– Senedd Cymru am 6:25 pm ar 10 Ionawr 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n ddistaw os gwelwch yn dda, ac os ydych yn aros yn y Siambr, byddwch yn dawel. Os ydych yn cael sgyrsiau, a allwch eu cael y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda?
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis. Janet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns AC, Suzy Davies AC a David Rowlands AC, ond nid yw ef yma. Iawn.
Mae tyfu'n hŷn neu aeddfedu mewn oed yn rhywbeth y dylid ei fwynhau; mae hefyd yn rhywbeth i'w ddathlu. Yng nghymdeithas heddiw gyda'r defnydd o dechnoleg wyddonol, cynnydd mewn meddygaeth fodern, cymdeithas fwy cefnog, ni all fod y tu hwnt i allu unrhyw genedl neu ei Llywodraeth i hyrwyddo, i rymuso ac i gydnabod gwir werth y bobl ryfeddol hyn i gymdeithas—mae 800,000 ohonynt, mewn gwirionedd, yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mewn poblogaeth o oddeutu 3 miliwn, mae'n nifer sylweddol, ac maent yn haeddu parch, hawl i'w hannibyniaeth, a rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.
Mae Cymru wedi bod yn genedl sydd wedi arloesi er budd ein pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd, gyda chreu rôl comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2006. Rhaid i mi roi teyrnged i Sarah Rochira, ein comisiynydd yn awr, am ei gwaith rhagorol ar ran ein dinasyddion hŷn. Fodd bynnag, mae'r amser wedi dod i gydnabod yr hawliau sylfaenol hyn, i rymuso ac ymgorffori'r hawliau mewn siarter, a deddfwriaeth, fel rydym wedi galw amdani yn ein maniffesto, a fydd yn cofnodi'n gadarn yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, y cânt eu hamddiffyn, ac y byddant yn cael eu gwerthfawrogi fel y maent yn ei haeddu.
Er mwyn galluogi pobl hŷn i deimlo perchnogaeth ar eu hawliau ac i sefydlu agweddau cadarnhaol mewn cymdeithas ac yn y gweithle, mae cael set benodol o hawliau o fewn y cyd-destun Cymreig penodol yn hanfodol. Wrth ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, gallwn gefnogi pobl ledled Cymru i barhau'n aelodau gweithgar o'r teulu, ein cymuned, a'n cymdeithas, yn wir.
Nod cyffredinol y ddadl hon yw galw am gyflwyno mesurau, wedi eu codeiddio yn y gyfraith, i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, hybu heneiddio'n dda a gwreiddio llesiant pobl hŷn yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Gan ddatblygu ymhellach o'r datganiad presennol o hawliau pobl hŷn yng Nghymru, byddai siarter o'r fath neu Fil pobl hŷn yn ymgorffori hawliau pobl hŷn yng nghyfraith Cymru, gan roi dyletswydd uniongyrchol o sylw dyledus i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y ddyletswydd i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau a materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Byddai hefyd yn gosod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i hybu gwybodaeth am hawliau pobl hŷn a dealltwriaeth ohonynt ledled Cymru.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi bod yn hyrwyddwr go iawn, a dywedaf hynny ddwywaith er mwyn cymeradwyo'r gwaith y mae wedi'i wneud. Mae hi wedi creu argraff fawr arnaf—heb ofn na ffafriaeth, mae hi wedi sefyll dros y bobl y mae hi yno i'w cynrychioli. ac yn sicr nid yw'n cilio rhag herio'r Llywodraeth a sefyll dros y genhedlaeth wych hon pan fo'u hiechyd, ansawdd eu bywydau a'u hurddas mewn perygl. Mae pwysigrwydd hawliau penodol o'r fath yn amlwg wrth inni edrych ar achosion lle mae polisïau sy'n ymwneud â phobl hŷn wedi'u gwthio i'r cyrion gan Lywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar, clywsom na fydd y strategaeth weinidogol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymysg pobl hŷn yn cael ei chyhoeddi bellach tan y flwyddyn nesaf, 2019—rhy hwyr i lawer o'n pobl hŷn. Gwyddom fod unigrwydd yn risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mewn cymhariaeth, mae'n cael ei gymharu mewn gwirionedd ag ysmygu o ran y niwed y mae'n ei wneud ac mae'n effeithio ar 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru. Ymhlith pobl hŷn yn enwedig, mae Age Cymru wedi canfod bod 300,000 o unigolion yn teimlo y gall eu diwrnodau fod yn ailadroddus ac nid oedd 75,000 ohonynt yn edrych ymlaen at y Nadolig diwethaf.
