2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ51480
Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr hyfforddeion meddygon teulu ledled Cymru, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Mae ein cymhellion a dargedwyd wedi gwneud gwahaniaeth, gyda mwy na 100 y cant o swyddi yn cael eu llenwi yn y rhan fwyaf o gynlluniau hyfforddi meddygon teulu ar draws gogledd Cymru. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill i nodi camau ychwanegol a allai helpu.
Roeddwn yn gwrando â diddordeb, gyda llaw, ar yr atebion a roddoch chi'n gynharach i Rhun ap Iorwerth, ond rŷm ni'n gwybod mai dim ond 3.5 y cant o feddygon dan hyfforddiant y Deyrnas Unedig sydd yng Nghymru, er bod gennym ni, wrth gwrs, 5 y cant o'r boblogaeth ac, mi fuaswn yn dadlau, fod ein hanghenion ni hefyd o safbwynt iechyd yn uwch na hynny. Rwyf jest ddim yn teimlo bod y Llywodraeth yn dirnad lefel y broblem sydd gennym ni yng ngogledd Cymru. Mae niferoedd meddygon teulu dan hyfforddiant yn y gogledd yn tua dau i bob 100,000 o'r boblogaeth. Nawr, yng Nghaerdydd, mae tua chwech i bob 100,000 o'r boblogaeth, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda'r sefyllfa, felly, ar ei gwaethaf erbyn hyn yn y gogledd. Felly, a gaf i ofyn: pryd bydd y Llywodraeth yn cydnabod o ddifrif anghenion penodol y gogledd yn y cyd-destun yma er mwyn datrys y broblem unwaith ac am byth?
Rwy'n hapus i ymateb ynglŷn â lle rydym arni eleni a'r dull y byddwn yn ei fabwysiadu mewn rowndiau o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn y dyfodol. Fel erioed, byddwn yn edrych ar y nifer gywir o leoedd, beth rydym ei eisiau a'r hyn y credwn y gallwn ei lenwi yn rhesymol. Dywedais ar ddechrau rownd y flwyddyn rydym newydd ei chwblhau y buaswn yn hapus i orlenwi os gallwn wneud hynny, a dyna'n union a wnaethom. Mae hynny'n cynnwys gogledd Cymru: cynigiwyd 24 o leoedd ond penodwyd 25 o ymgeiswyr mewn gwirionedd ar draws y tair ardal yng ngogledd Cymru lle mae hyfforddiant yn digwydd. Mae hynny'n dangos ein bod wedi cadw at ein gair.
Wrth inni fynd drwy'r flwyddyn hon, a chan ddychwelyd at gwestiwn blaenorol gan un o'ch cyd-Aelodau ynglŷn â'r ffordd rydym wedi cyhoeddi niferoedd hyfforddi meddygon, a meddygon teulu yn arbennig, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar nifer y bobl a lle byddant, mewn modd cwbl dryloyw, oherwydd nid oes unrhyw ran benodol o Gymru lle y gallech ddweud nad oes unrhyw her yn y maes hwn. Ac mae'n rhaid cael gonestrwydd ynglŷn â chydnabod bod hwn yn faes anodd a heriol ar gyfer pob rhan o'r DU, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yng Nghymru yw cael y nifer gywir o bobl a gwneud yn siŵr ein bod yn llenwi'r lleoedd hynny. Mae'n ymwneud â hyfforddiant o ansawdd uchel yn ogystal â chadw gweithwyr yn ein system gofal iechyd yma yng Nghymru—yng ngogledd Cymru, de, canolbarth a gorllewin Cymru—mae gan bob rhan o'r wlad her i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael â hi.
Rwyf bob amser yn teimlo ei bod yn hawdd i'r wrthblaid feddwl am atebion, ond pan fyddwch yn Llywodraeth, mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau, ac mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â lle'r gweithlu iechyd yn ei gymuned a gwahanol rannau o'r wlad. Yn hynny o beth, croesawaf y cynnydd a wnaed gan ein hymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' a'r buddsoddiad diweddar i gynyddu nifer y nyrsys, ffisiotherapyddion ac ymwelwyr iechyd galwedigaethol. Rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno â mi ein bod angen hyfforddi rhagor o feddygon—ac rwy'n derbyn hynny—ond er mwyn iddynt allu chwarae eu rhan mewn gweithlu pwysicach a mwy amlddisgyblaethol, fod angen i ni drin pobl yn nes at adref, ac mai un elfen yn unig yw meddygon mewn system gyfan?
