3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? 99
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU cyn y Nadolig, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried buddsoddiad ecwiti neu fenthyciad ym morlyn llanw bae Abertawe pe bai hynny'n galluogi'r prosiect i symud ymlaen drwy leihau cost cyfalaf.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn gobeithio efallai y byddech yn rhoi ychydig mwy i mi ar hynny, ond mae'n gadael mwy o gwestiynau i'w gofyn. Rydym newydd glywed, drwy'r wasg, tua chwarter awr yn ôl mewn gwirionedd, ei bod yn ymddangos bod y swm sylweddol rywle rhwng £100 miliwn a £200 miliwn. Tybed a allech gadarnhau hynny yn eich ateb i'r cwestiwn hwn, ond os yw'r ffigurau hynny'n gywir, mae hwnnw'n swm sylweddol—nid arian y gallech ddod o hyd iddo i lawr cefn y soffa. Efallai y gallech ddweud wrthym o ble rydych yn debygol o gael y math hwnnw o arian, os yw eich pot benthyca cyfalaf, os mynnwch, fel y mae Plaid Cymru yn ei awgrymu, wedi'i ymrwymo fwy neu lai ar gyfer yr M4. Felly, efallai y gallwch egluro'r math o ffigur rydych yn ei ystyried ac o ble y daw'r arian hwnnw. Ac mae hynny'n berthnasol, oherwydd mae—. Os darllenais y llythyr yn gywir,
Gallai'r buddsoddiad hwn helpu i leihau cost cyfalaf y prosiect a lleihau'r gofyn felly am gymhorthdal dros oes unrhyw gontract gwahaniaeth.
Felly, gyda ffigur o'r fath, byddem angen rhywfaint o sicrwydd y byddai, mewn gwirionedd, yn debygol o wneud gwahaniaeth i'r pris streic a thymor y cytundeb. Felly, pa asesiad a wnaethoch i bennu effaith y cyfalaf rydych yn debygol o allu ei roi i mewn ar y pris streic a hyd y cytundeb ad-dalu?
Ac yn olaf, ar ba delerau datgeladwy y gallwch ddweud ar y pwynt hwn y byddech yn hoffi gweld benthyciad neu gytundeb ecwiti yn cael ei wneud? Rydym eisoes yn gwybod bod y benthyciad a gafodd y cwmni—yn 2015 rwy'n credu—yn ddiwarant. Ac er nad wyf eisiau i neb fod ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â fy nghefnogaeth i hyn, i'r morlyn llanw, mae gennym ddyletswydd i etholwyr hefyd i wneud yn siŵr fod unrhyw fuddsoddiad wedi ei ddiogelu'n ddigonol. Felly, os gallwch roi rhyw fath o syniad o'r diogelwch y byddech yn ei ddymuno i fuddsoddwyr Cymru—mae'n ddrwg gennyf, i Lywodraeth Cymru—ar ran y cyhoedd yng Nghymru, pa fath o ddiogelwch y byddech yn chwilio amdano mewn unrhyw gytundeb pellach?
Lywydd, gadewch i mi ei gwneud yn glir fod llythyr Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 6 Rhagfyr wedi cael ei lunio i geisio datgloi anallu Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn a chyhoeddi ei bod yn bwrw ymlaen â chasgliadau adolygiad Hendry, ac yn caniatáu i brosiect morlyn llanw bae Abertawe fynd rhagddo. Er mwyn ceisio symud y sefyllfa hon yn ei blaen, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir ein bod yn barod, yn yr amgylchiadau cywir, i ystyried buddsoddiad ecwiti a/neu fenthyciad sylweddol. Nid wyf yn mynd i allu darparu ffigurau penodol i'r Siambr y prynhawn yma oherwydd byddai'r ffigur hwnnw'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynnig ar y pris streic. Mae'r ddau beth ynghlwm â'i gilydd, ac ni allaf roi ateb synhwyrol i chi ar gam cyntaf trefniant o'r fath heb wybod beth oedd Llywodraeth y DU yn barod i'w gynnig ar yr ail.
Ond mae Suzy Davies yn iawn i ddweud mai'r hyn roeddem yn ceisio'i wneud oedd creu cynnydd mewn dau gyfeiriad. Roeddem yn barod i gynnig arian er mwyn helpu gyda'r gost o adeiladu'r morlyn llanw. Os mai dyna beth sy'n rhwystro Llywodraeth y DU rhag camu ymlaen, yna roeddem yn cynnig bod yn rhan o'r ateb i ddatrys yr anhawster hwnnw. Ond drwy fod yn barod i gynnig cyfalaf ar gyfer adeiladu'r prosiect, byddem hefyd yn gostwng cost hirdymor y benthyca sy'n rhan o'r prosiect, a dylai hynny ganiatáu i Lywodraeth y DU fod mewn sefyllfa well i gyflwyno cynnig ar y pris streic. Byddai'n is o ganlyniad i'r costau benthyca is. Felly, llwyddai ein cynnig—neu dyna a feddyliem—i gael effaith ar y ddau beth. Mae'n siomedig iawn nad yw Prif Weinidog Cymru wedi cael unrhyw ymateb o unrhyw fath i'w lythyr dyddiedig 6 Rhagfyr.