Yn amlwg mae angen inni gymryd camau brys i wella ansawdd bywyd mewn cymdeithas ar gyfer ein pobl hŷn. Mae'n hanfodol ein bod yn gweld mwy o ffocws gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygu atebion polisi arloesol, gan gynnwys integreiddio go iawn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi braidd yn anodd pan fyddwch yn sefyll yma, a ninnau'n gwybod ein bod wedi cael Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac nid ydym fymryn yn agosach at weld y gwasanaethau hynny'n integreiddio go iawn. Cafodd ei addo ers amser hir, ond ni chafodd erioed mo'i gyflawni.
Byddai siarter i Gymru neu fesur hawliau, wedi ei godeiddio mewn cyfraith, yn gwneud hawliau yn y meysydd hyn yn enwedig yn fwy perthnasol i bobl hŷn ar sail unigol ac yn eu galluogi i nodi pan nad yw eu hawliau'n cael eu parchu, a chaniatáu iddynt herio darparwyr gwasanaethau. Mae'r rhain yn hawliau sylfaenol bellach o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a Deddf Hawliau Dynol 1998, ond mae angen iddynt fod yn hawliau sylfaenol yma, gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, wyddoch chi, ac wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru er mwyn anrhydeddu'r hawl i ryddid, yr hawl i ddiogelwch a'r hawl i wneud penderfyniadau am eu bywydau, rhyddid i gymdeithasu, a rhyddid rhag triniaeth annynol a diraddiol. Gallai perchnogaeth mor uniongyrchol ac amlwg ar yr hawliau hyn arwain yn uniongyrchol at wella hyder llawer o bobl i allu herio gwasanaethau gwael.
Byddai hyn yn ategu pwerau ychwanegol posibl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a argymhellir yn y Bil drafft presennol, gan annog mwy o bobl hŷn i godi llais lle maent wedi profi triniaeth wael, yn arbennig triniaeth sy'n ymwneud â'u hoedran. Rydym yn gwybod bod hyn yn bwysig. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah, wedi nodi bod rhagfarn oed a gwahaniaethu ar sail oedran yn cael eu goddef yn eang ar draws y byd. Ymhellach, mae'n dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarantu yw drwy ddeddfwriaeth, a deddfwriaeth a fyddai'n creu dyletswyddau penodol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.
Fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig—ac rwy'n hynod o falch o allu gweithio gyda hwy ar hyn—rydym wedi bod yn galw ers amser am sicrhau atebolrwydd y comisiynydd a'i wneud yn benodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Oherwydd ceir gwrthdaro, mae yna bwysau, a phan ydym wedi clywed heddiw ddiwethaf am ddiwylliant gwenwynig o fwlio yn ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru, credaf fod pobl, pan fyddant yn rhan o gymdeithasau, grwpiau a sefydliadau sydd yno, yn y bôn, i amddiffyn ein dinasyddion—na ddylent deimlo eu bod yn cael eu dychryn na'u bygwth mewn unrhyw ffordd gan y Llywodraeth hon. Gellid cynnwys newid o'r fath ochr yn ochr â chyflwyno'r math hwn o ddeddfwriaeth.
