1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ51453
Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol yn cefnogi ysgolion yn Sir Benfro ar y cyd i wella addysg yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn ein cenhadaeth genedlaethol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penaethiaid y siaradais â hwy yn Sir Benfro yn ddiweddar wedi mynegi pryderon eu bod yn teimlo y gall rhoi pwysau ar ddisgyblion ôl-16 i astudio bagloriaeth Cymru gael effaith andwyol ar ddyfodol disgyblion, o gofio nad yw rhai prifysgolion yn Lloegr yn cydnabod y cymhwyster o hyd. Nawr, rwy'n llwyr gefnogi bagloriaeth Cymru, ac wrth gwrs, nid yw'n orfodol o ran ei natur. A allwch gadarnhau pa ganllawiau a gyhoeddir i ysgolion i sicrhau bod athrawon yn hyrwyddo'r amrywiaeth lawn o opsiynau i ddisgyblion ôl-16 yn gyfartal, fel y gall myfyrwyr yn Sir Benfro, ac yn wir, ledled Cymru, gael yr addysg orau bosibl?
Diolch, Paul, a diolch am eich cefnogaeth i fagloriaeth Cymru. Mae'n bwysig cydnabod y gydnabyddiaeth gynyddol i fagloriaeth Cymru gan brifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Hyd yn oed pan nad yw prifysgol yn defnyddio'r pwyntiau sy'n gysylltiedig â bagloriaeth Cymru mewn cynnig, maent yn cydnabod bod y set estynedig o sgiliau y mae myfyrwyr yn ei datblygu wrth ymgymryd â bagloriaeth Cymru yn eu gwneud yn ymgeiswyr cyflawn a gwych i'w cael yn eu prifysgol. Rydym yn annog pob ysgol, lle bo hynny'n briodol ar gyfer y myfyriwr unigol, i ymgymryd â bagloriaeth Cymru, ond rydym yn cydnabod y pryderon hyn ac rydym yn awyddus i sicrhau bod y cymhwyster cystal ag y gall fod. Dyna pam fod Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol o fagloriaeth Cymru, a byddant yn cyflwyno'u hadroddiad cyn bo hir.
A gaf fi ddychwelyd at yr achos a nododd Llyr Gruffydd yn gynharach, ynglŷn â Dylan Seabridge a'r gwersi y mae angen inni eu dysgu o'r profiad hwnnw? Fe ddyfynnaf o'r adolygiad achos, a ddywedai'n benodol, 'Mae'n bosibl, pe bai gweithiwr gofal plant neu weithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld neu siarad â'r plentyn yn ystod cyfnodau diweddarach ei fywyd, y byddent wedi sylwi ar y ffaith bod ganddo rai problemau iechyd nad oedd y rhieni yn ceisio cymorth priodol ar eu cyfer.' Credaf fod hynny'n ymwneud â maes addysgu yn y cartref a'r gofrestr rydych wedi'i chrybwyll. Gwyddom hefyd fod Llywodraeth yr Alban wedi sôn am unigolyn a enwir ar gyfer pob plentyn, er mwyn sicrhau dilyniant o ran gofal ac i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal ac yn cael eu diogelu'n briodol. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef? Neu a all ychwanegu at yr hyn a ddywedodd wrth Llyr Gruffydd yn gynharach ynglŷn â sicrhau na chaiff achos Dylan Seabridge mo'i ailadrodd byth?
Diolch, Simon. Fel y dywedais, fy mhrif gyfrifoldeb ym maes addysg yw sicrhau bod yr awdurdodau lleol sydd â'r ddyletswydd bresennol i wybod a yw plentyn yn derbyn addysg ddigonol yn arfer y swyddogaethau hynny, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i arfer y swyddogaethau hynny'n ddigonol. Rwyf wedi derbyn argymhelliad y comisiynydd plant i gyflwyno cofrestr orfodol mewn egwyddor, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio ar sut y gellid ei sefydlu, ac yn hollbwysig, ei rhoi ar waith. Ond rwy'n cydnabod hefyd, i lawer o deuluoedd sy'n penderfynu addysgu yn y cartref, fod amrywiaeth o resymau dros hynny. Weithiau maent yn teimlo nad ydynt yn cael cymorth gan yr awdurdod addysg lleol, boed hynny mewn perthynas â sefyll arholiadau neu fynediad at Hwb, gan na chaniateir hynny ar hyn o bryd. A gweithio ar draws yr adran—gan fod yn rhaid cael ymagwedd drawsadrannol—ni all yr adran addysg ar ei phen ei hun ddiogelu pob plentyn, a chwestiynau sy'n ymwneud â'r berthynas ag addysg yn unig y gallwn eu gofyn. Ceir rhywfaint o ddadlau ynglŷn ag a ddylid cael y sgwrs honno yn y cartref, neu a allai'r sgwrs ddigwydd yn rhywle arall, a ddylai'r sgwrs ddigwydd yng ngŵydd y rhieni, neu a ddylid gweld y plentyn hwnnw ar ei ben ei hun. Mae'r rhain yn faterion cymhleth lle y mae'n rhaid inni sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau'r teulu a hawliau'r plant, a byddwn yn edrych ar arferion da ledled y Deyrnas Unedig—yn wir, ledled y byd—wrth i ni, ar draws y Llywodraeth, geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod na all cofrestr mewn perthynas ag addysg yn y cartref, ar ei phen ei hun, ddarparu'r holl ddiogelwch y gwn y buaswn innau a chithau'n dymuno ei weld ar gyfer ein plant.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.