Rwyf am ei gwneud yn glir wrth y Siambr, Lywydd, fod Prif Weinidog Cymru, pan anfonodd ei lythyr, wedi penderfynu peidio â thynnu sylw ato yn fwriadol. Roedd eisiau gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael y cynnig mewn ffordd na allai fod yn agored i awgrymiadau ei fod ond yno er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol, neu ei fod yno er mwyn creu embaras i'r Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Ysgrifennodd mewn termau a fyddai wedi caniatáu i'r Prif Weinidog—. Pe bai unrhyw fwriad go iawn ar ran y Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r morlyn llanw, byddai wedi rhoi pob cyfle iddi fod wedi gwneud hynny. Yr unig reswm y mae'r llythyr yn y parth cyhoeddus yn awr yw oherwydd bod mis wedi bod ers ei ysgrifennu, ychydig ddyddiau sydd i fynd nes y bydd hi'n flwyddyn ers adolygiad Hendry, a dyma'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi ar y bwrdd. Rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bryd i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen yn y ffordd y mae pleidiau ar draws y Siambr hon—nid wyf yn dychmygu hyn o gwbl—mae pleidiau ar draws y Siambr hon wedi annog Llywodraeth y DU i'w wneud. Rydym yn dangos ein parodrwydd i helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau a all fod yn atal Llywodraeth y DU rhag gwneud y penderfyniad angenrheidiol a phwysig hwn i Gymru.
A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu gweithredu Llywodraeth Cymru yn fawr? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi'r morlyn llanw, ac mae Aelodau rwy'n anghytuno â hwy ar bron bob mater arall yn gwbl gytûn ynglŷn â pha mor bwysig yw hwn i Abertawe a dinas-ranbarth bae Abertawe.
Os mai Abertawe yw'r cyntaf, yna rydym yn datblygu'r sgiliau cynllunio, rydym yn datblygu'r sgiliau technegol, rydym yn datblygu'r gadwyn gyflenwi. Mae hynny'n golygu y byddwn yn datblygu diwydiant cyfan, a bydd pobl sydd eisiau datblygu môr-lynnoedd llanw wedyn yn dod i Abertawe, fel y gwnaeth Aarhus a lleoedd yn yr Almaen gyda thyrbinau gwynt. Onid yw'n un o'r pethau pwysicaf a allai ddigwydd mewn gwirionedd? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwir angen i ni fod y cyntaf i ddatblygu'r sgiliau hyn a datblygu'r diwydiant a helpu i ateb rhai o'r cwestiynau roedd Russell George yn eu gofyn yn gynharach?
Wel, Lywydd, mae Mike Hedges yn nodi'r union ddadleuon a berswadiodd adolygiad Hendry. Nid ymwneud yn unig ag Abertawe y mae morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n ymwneud â chreu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom inni allu gwneud mwy yn y dyfodol i ddefnyddio grym y môr i'n helpu i greu'r ynni cynaliadwy rydym ei angen. Mae'r buddsoddiad yn Abertawe yn rhan o'r holl brofiad dysgu hwnnw. Mae'n caniatáu i ni fod y cyntaf yn y maes hwn i adeiladu'r holl bethau sy'n mynd ochr yn ochr ag ef, ar ôl profi'r cysyniad. Dyna pam ei fod mor bwysig i Gymru. Dyna'r achos y mae eu penodai eu hunain, eu Gweinidog blaenorol eu hunain, Charles Hendry, wedi'i brofi ac wedi dod i'r casgliad ei fod yn gadarn. Dyna pam yr anogodd Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol, a dyma ni 12 mis yn ddiweddarach, yn dal i geisio gwthio'r garreg honno i fyny'r rhiw.
A gaf fi yn gyntaf ddatgan fy mod yn fuddsoddwr cymunedol, fel y mae cannoedd o bobl leol, yn y cynllun hwn? Rwy'n gwneud hynny am fod llawer o bobl yn ardal bae Abertawe yn credu mai dyma'r dyfodol, nid yn unig ar gyfer bae Abertawe, fel y dywedwch, ond ar gyfer ynni o gwmpas arfordir Cymru yn ogystal. Mae llawer i'w ennill o hyn.
