran yr amserlen.
Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn ystyried adroddiad llawn y pwyllgor, ac mae'n adroddiad da iawn os caf ddweud, yn ein dull hollol newydd o edrych ar rai o'r gwasanaethau hyn. Mae'r Aelod yn rhannu etholaeth â mi sy'n cynnwys llawer iawn o deuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid, ac rwy'n rhannu ei bryder.
Mae nifer o brosiectau da ar y gweill. Yn fy etholaeth i—ac rwyf am wneud hysbysiad digywilydd yma, Lywydd, felly hoffwn rybuddio pobl—ceir nifer o lyfrau, a gynhyrchwyd gan gymdeithas farddoniaeth y gymuned ffoaduriaid yn Abertawe, ac mae un llyfr yn dwyn y teitl My Heart Loves in My Language, ac rwy'n herio unrhyw un i'w ddarllen heb lefain y glaw erbyn tudalen 3, sy'n egluro rhywfaint o'r unigrwydd a'r anobaith y mae pobl yn ei deimlo pan nad ydynt yn gallu mynegi eu hunain yn eu mamiaith mwyach. Rwy'n gwbl benderfynol ein bod am wneud yn siŵr fod bywydau'r bobl hynny'n hapusach, yn iachach, ac yn well o lawer nag o'r blaen, a hwythau bellach wedi cyrraedd Cymru'n ddiogel.
Arweinydd y tŷ, mae'n bosibl fod llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau a fyddai'n werthfawr i economi Cymru, ond maent yn cael eu rhwystro gan eu hanallu, neu eu gallu cyfyngedig, i siarad Saesneg. Roedd Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. Felly, a gaf fi ofyn pa gynnydd a wnaed ar ddiweddaru'r polisi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill gogyfer â Chymru erbyn mis Mawrth 2018 i sicrhau bod darpariaeth y cyrsiau hyn yn ddigonol i ateb y galw yng Nghymru, ac yn enwedig de-ddwyrain Cymru?
Mae Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, fel y noda'r Aelod yn gywir, yn rhan hollbwysig o allu sefydlu'n briodol mewn gwlad newydd, ac mewn gwirionedd, i'r wlad newydd honno roi ystyriaeth briodol i'ch sgiliau a'ch gallu i gyfrannu. O ganlyniad, fel rhan o ddarpariaeth sgiliau Llywodraeth Cymru, rydym wedi diogelu cyllid Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill am nifer o flynyddoedd drwy gyllidebau gwahanol. Rydym hefyd yn gweithio'n galed iawn gyda rhaglen adsefydlu Syria yn y DU, er enghraifft, i wneud yn siŵr fod rhaglen Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill yn cael ei dosbarthu'n briodol. Ond ceir problemau gyda hynny, ac nid yw'r gwahanol lefelau o gefnogaeth ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o ffoaduriaid yn helpu mewn gwirionedd.
Rydym yn gwneud llawer o argymhellion ac yn lobïo Llywodraeth y DU i wneud iddynt ddeall y problemau go iawn a geir yn y rhaglen adsefydlu weithiau i bobl yr amharir ar eu gallu i ddysgu iaith. Ceir problem arall hefyd mewn perthynas â phobl sy'n cyrraedd Cymru sy'n siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn eu gwlad eu hunain. Felly, er enghraifft, pe bai Prydain yn ddigon anffodus i fod yn barth rhyfel a'n bod i gyd yn dianc, yna byddai'r rheini ohonom sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn cael hyd yn oed mwy o anhawster wrth geisio dysgu iaith y wlad rydym yn ei chyrraedd na'r rheini ohonom sy'n siarad Saesneg. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried y pethau hyn pan fyddwn yn dylunio'r rhaglenni.
Mae gennym broblem enfawr hefyd lle nad oes gennym ddarpariaeth raddedig, ac felly mae'r bobl sydd â dealltwriaeth sylfaenol o'r Saesneg yn aml yn cael eu rhoi yn yr un dosbarth â phobl nad oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o'r Saesneg, ac mae'r bobl a allai fod yn anelu at gael gwaith hefyd yn y dosbarth hwnnw, ac nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pobl sy'n dechrau o'r gwaelod ychwaith, gan nad oes unman i bobl gamu ymlaen. Felly, mae angen gwneud llawer o waith yma. Mae angen i hynny ddenu swm mawr o arian hefyd, a byddwn yn lobïo Llywodraeth y DU yn frwd i wneud fel y dylai o ran cyllido rhai o'r rhaglenni adsefydlu hyn.