Byddai sicrhau atebolrwydd fel hyn yn caniatáu ar gyfer craffu trawsbleidiol priodol ar ddeddfwriaeth benodol ar gyfer pobl hŷn. Byddai hyn yn gyfle i wneud hynny'n realiti. Ddirprwy Lywydd, mewn digwyddiadau a gynhaliwyd gennyf, wrth siarad ag etholwyr, drwy ymweliadau amrywiol â chartrefi, hosbisau, ac ysbytai, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn, yn enwedig y rheini sy'n fwy agored i niwed. Maent yn teimlo na chlywir eu lleisiau. Nid yw eu hawliau'n cael eu parchu. Ceir llawer ohonynt nad ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau hyd yn oed. Ac mae ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei gael weithiau yn gostwng. Mae'r comisiynydd wedi cyfeirio at dystiolaeth anecdotaidd o'r fath hefyd. Mae hi wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y gall hyn ei chael ar eu bywydau. Nid oes raid ond edrych ar y gwaith a wnaeth ar ofal cymdeithasol a'r cartrefi gofal a rheoli gofal cymdeithasol ledled Cymru. Cafodd ei adael yn wasanaeth sy'n ddiffygiol iawn.
Bydd sicrhau bod hyrwyddo a diogelu hawliau clir y gall pobl hŷn deimlo perchnogaeth arnynt yn mynd yn bell i sicrhau bod y ddemograffeg hon ledled Cymru yn byw heb gael eu cam-drin, heb eu hesgeuluso, heb ragfarn a gwahaniaethu, ac yn gallu parhau i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau a ffynnu wrth fynd yn hŷn. Rhaid inni beidio ag anghofio y bydd pob un ohonom yma, a phawb ar y tu allan, yn mynd yn hŷn. Yn sicr, nid ydym—. Nid yw'r cloc yn mynd tuag yn ôl; mae'n mynd ymlaen. Felly, beth pe baem yn gallu bod yn arweinwyr ac yn arloeswyr yma yng Nghymru, a mynd ati o ddifrif i ymgorffori hawliau ein pobl hŷn er mwyn eu diogelu?
Yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru yw drwy ddeddfwriaeth fawr ei hangen sy'n creu dyletswyddau penodol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn debyg i'r ffordd y cafodd y Mesur plant ei gryfhau ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc yn 2011, a gwneud hawliau yn fwy perthnasol a real i unigolion. Ni allaf ddeall pam y mae gennym yr hawliau hynny wedi'u hymgorffori ar gyfer plant a phobl ifanc—ac yn amlwg, rwy'n parchu'r rheini ac rydym eu heisiau—ond mae ein pobl hŷn yn eu haeddu lawn cymaint. Rydym yn sôn am gydraddoldeb mor aml yn y Llywodraeth hon, ond hyd nes y cawn yr hawliau hyn wedi'u hymgorffori mewn siarter neu mewn deddfwriaeth gadarn, byddwn yn gwneud cam â'r 800,000 hynny yn awr, ond mae'n ddemograffeg sy'n tyfu ac mae'n mynd i fynd yn llawer mwy. Diolch. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cysyniad hwn, a buaswn yn eich annog i'w ystyried, Weinidog, oherwydd ddoe ddiwethaf cawsom ddadl ynglŷn â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Roeddem yn sôn am barch, a pharch at blant, ac weithiau rydym yn anghofio bod pobl hŷn hefyd yn haeddu'r parch a'r goddefgarwch hwnnw, oherwydd credwn eu bod wedi wynebu troeon yr yrfa, eu bod yma, eu bod oll yn rhan o bethau. Gadewch i mi roi un enghraifft o sut y mae angen inni newid yr iaith a ddefnyddiwn wrth siarad â phobl hŷn. Adrannau damweiniau ac achosion brys, maent yn orlawn—nid o bobl hŷn drwy'r amser, ond o blant ifanc gyda bronciolitis a phob math o bethau eraill. Ond beth rydym yn ei glywed o hyd? Blocio gwelyau—'hen bobl yn blocio gwelyau a bod yn y ffordd'. Mae bod yn hen yn rhywbeth i'w ddathlu. Mae'n wych i fyw bywyd hir. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw rhoi urddas i bobl sy'n mynd yn hŷn.