Rwy'n croesawu camau gweithredu'r Prif Weinidog yn fawr. Rwy'n gwerthfawrogi'r modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi pam y gwnaed hyn, yn gyfrinachol, fis yn ôl, er fy mod wedi annog y Prif Weinidog i wneud hyn yn y gorffennol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i bob pwrpas yw galw blỳff y Ceidwadwyr yn Llundain a dweud 'Mae'n bryd i chi dalu neu ddweud nad oes gennych ddiddordeb mewn technoleg ynni'r llanw ar gyfer dyfodol cynhyrchu ynni, nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd a lled y DU yn ogystal'. Os ydynt yn gwneud hynny, wrth gwrs, byddant yn rhoi'r DU yng nghefn y ciw mewn perthynas â thechnoleg a fydd yn cael ei datblygu fwyfwy, wedi'i gyrru gan Tsieina a gwledydd fel Canada. Ond gallwn fod ar flaen y gad gyda hynny.
Nawr, gallaf ddeall pam nad ydych eisiau siarad am y symiau, ond rydych wedi sôn am symiau sylweddol, a dyna pam ei bod mor syfrdanol nad ydych wedi cael ateb i'r llythyr gan y Prif Weinidog at Theresa May. Ond yr hyn y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo yw'r math o fuddsoddiad ar y cam hwn, oherwydd nid yw'r swm mor bwysig â hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n agor y drws, wrth gwrs—rwy'n deall hynny—ond o safbwynt Llywodraeth Cymru ac o safbwynt y budd i'r cyhoedd, mae pa fath o fuddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru fod â diddordeb ynddo yn bwysig. O bosibl, ni fydd benthyciad syml, a fydd yn cael ei dalu'n ôl oherwydd bod yna ffrwd incwm o'r morlyn llanw, yn ein rhoi mewn sefyllfa lle gallwn fanteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon wrth iddi ddatblygu. Mae cyfran ecwiti yn y cwmni daliannol, wrth gwrs, yn caniatáu i ni fod yno wrth i'r dechnoleg ddatblygu, ac nid yn unig wrth i'r prosiect hwn ddatblygu, ond wrth i brosiectau posibl eraill ddatblygu hefyd.
Rwy'n annog y Llywodraeth, os yw hyn yn dwyn ffrwyth, i ystyried chwarae rôl lawer mwy rhagweithiol yn y gyfran ecwiti, yn hytrach na benthyciad syml, neu warant benthyciad, neu ryw drefniant arall o ran adeiladu sy'n gwneud y ffigurau'n haws. Oherwydd dyma ein cyfle. Buddsoddiadau cyfalaf mawr eraill rydych wedi'u gwneud, fel maes awyr rhyngwladol Caerdydd—dyma eich cyfle i fod yno, ac i fod yno am gyfnod hir o amser. Felly, os na allwch nodi maint y cynnig a wnaed, a ydych yn gallu datgan o leiaf pa fath o gynnig y mae gennych ddiddordeb ynddo ac a ydych wedi trafod gyda Tidal Lagoon plc sut y gellid cyflawni hyn mewn gwirionedd?
Lywydd, roedd y llythyr at y Prif Weinidog gan Brif Weinidog Cymru yn cadw'r drws yn agored ar amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gallai ein systemau gael eu cyflwyno, gan gynnwys buddsoddiad ecwiti, ond hefyd posibiliadau benthyca yn ogystal. Lywydd, rwyf eisiau pwysleisio gerbron y Siambr pa mor bwysig oedd y cynnig hwn, a'r trafodaethau yn sail iddo, rhyngof fi fel Gweinidog cyllid a'r Prif Weinidog. Nid oedd yn gynnig a wnaed yn fyrfyfyr, oherwydd ein gobaith oedd y byddai hyn wedi datgloi'r sefyllfa, ac y byddai ein cynnig wedi cael ei dderbyn o ddifrif. Fel eich Gweinidog cyllid, roedd yn rhaid i mi deimlo'n fodlon y buaswn mewn sefyllfa i allu cynnig y cymorth hwnnw ar adeg pan fo ein cyllidebau, fel y gŵyr yr Aelodau yma, o dan bwysau, ac mae llawer o alwadau pwysig iawn ar ein gallu i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ar draws economi Cymru.
Felly, tybiaf na fyddai Simon Thomas yn synnu clywed, o safbwynt y cyllid, nad oedd dod o hyd i ffigurau y gallem eu darparu'n hawdd yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wthio i ymylon fy ystyriaeth. Ond roeddwn yn teimlo, ar ôl mynd drwy'r gwaith yn ofalus iawn gydag uwch swyddogion yma, gyda Phrif Weinidog Cymru yn ogystal, pe bai'r Prif Weinidog wedi ymateb ac wedi ymateb yn gadarnhaol i'n cynnig, ein bod mewn sefyllfa i gefnogi ein cynnig gyda buddsoddiadau o wahanol fathau, gan ddibynnu ar y fargen y byddem wedi gallu ei gwneud, a byddem wedi meddwl yn ofalus am y pwyntiau a wnaeth y prynhawn yma ac a wnaeth yn flaenorol ynglŷn â'r hyn y gallai buddsoddiad ecwiti yn y prosiect fod wedi'i ddarparu ar gyfer trethdalwyr Cymru ond hefyd i ddyfodol y diwydiant hollbwysig hwn yng Nghymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.