Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae'n briodol, mae'n siŵr, gan ein bod yn trafod y môr, fod llanw a thrai yn dod ddwywaith y diwrnod—nid wyf yn gwybod ai llanw neu drai sydd gyda ni heddiw, ond rydw i jest am danlinellu nad wyf i'n ailadrodd beth a ddywedais ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol. Felly, os oes gwir ddiddordeb gan bobl ym mholisi Plaid Cymru ynglŷn â'r môr, mae eisiau iddynt ddarllen y ddwy ddadl gyda'i gilydd. Rydw i jest eisiau canolbwyntio yn y drafodaeth yma ar dri pheth sydd wedi dod allan o adroddiad y pwyllgor: un ynglŷn â chyllid neu adnoddau, un ynglŷn â data, sydd newydd gael ei grybwyll gan David Melding hefyd, ac un ynglŷn â'r dyfodol, sef lle rydym yn mynd o hyn ymlaen.
Roedd yn glir iawn o'r dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth a chadwraeth môr yn credu bod Llywodraeth Cymru'n neilltuo digon o adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Roedd hynny'n amrywio, nid o ran beirniadaeth o staff yn benodol, ond beirniadaeth o'r diffyg syniadaeth a'r diffyg adnoddau a oedd yn cael eu rhoi. Mae hynny'n cael ei weld yn glir yn y ffaith bod y pwyllgor wedi argymell, yn glir iawn, ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, sef dynodi chwe ardal glir ynglŷn â chadwraeth môr o dan y gwahanol systemau a'r lefelau roedd David Melding yn cyfeirio atynt, o ran dynodiadau cadwraeth a bioamrywiaeth, ond dynodi chwe ardal clir iawn, a gwneud yn siŵr bod arian penodol ar gyfer gweithredu ym mhob un o'r ardaloedd hynny, gan ddefnyddio, wrth gwrs, y partneriaid lleol, a chan roi Llywodraeth Cymru yng nghanol y we, fel petai, fel y bobl sy'n arwain ac yn rheoli. Ac o edrych ar y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r argymhellion yna, yn y bôn, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny. Yn y bôn, nid oes dim yn mynd i newid ar ôl i'r adroddiad yma gael ei gyhoeddi ac yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb iddo fe. Ac rwy'n credu bod hynny yn ddiffyg—diffyg sylweddol gan y Llywodraeth, ac yn ddiffyg yn y cyd-destun bod y Llywodraeth ddoe wedi cyhoeddi'r cynllun morol, ac rydym wedi ei drafod e, ac mae ymateb i'r gwahanol ardaloedd cadwraeth, yr MPAs yma, yn bwysig, rwy'n meddwl, wrth wireddu'r cynllun morol.
Yr ail reswm rwy'n bryderus yw oherwydd bod gyda ni ddiffyg data—diffyg casglu data, diffyg data dros gyfnod, lle mae modd cymharu cyfnod wrth gyfnod, sy'n ein harwain ni at y casgliad roeddem ni yn ei glywed yn y pwyllgor sawl gwaith, sef nad yw dynodiad MPA, y marine protected area—rwy'n defnyddio hwnnw fel rhywbeth sy'n cyfro holl ddynodiadau yma—yn ei hunan yn arwain at wella yn yr hyn a oedd yn digwydd yn yr ardal yna. Ac mae gyda ni brofiad tebyg yn y SSSIs ar y tir mawr, wrth gwrs. Bob tro mae yna ddynodiad, nid yw o reidrwydd yn arwain at wella'r bioamrywiaeth, neu'r statws, neu'r ardal, neu at gael gwell cadwraeth. Ond mae angen tanlinellu hynny. Ac un o'r rhesymau rydym ni'n ffeindio hynny yw'r diffyg data sydd y tu ôl iddo fe. Nid oes modd profi bod y system yn gweithio—mae mor syml â hynny—ac felly mae'n anodd cyfiawnhau gwario arian cyhoeddus arno fe, mae'n rhaid bod yn onest. Ond mae gyda chi fan hyn gwestiwn diddorol ynglŷn â pha un sy'n dod gyntaf. Mae'n rhaid buddsoddi er mwyn casglu data er mwyn dangos bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sydd yn gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd ein moroedd ac yn arwain at amddiffyniad mwy cadarnhaol a mwy tymor hir.