Yn fy etholaeth i, mae gennym nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl hŷn yn yr etholaeth, ac mae llawer o bethau y gellid eu gwneud i wella eu bywydau, ond yn hytrach, rydym yn dileu gwasanaethau. Rydym yn anghofio meddwl sut y mae person hŷn yn ymdopi â'u diwrnod, yn ymdopi â'u hwythnos, yn ymdopi â'u bywydau. Pe bai gennym siarter o'r fath a'i bod yn cael ei hymgorffori, byddai o leiaf yn ein gorfodi i ystyried sut y mae person hŷn yn byw eu bywyd, yr heriau sy'n rhaid iddynt eu hwynebu, eu gallu i ddefnyddio trafnidiaeth, gofal iechyd a rhyngweithio cymdeithasol. Oherwydd, fel y mae Janet wedi ei ddweud, unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol yw un o'r prif bethau sy'n lladd pobl hŷn. Gallai hon fod yn ffordd ymlaen—
Mae'n funud—
—a buaswn yn eich annog, Weinidog, o leiaf i ystyried hyn. Diolch.
Un o fy mhryderon am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel y'i cymhwyswyd yng Nghymru yw ei fod ond yn ein rhwymo ni yma yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi galw ers tro—yn sicr ar yr ochr hon i'r Siambr—am ymgorffori'r hawliau hynny ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, ac yn sicr yn ein gwasanaethau iechyd. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych wedi ystyried, wrth edrych ar hawliau pobl hŷn, a ddylai fod yn ofynnol i bob un o'n meysydd gwasanaeth cyhoeddus roi sylw dyledus iddynt, nid ni yn unig yma yn y Cynulliad ac ar lefel Llywodraeth Cymru. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y cyfle i'r comisiynydd pobl hŷn fod yn atebol a chael eu dewis gennym ni yma yn y Cynulliad, yn hytrach na'r Llywodraeth, a gofynnaf i chi ystyried hefyd, os ydym o ddifrif am gyflwyno hawliau, dylai fod dyletswyddau ynghlwm wrthynt er mwyn sicrhau y cedwir yr hawliau hynny.
Diolch yn fawr iawn. Nawr, a gaf fi alw ar y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Janet am ddod â'r ddadl hon ger ein bron heddiw, a hefyd i'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu, a'r rhai sydd wedi aros yma i wrando ar y ddadl bwysig hon hefyd, ar bwnc pwysig iawn? Hefyd rwy'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r comisiynydd pobl hŷn, Sarah Rochira, y cyfarfûm â hi yn gynnar yn fy swydd fel Gweinidog, a byddaf yn parhau i gyfarfod â hi'n rheolaidd. Y peth pwysig am rôl y comisiynydd pobl hŷn yw ei hannibyniaeth, a'r ffaith ei bod hi'n teimlo y gall siarad yn rymus dros hawliau pobl hŷn, a bydd yn gwneud hynny'n aml, a'i bod yn teimlo'n rhydd i feirniadu polisi Llywodraeth, lle bo'n briodol—a bydd hefyd, rhaid i mi ddweud, yn teimlo'n rhydd i gydnabod lle mae'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon wedi gwneud camau breision. Gwn nad oedd honno'n nodwedd fawr o'r cyfraniad agoriadol, ond mae hi mewn gwirionedd—a gallaf weld yr Aelod yn nodio—wedi cydnabod bod Cymru wedi gwneud llawer o bethau da yn y maes hwn ac wedi arwain y ffordd. Yn ysbryd y ddadl a'r ffordd y cafodd ei chynnig, rwy'n credu mai dyna lle mae angen inni gadw ffocws—ar Gymru yn arwain y ffordd. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw.
Credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli mai'r unig ffordd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn yw drwy weithio gyda'n gilydd. Ymrwymiad a rennir ar draws y sector statudol, ond hefyd y sector preifat—ac rydym yn aml yn anghofio'r trydydd sector hefyd—yw llunio a darparu gwasanaethau sy'n sensitif i anghenion unigol pobl hŷn yng Nghymru. A rhaid i bob un o'r gwasanaethau hynny weithio i helpu pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd a chyhyd ag y maent yn dewis gwneud hynny, a gwneud hynny, fel y nodwyd, gydag urddas a pharch. Nid yw pawb ohonom yn mynd i gyrraedd oed Methwsela, a oedd yn 969 rwy'n credu, yn cael plant wrth i chi droi'n 100 a 200 a 300 oed, ond byddwn yn byw bywydau hwy, ac mae gallu gwneud hynny yn iach ac yn dda a byw gydag urddas ac yn ddiogel yn rhan bwysig o'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r agenda hon yng Nghymru. Gyda llaw, dyna pam y mae'r asesiadau o anghenion poblogaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar mor bwysig fel arwydd o faint yr her a sut y mae angen inni ymateb i'r her honno. Cyhoeddwyd yr adroddiadau asesu poblogaeth cyntaf y llynedd. Maent yn darparu sylfaen dystiolaeth glir a phenodol er mwyn llunio ystod o benderfyniadau cynllunio a gweithredu, ac rwyf am droi yn awr at rai o'r heriau hynny a'u maint.
Dangosodd inni fod pobl hŷn, fel y nodwyd yn y sylwadau agoriadol, yn arbennig o agored i unigrwydd ac arwahanrwydd, a dof yn ôl at hynny mewn eiliad. Mae pawb ohonom yn gweld hynny, gyda llaw, fel Aelodau Cynulliad unigol ac mewn ffrindiau a chymdogion ac o fewn ein cymunedau ein hunain, felly byddaf yn dychwelyd at hynny. Gwyddom o'r asesiad fod nifer gynyddol o bobl hŷn â dementia, a rhagwelir y bydd yn codi. Ceir eiddilwch cynyddol, afiechyd cynyddol. Gwelwn hyn—pobl hŷn ag anghenion cymhleth ac yn aml â phroblemau cydafiachedd cymhleth hefyd. Mwy o gwympiadau—gall pethau syml fel hynny effeithio'n fawr ar ansawdd bywyd unigolyn os na ddarparir y cymorth a'r cyfarpar cywir iddynt allu osgoi cwympo yn y cartref. Sut rydych chi'n byw'n annibynnol heb hynny? Rydym yn gwybod bod angen i bobl hŷn gael eu cynorthwyo i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, fod angen i bobl hŷn sydd ag anghenion mwy cymhleth gael eu cefnogi mewn gofal preswyl a gofal nyrsio priodol yn ogystal a bod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu nam ar eu golwg a'u clyw ac ati ac ati. Dyma'r heriau—rhai o'r heriau.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau hyn a diogelu hawliau pobl hŷn a sicrhau urddas ar ôl ymddeol a diogelwch pobl hŷn. Rwyf am droi at rai o'r ffyrdd yr ydym eisoes yn gwneud hyn cyn edrych ar ffyrdd y gallwn fwrw ymlaen yn y dyfodol. Drwy ein deddfwriaeth bresennol, ymgorfforir hawliau pobl hŷn yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cymerodd yr Aelodau yma ran yn y dadleuon hynny, ac ymgorfforir hawliau pobl hŷn yn yr holl ddeddfwriaeth honno, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, i'r corff cyhoeddus ac i'r unigolion yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth honno. Felly, mae ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn a dangos ei fod wedi cydymffurfio â'r egwyddorion mewn ffordd ystyrlon. Nawr, ceir 18 o'r egwyddorion hynny, ond y pum thema yw: annibyniaeth, cyfranogiad, hunangyflawniad, gofal ac urddas. Lluniwyd y ddeddfwriaeth hon i sicrhau bod llesiant a hawliau yn ganolog i bolisïau a chynlluniau allweddol a chaiff ei disgrifio mewn ffordd sy'n adlewyrchu lleisiau pobl hŷn a'r materion sydd o bwys iddynt.
Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ymrwymiad go iawn i gefnogi, hyrwyddo a diogelu hawliau pobl hŷn, felly mae'r datganiad hawliau pobl hŷn sydd eisoes yn bodoli yn anfon neges glir at gyrff statudol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, yn ogystal ag at bobl hŷn eu hunain, ynglŷn â'r disgwyliad ynghylch darparu cymorth a gwasanaethau i alluogi pobl hŷn i fyw bywydau annibynnol a llawn. Drwy'r datganiad hwnnw, caiff pobl hŷn eu cynorthwyo i ddeall yr hawliau sy'n berthnasol iddynt, sut i fynnu eu hawliau'n fwy effeithiol a sut y maent yn berthnasol i'r gyfraith bresennol ac i gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn ogystal. Ac rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i ddatblygu'r datganiad hwnnw. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd pobl hŷn. Rydym yn rhoi pwys mawr, fel y dywedais, ar y rôl hon a'i hannibyniaeth. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i raglen Heneiddio'n Dda, sy'n cael ei darparu mewn partneriaeth â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Os edrychwch ar y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru, mae'n dod ag unigolion, cymunedau a'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn.
Mae cymunedau sydd o blaid pobl hŷn yn ganolog i'r strategaeth genedlaethol ar gyfer pobl hŷn. Yng ngoleuni'r ddeddfwriaeth ddiweddar y cyfeiriais ati, rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru'r strategaeth er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n berthnasol ac yn uchelgeisiol i ysgogi'r gwelliannau i les pobl hŷn yng Nghymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe ildiaf, yn sicr.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A allai egluro beth y mae'n ystyried yw 'cymunedau sydd o blaid pobl hŷn' yn ei farn ef? Ym mha ystyr y byddai cymuned sydd o blaid pobl hŷn yn gweithredu o dan yr hyn a amlinellodd y Gweinidog yno? Oherwydd yn aml iawn, rydym yn sôn am ofal ac am edrych ar ôl pobl hŷn, ond fel y nododd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, maent i'w dathlu, pobl hŷn, a gwyddom eu bod yn ddemograffeg sy'n tyfu yn ein cymdeithas.
Yn wir, fe drof at hynny. Mae wedi achub y blaen ar rai o'r sylwadau roeddwn yn mynd i ddod atynt, felly byddwch yn amyneddgar ac fe ddof at beth y mae hynny'n ei olygu.
Rhaid i'r strategaeth, sy'n cwmpasu'r cymunedau sydd o blaid pobl hŷn, hyrwyddo'r rôl bwysig y mae pobl hŷn yn ei chwarae yn y gymdeithas, gan gynnwys, fel y nodwyd yn briodol, pobl sydd am barhau i weithio wrth fynd yn hŷn, a phobl a fydd yn parhau i weithio yn y sector gwirfoddol, ac a fydd yn parhau i chwarae rolau a byw bywydau gweithgar fel rhieni a neiniau a theidiau, fel gofalwyr ac yn y blaen, a thrwy eu hymgysylltiad mewn gwaith cyflogedig neu ddi-dâl, gan rannu eu gwybodaeth a'u profiad, a chan gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr. Felly, mae fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio yn cynghori'r Llywodraeth ar ddatblygiad strategaeth i sicrhau bod unrhyw bolisi yn y dyfodol yn adlewyrchu'r hyn sydd o wir bwys i bobl hŷn yng Nghymru.
Rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol ystyried beth sy'n bwysig i bobl hŷn, a'r heriau a wynebir gan bobl hŷn wrth benderfynu ar lefel ac ystod gwasanaethau lleol a rhanbarthol. Mae hyn, fel y nodwyd, yn bwysicach nag erioed o'r blaen, gan mai'r disgwyl yw mai Cymru fydd yn gweld y cynnydd mwyaf dramatig o bobl 85 oed a hŷn yn y gwledydd hyn, a rhagwelir cynnydd o bron 120 y cant erbyn 2035. A chi fydd hynny—gan edrych ar draws y Siambr—a minnau.
