1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2018.
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad China i wahardd mewnforion plastig ar Gymru? OAQ51528
Cyfeiriaf yn ôl at yr atebion a roddais i'r cwestiwn blaenorol, ond gallaf ddweud mai ein hasesiad ni yw bod gan Gymru gryn dipyn o gydnerthedd yn erbyn y gwaharddiad oherwydd ein polisïau ar gyfer ailgylchu ansawdd uchel. Hefyd, rydym ni'n gweithio i gael ansawdd uwch fyth ac i gynyddu'r nifer sy'n ailgylchu plastig yng Nghymru, gan ddiogelu busnesau a chreu swyddi.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod atal y defnydd o blastig yn y lle cyntaf yn allweddol i leihau unrhyw allforion yr oedd eu hangen. A yw e'n credu mai un o'r ffyrdd o bosibl o wneud hyn yw cynnig cymhellion i awdurdodau lleol ddod â ffynhonnau dŵr yfed yn ôl i ddefnydd? Oherwydd, os oes gennych chi ffynhonnau dŵr yfed ar gael yn eang, mae hynny'n cael gwared ar yr angen am y poteli plastig o ddŵr y mae llawer o bobl yn eu cario o gwmpas. Felly, a yw'n credu y byddai cyflwyno ffynhonnau yn eang yn ffordd dda o symud ymlaen?
Mae'n syniad diddorol, mae'n rhaid i mi ddweud. Bu amser maith ers pan oedd ffynnon yfed yn gweithio yn fy nhref enedigol i. A dweud y gwir, nid wyf yn ei chofio yn gweithio, ond mae'n dal i fod yno yn fy nhref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn defnyddio ffynhonnau pe bydden nhw yno. Nid yw'n amser maith mor faith â hynny yn ôl y byddai'r syniad o brynu dŵr mewn potel blastig wedi ymddangos yn rhyfedd iawn i lawer ohonom ni, pan oedd yn dod allan o'r tap. Nid tan i mi fyw yn Llundain ddiwedd y 1980au y sylweddolais pam roedd pobl yn Llundain yn yfed dŵr potel, o ystyried ansawdd y dŵr a oedd yno, yn sicr ar y pryd.
Ond rwy'n credu bod hwnnw'n syniad sy'n werth ei ystyried. Pa un a oes unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi o ganlyniad, wn i ddim. Ni allaf weld, yn synhwyrol, pam y dylai fod, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ymgymryd ag ef ac yn ysgrifennu at yr aelod ymhellach yn ei gylch.
A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod y meintiau enfawr o blastig yr ydym ni wedi bod yn eu hallforio i Tsieina wedi cael eu hailgylchu'n briodol, yn hytrach nag, er enghraifft, cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi?
Wel, rydym ni'n gwybod na allwn ni barhau—. Hynny yw, o ran yr hyn sy'n digwydd yn Tsieina, mater i'r Tsieineaid yw hynny yn y pen draw, ond maen nhw wedi ei gwneud yn eglur iawn na fyddan nhw'n derbyn mwy o blastig. Rwy'n credu, yn y tymor canolig i'r tymor hir, y gallai gwaharddiad y Tsieineaid helpu i wella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy. Bydd yn annog buddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu yma yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economi gylchol.
Mae'r her yno nawr i fusnesau weld y cyfle sy'n cyflwyno ei hun nawr, oherwydd nid yw'n wir mwyach bod dewis amgen rhad sy'n ei gwneud yn anodd i'r model busnes weithio. Ceir cyfle nawr i ailgylchu mwy yng Nghymru a chreu mwy o swyddi yng Nghymru.
Dylai fod yn brofiad cenedlaethol, does bosib, nad ydym ni yn allforio ein gwastraff ac, yn benodol, nad ydym ni'n allforio gwastraff plastig. Ie, gostwng faint o blastig yr ydym yn ei ddefnyddio, fel yr oedd Julie Morgan yn awgrymu, ond, pan fo plastig yn cael ei ddefnyddio, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ailddefnyddio cyn iddo hyd yn oed gael ei ailgylchu. Nawr, mae ailddefnyddio yn dibynnu ar system debyg i ryw fath o flaendal ar boteli, so rhyw fath o gynllun dychwelyd blaendal. Mae yna gytundeb rhwng ei blaid yntau a'm plaid innau ynglŷn ag edrych i mewn i hynny yn sgil y gyllideb. Pa fath o rôl y mae e'n ei gweld ar gyfer cytundeb o'r fath ac ar gyfer cynllyn o'r fath i wneud yn siŵr ein bod ni'n ailddefnyddio mwy o blastig?
Dyna un peth, wrth gwrs, y bydd adroddiad y mis nesaf yn ei ystyried: ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio, a hefyd, wrth gwrs, ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n gallu hybu pobl i sicrhau eu bod nhw'n defnyddio llai o blastig. Y broblem sydd wastad wedi bod gyda ni, wrth gwrs, yw bod y rhan fwyaf o'r gwastraff—nid dim ond plastig, ond y rhan fwyaf o'r gwastraff—sy'n codi yng Nghymru yn dod o'r tu fas i Gymru. Nid ydym ni'n gallu dodi rheolau i mewn ynglŷn â fel y mae pethau yn cael eu lapio, ac rŷm ni wastad wedi gorfod delio â beth sy'n dod i mewn i Gymru. Ond nid yw hynny'n meddwl allwn ni ddim ystyried cynlluniau er mwyn lleihau'r plastig sydd ddim yn cael ei ailddefnyddio. Dyna beth fydd y rhaglen yn edrych arno, a dyna beth fydd yr adroddiad—rhan o'r adroddiad—yn edrych arno pan fydd yn cael ei gyhoeddi mis nesaf.