Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 10 Ionawr 2018

Wel, rwyf wedi'm drysu'n llwyr gan yr ateb a dweud y gwir. Rwyf i'n deall bod y newid perchnogaeth ddigwyddodd gyda grŵp Pinewodd ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, yn golygu eu bod nhw wedi tynnu mas o'r busnes o gynnig cyngor—hynny yw, y gwasanaethau cynghorol ynglŷn â buddsoddi. Mi oedd y Gweinidog newydd gyfeirio at hyn. Nid yw hynny'n esbonio pam nad ydyn nhw bellach yn talu rent nac yn denant ar gyfer y stiwdio. Nid yw hynny ddim ag unrhyw berthynas gyda'r cwestiwn yna. Os nad ydyn nhw'n talu rhent, hynny yw, sut maen nhw'n cynnal y stiwdio? A yw o dan ryw fath o reolaeth—y cytundeb rheolaeth rhyfedd yma nad ydym ni'n gallu holi ynglŷn â'i fanylion?

Mae'n rhaid i mi ofyn: a oedd yna broses caffael ar gyfer cytundeb rheolaeth ar gyfer y stiwdio yma yn unol â rheoliadau caffael cyhoeddus? Pam yr anwybyddwyd y cymal o ran isafswm o flynyddoedd o denantiaeth o bum mlynedd a oedd yn y cytundeb gwreiddiol? Pam cael cymal o'r math yna os rŷch chi jest yn mynd i'w anwybyddu fe?

A oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i opsiynau eraill, fel yn stiwdio Bad Wolf, sydd yn cael ei rhentu trwy les trwy Screen Alliance Wales? Pam nad ystyriwyd opsiwn radical, os caf fi ddweud, o weithredu'r stiwdio yn uniongyrchol? Mae Elstree Studios yn cael eu rhedeg gan ac yn berchen i Gyngor Dosbarth Hertsmere. Os ydy cyngor dosbarth yn Hertfordshire yn gymwys i redeg stiwdio, pam nad yw ein Llywodraeth genedlaethol ni?