Ie, rydych yn hollol gywir, Joyce: mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym y nifer gywir o feddygon teulu, fel arweinwyr gwirioneddol bwysig ym maes gofal iechyd lleol, ond i'r un graddau, eu bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach ar gyfer darparu gofal. Yn ddiweddar, yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol roedd yn galonogol gweld arweinwyr meddygon teulu, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd, yn cydnabod mai dyna'r peth cywir iddynt ei wneud. Ac mae angen i ni eu cefnogi, yn y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu hyfforddiant i'r gweithlu, sy'n egluro'r cynnydd o £12 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ac iddynt gael eu hyfforddi a gweithio gyda chydweithwyr sy'n feddygon teulu fel rhan o'r tîm hwnnw. Ac mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â darparu gofal gwell, a gofal gwell y byddai'n well gan yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny—meddygon teulu ac eraill—weithio ynddo mewn gwirionedd. Mae yna her oherwydd nad yw pawb wedi cyrraedd y fan honno, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod ei fod yn well i'r staff ac yn well i'r dinesydd yn ogystal. Rydym yn cael gwell gwerth ohono a gwell gofal hefyd yn y pen draw. Felly, bydd honno'n thema gyson yn y Llywodraeth hon, ac nid wyf am ymddiheuro am sôn am feddygon teulu ac eraill fel rhan o dîm gofal ehangach, ac nid wyf am wahanu un grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol oddi wrth un arall.
A allwch ddweud wrthym pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod hyfforddiant meddygon teulu yn ystyried y cyfleoedd gwych y mae technoleg newydd yn eu darparu ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yn y dyfodol? Fe fyddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, fod yna apiau y gall pobl eu lawrlwytho bellach, ar eu ffonau symudol hyd yn oed, er mwyn cael ymgynghoriadau gyda meddyg teulu, ac mae angen i ni fod ar flaen y gad gyda hyn. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â'r datganiad hwnnw. Felly, beth yn benodol sy'n cael ei gynnwys yn y cynnig hyfforddiant cyfredol i wneud yn siŵr y bydd meddygon teulu yn gallu defnyddio'r mathau hyn o bethau yn y dyfodol?
Nid yw'r fframwaith cyfredol yn ymwneud â meddygon a hyfforddiant yn unig; mae hefyd yn ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant sy'n digwydd drwy'r proffesiwn. Er enghraifft, yn y gynhadledd ddiweddar ar ddiogelwch meddygaeth gyda Chymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, cyhoeddais y byddwn yn cyflwyno treial i roi mwy o fynediad i fferyllwyr at gofnodion meddygon teulu, ac os yw hynny'n llwyddiannus, bydd yn cael ei gyflwyno i fferyllfeydd eraill sy'n rhan o'r rhwydwaith Dewis Fferyllfa yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Bydd angen hyfforddiant a dealltwriaeth o'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r fferyllydd yn ogystal â'r meddygon teulu eu hunain.
I fod yn deg, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yn cymryd rhan lawn yn y drafodaeth ynglŷn â sut y gellid gwneud gwell defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â chyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma, i sôn am yr hyn rydym yn ei wneud eisoes a beth fydd angen i'n huchelgeisiau fod ar gyfer y dyfodol. Felly, nid yw'n fater syml o ddeall y cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gweithio mewn ffordd wahanol, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym yn gwneud hynny ar sail fwy olynol a disgwyl i feddygon teulu ac eraill allu addasu i wneud hynny yn ogystal. Ceir llawer o gyfleoedd, ond ein her fwyaf mewn llawer o ffyrdd yw sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn cadw i fyny gyda'r disgwyliad o sut y mae pobl eisoes yn byw eu bywydau heddiw. Nid ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod; mae rhagor o gynnydd i'w wneud, ond rwy'n obeithiol ynglŷn â ble y byddwn wedi cyrraedd mewn ychydig flynyddoedd.