Mae unigrwydd ac arwahanrwydd wedi cael sylw, a'u pwysigrwydd penodol mewn perthynas â pobl sy'n 80 oed a throsodd, er y gallent effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran. Mae dros hanner y bobl hŷn dros 75 oed yn byw ar eu pen eu hunain, ac maent yn wynebu risg benodol o unigrwydd ac arwahanrwydd gyda mwy o anghenion ac anghenion mwy penodol yn gysylltiedig ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant. Yn y sylwadau hyn, rwy'n cymeradwyo rhai o'r mentrau a welais wrth deithio o amgylch. Bydd Suzy Davies yn gwybod am y digwyddiad OlympAge a gynahaliwyd ddwy flynedd yn olynol bellach rwy'n credu, lle mae pobl ifanc sy'n cael hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol a gwaith gofal wedi cymryd rhan ynghyd â phobl hŷn, yn bennaf o gartrefi preswyl, ond lle mae pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain hefyd, ac sy'n unig, yn cael eu cynnwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl ar y diwrnod, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn ogystal. Pethau fel hynny, yn ogystal â'r mudiad siediau dynion—rhaid i hwn fod yn ddull o weithredu sydd wedi'i gydlynu'n briodol ar gyfer trechu arwahanrwydd.
Mae ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', yn rhoi ymrwymiad clir i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thrawslywodraethol i fynd i'r afael ag unigrwydd, a rhai o'r manylion, oherwydd weithiau mae'n ddefnyddiol edrych ar y manylion pan fyddwn yn sôn am beth y mae hyn yn ei olygu o fewn y gymuned, fel y dywedodd Andrew. Felly, er enghraifft, drwy Lywodraeth Cymru rydym eisoes wedi ariannu dull fesul cam dros dair blynedd ar gyfer sefydlu rhwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n cefnogi unigolion unig ac ynysig yn y cymunedau, drwy'r model presgripsiynu cymdeithasol yr ydym wedi siarad amdano yma o'r blaen: y syniad ein bod yn gweithio o fewn cymunedau yn hytrach na dibynnu, os mynnwch, ar y syniad traddodiadol o 'Rwy'n teimlo'n sâl, rwy'n teimlo'n unig'—wel, meddyginiaeth yw'r ateb uniongyrchol. Weithiau mae hynny'n wir, ond mewn gwirionedd mae presgripsiynu cymdeithasol a chael pobl i gymryd rhan yn y rhwydweithiau cymunedol lleol hyn—nid geiriau'n unig yw'r rhain. Rydym yn ariannu mentrau i ddatblygu'r rhwydweithiau hyn ledled Cymru.
Rydym wedi ariannu ymchwil ar ddulliau dan arweiniad gwirfoddolwyr i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae'r rhain yn argymell hybu dulliau dan arweiniad gwirfoddolwyr i fynd i'r afael ag unigrwydd. Rydym wedi darparu cyllid tair blynedd i'r Groes Goch Brydeinig a'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol o ychydig llai na £890,000 o dan grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y trydydd sector, sy'n galluogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth cymorth di-dor i bobl hŷn yng Nghymru sy'n profi unigrwydd ac arwahanrwydd difrifol, afiechyd a fforddiadwyedd bywyd o ansawdd da ar ôl ymddeol, oherwydd gwyddom fod unigrwydd yn aml iawn yn gysylltiedig ag anallu i fynd allan yn y gymuned hefyd, ac i ymweld â ffrindiau, a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau, cymdogion a theulu.
Felly, rydym yn cydnabod cyfraniad mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus tuag at drechu unigrwydd ac arwahanrwydd. Ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddyfodol y cynllun hynod boblogaidd sy'n rhoi teithiau bws am ddim i bobl hŷn neu anabl er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu gwneud defnydd ohono. Ar hyn o bryd, ceir ychydig o dan 750,000 o ddeiliaid cerdyn teithio presennol sy'n cael teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol. Byddwch chi a minnau'n gwybod—rydym yn eu cyfarfod, maent yn dweud cymaint y maent yn defnyddio'r cynllun a chymaint y maent yn ei werthfawrogi. Mae mor boblogaidd ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, y cynllun presennol, fel bod bron hanner y teithiau ar wasanaethau bws lleol yn cael eu gwneud gan ddeiliaid cerdyn teithio. Nid oes gennyf un eto, ond rwy'n edrych ymlaen at ei gael yn y dyfodol.
