7. Dadl Plaid Cymru: Tai i'r digatref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:31, 10 Ionawr 2018

Rydw i am edrych ar Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'r newidiadau sydd eu hangen. Mae David Melding wedi cyfeirio at y Ddeddf yma yn barod. Yn sicr, roedd y ddeddfwriaeth yn 2014 yn cynnwys llawer o bethau cadarnhaol. Er enghraifft, roedd hi'n ymestyn yr amser y gall unigolion ddod at awdurdod lleol pan oedden nhw o dan fygythiad o fod yn ddigartref, o 28 diwrnod i 56 diwrnod, a hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal pob unigolyn rhag bod yn ddigartref. Ond, fel erioed, mae gweithredu wedi profi'n anodd, a'r wythnos yma, fe glywsom gan y swyddfa archwilio, ac yn dod i'r casgliad yma: mae awdurdodau lleol yn llwyddo, i wahanol raddau, i ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd, ond nid oes fawr o ganolbwyntio ar atal achosion sylfaenol digartrefedd. Dywedodd 17 o'r 22 awdurdod eu bod nhw'n cael anhawster wrth drosi i'r system newydd, ac yn methu hyfforddi a rhoi sgiliau newydd i'r staff am y system newydd yma. Ac mi ddaeth y swyddfa archwilio hefyd i'r casgliad bod camau llwyddiannus gan awdurdodau lleol i atal digartrefedd wedi gostwng.

Rydw i yn ymwybodol iawn fod problemau penodol wedi codi ym Mangor, yn fy etholaeth i, er enghraifft, lle mae yna nifer cynyddol yn cysgu allan—ar y mynydd, yn aml iawn. Mae camau ar droed i ganfod ateb i'r broblem gynyddol, ac mi fyddaf i yn mynychu cyfarfod efo'r holl asiantaethau priodol—yn cynnwys cynghorwyr lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a'r trydydd sector—yn yr wythnosau nesaf yma, i geisio datrysiad i'r sefyllfa benodol honno.

Mae gweithredu'r Ddeddf yn un peth, ond mae yna broblemau sylfaenol efo Deddf tai 2014 o ran beth yr oedd hi'n bwriadu ei wneud, er enghraifft y profion am flaenoriaeth angen ac am ddigartrefedd bwriadol. Mae rhaid, o dan y Ddeddf yma, cynnal y profion hynny, o ran asesu a oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu tai i unigolion. Ac fe gadwyd y prawf Pereira annheg, er mwyn profi bod rhywun yn fregus. Nid yn unig cafodd o ei gadw yn Neddf 2014, mi gafodd o ei osod ar wyneb y Bil, ac mae hynny'n golygu mai Cymru ydy'r unig wlad ym Mhrydain sydd yn parhau efo'r statws yma, ac mae'n rhaid profi bod rhywun yn fregus mewn cymhariaeth â bod yn unigolyn digartref arferol. Felly, mewn gwirionedd, medrir dadlau bod deddfwriaeth ers 2014 wedi mynd â ni nôl, ac yn sicr nid yw'r profion yma yn gydnaws â'r polisi cartrefi'n gyntaf yr oedd Bethan yn sôn amdano fo. 

I wneud pethau'n waeth, nid oedd rhaid i bethau fod fel hyn, achos mi oedd yna Bapur Gwyn yn 2012, a ddaeth cyn y ddeddfwriaeth, a oedd yn cynnig gwneud i ffwrdd efo'r profion yna. Mi fuasai dilyn beth oedd yn y Papur Gwyn wedi bod yn gydnaws â pholisi cartrefi yn gyntaf. Ond, am ryw reswm, dewisodd Llywodraeth  Cymru beidio â dilyn y trywydd yna. Petai'r system amgen honno wedi bod ar waith, yn lle cysgu allan, gallai unrhyw unigolyn digartref ers 2014 fod wedi cael llety addas dros dro, lle byddai cyfle wedi bod i osgoi'r problemau sydd yn dod efo cysgu allan yn gyson, ac fe ellid bod wedi dod o hyd i ateb tymor hir.

Yr Alban sydd wedi bod yn cymryd yr agwedd fwyaf blaengar yn y maes yma. Yn yr Alban, nid ydy awdurdodau lleol bellach yn gorfod gweithredu'r profion yr oeddwn yn sôn amdanyn nhw, ac mae Deddf 2012 yr Alban yn rhoi hawl i unrhyw un sy'n dod yn ddigartref yn anfwriadol gael llety sefydlog. Felly, mae'n amlwg ein bod ni ymhell o'r fan y mae angen inni fod os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd—mynd i'r afael ag o mewn gwirionedd, ac yn fwriadus ac yn bwrpasol.

Rydw i'n gwybod bod y pwyllgor cydraddoldeb yn mynd i fod yn gwneud ymchwiliad i gysgu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yna. Mae angen symud yn gyflym tuag at egwyddorion cartrefi yn gyntaf. Nid ydy cyhoeddi cynlluniau 10 mlynedd yn y cyfryngau yn ffordd ymlaen. Efallai mai'r gobaith ydy, wrth gyhoeddi hynny, na fyddai neb yn sylwi ein bod ni eisoes bron â dod i ddiwedd oes y cynllun 10 mlynedd blaenorol. Nid ydy hynny yn ddigon da. Rwy'n gobeithio y medrwn ni symud ymlaen o le'r ydym ni heddiw i gael atebion hirdymor i'r broblem barhaus yma. Diolch.