– Senedd Cymru am 6:21 pm ar 10 Ionawr 2018.
Felly, symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly yw'r un ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhwydwaith ffyrdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw beth ar fy sgrin. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Ac felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 52, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, roedd 17 yn ymatal 17, a 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6619 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.
2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.
4. Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dai i bobl ddigartref, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. A gawn ni i gyd bleidleisio'n ddistaw os gwelwch yn dda oherwydd mae'n ddryslyd, y cyntaf yn ôl? Efallai nad yw i chi; rydych chi i gyd yn glyfar iawn, ond i mi, rwy'n ceisio cadw rheolaeth yma. Felly, os gallwn fod ychydig yn ddistawach, byddaf yn gwybod lle rydym arni wedyn. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
Felly, nid yw'r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, ac nid yw wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, felly, gwrthodwyd y cynnig. Iawn, dyna ni. Diolch yn fawr iawn.