Hefyd, mae pethau megis mynediad i doiledau cyhoeddus, y cafwyd cryn drafod arno yma yn ystod hynt Bil diweddar, er mwyn cynorthwyo pobl hŷn i fod yn aelodau gweithgar o'u cymunedau a lleihau arwahanrwydd. Mae'r rhain yn bethau ymarferol. Mae mynediad i doiledau at ddefnydd y cyhoedd yn fater sy'n effeithio ar iechyd, urddas ac ansawdd bywyd pobl. Felly, yn fuan iawn byddwn yn agor ymgynghoriad ar ganllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylent baratoi a chyhoeddi strategaethau toiledau lleol ar gyfer eu hardaloedd. Bydd hynny ym mis Ionawr, felly bydd o'n blaenau'n fuan iawn.
Rwyf am droi yn yr amser sy'n weddill at rai o'r pwyntiau a wnaed, nid yn lleiaf ar ddementia. Bellach mae dementia yn un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n ein hwynebu o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Amcangyfrifir bod 40,000 i 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Yn 'Symud Cymru Ymlaen', ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi camau pellach ar waith i wneud Cymru yn wlad sy'n deall dementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd. Buaswn yn dweud hefyd fod gan bawb ohonom rôl i'w chwarae yn hyn. Mae fy staff fy hun wrthi'n mynd drwy ailhyfforddiant fel swyddfa sy'n deall dementia. Mae Maesteg, y dref rwy'n byw ac yn gweithio ynddi, hefyd yn ymfalchïo yn ei chymhwyster fel tref sy'n deall dementia. Felly, mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae. Mae rhanddeiliaid wedi helpu i lunio'r cynllun dementia sy'n nodi'r camau gweithredu a'r canlyniadau sy'n ofynnol ar hyd bob cam o'r llwybr gofal, a bydd yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, asesu a diagnosis, a sicrhau bod gofal a chymorth yn gallu addasu yn unol ag anghenion unigolion, gan mai taith yw hon.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, fadam dirprwy lefarydd, ond roeddwn am droi, os gallaf ddod o hyd iddo, yn fyr iawn at fater hawliau. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud glir mewn datganiad, yn ystod y diwrnod diwethaf hyd yn oed, ei bod hi'n dal i ystyried bod cael deddfwriaeth yn sail i hawliau yn brif ffordd ymlaen, ond hefyd gwnaeth yn glir yn y datganiad hwnnw ei bod hi am weithio gyda Llywodraeth Cymru. Yn wir, cyfarfûm â hi yn ddiweddar ac mae'n gweithio gyda fy nhîm hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd camau buan ac amlwg i sicrhau cynnydd ymarferol a fydd yn darparu'r canlyniadau yr ydym wedi sôn amdanynt yn y ddadl hon ar bobl hŷn, beth bynnag am fater darparu deddfwriaeth sy'n sicrhau hawliau. Mae hi'n dal yn bendant ynglyn â hynny a bydd yn pwyso ar y Llywodraeth, fel y mae wedi pwyso ar y Llywodraeth yn flaenorol, ac fel y mae'r Aelod gyferbyn yn dweud y bydd yn ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd ei chyd-Aelodau'n gwneud hynny hefyd.
Ond hoffwn ddweud yn syml, wrth bwyso am hynny, mae'n rhaid i ni hefyd ddal ati i gyflawni, ac rwyf wedi crybwyll rhai o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn eisoes. Gyda'n gilydd, rwy'n credu bod yn rhaid inni ei gwneud yn glir, fel y dywedodd Angela yn ei chyfraniad, fod heneiddio a heneiddio'n dda yn rhywbeth i'w ddathlu mewn gwirionedd. Mae hynny'n wir. Ac o'r herwydd, mae angen inni ddangos yn ein cyfraniadau ac yn y ffordd yr ydym yn trafod hyn a'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef, ein bod yn falch fel cenedl o wneud popeth a allwn i wneud bywydau'n dda, bywydau hir yn dda—gwneud popeth a allwn. Mae'r ddadl hon yn rhan o hynny, ond rhaid inni hefyd wneud hynny gyda mesurau pendant, a fy ymrwymiad, wrth gloi'r ddadl yma heddiw, ac i'r comisiynydd plant, yw parhau'r gwaith gyda'r holl bobl i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny, gan y bydd er lles pawb ohonom wrth inni fyw'n hwy.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.