– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Ionawr 2018.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiwn brys rwyf wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.
Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ymateb i effeithiau diddymu Carillion? (EAQ0002)
Er nad ydym yn disgwyl mai ond ychydig o effaith uniongyrchol y bydd diddymiad Carillion yn ei godi yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu gweithwyr Carillion yr effeithir arnynt yma. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu unrhyw ganlyniadau pellach, mewn sefyllfa sy'n parhau i ddatblygu'n gyflym.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gael ychydig bach mwy o fanylion ynglŷn â rhai o'r projectau penodol.
A yw'n bosibl iddo ddweud pa un a oedd unrhyw un o gontractau Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i Carillion wedi'u dyfarnu ar ôl mis Gorffennaf, sef yr adeg pan roddwyd y rhybudd cyntaf am elw gan y cwmni? Ar ôl yr ail a'r trydydd rhybudd am elw, ym mis Medi a mis Tachwedd y llynedd, a wnaeth y Llywodraeth drafod trefniadau wrth gefn ag Abellio, ynghylch swyddogaeth Carillion fel y contractwr penodedig yn rhan o'i gynnig am y fasnachfraint rheilffyrdd? Ac a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni hefyd a oes perygl gwirioneddol erbyn hyn bod cynnig Abellio i bob pwrpas yn ddi-rym, gan ei fod mewn gwirionedd yn enwi contractwr penodedig nad yw'n bodoli mwyach, ac felly mae'n ei wneud yn agored i her gyfreithiol? Yn olaf, a yw'r holl brofiad â Carillion, sydd wedi gadael cymaint o isgontractwyr llai a'u cyflogeion i ysgwyddo, i bob pwrpas, canlyniadau camreoli cwmni mawr ac, yn wir, gorelwa diofal, yn rheswm i ni ystyried ein gorddibyniaeth, o hyd, ar gontractau gyda chwmnïau amryfath, a berchnogir yn allanol, ar gyfer gwaith peirianneg sifil? Mae'n rhaid bod ffordd well o wneud hyn yn y dyfodol.
Diolch i'r Aelod am yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn dri phrif gwestiwn. O ran contractau sydd gan Lywodraeth Cymru, mae un contract—y contract sy'n gysylltiedig â cham dylunio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, a ddyfarnwyd ar ôl y rhybudd gwreiddiol am Carillion ym mis Gorffennaf y llynedd. Ar yr adeg pan gyhoeddwyd y rhybudd hwnnw, cafodd y broses gaffael ei hoedi dros dro, a cheisiwyd rhagor o sicrwydd gan y cwmni. Cafwyd y sicrwydd hwnnw, a lliniarwyd risgiau a allai fod wedi chwarae rhan yn hynny o beth. Nid oes unrhyw gontract arall wedi'i ddyfarnu ers mis Gorffennaf y llynedd.
O ran Abellio a'r trefniadau masnachfraint, credaf fod nifer o sylwadau y dylwn i eu gwneud. Yn gyntaf oll, mewn ymateb uniongyrchol i gwestiwn Adam Price, mae Trafnidiaeth Cymru, ar ôl gweld y datblygiadau ym mis Gorffennaf ac yn ystod yr hydref, wedi bod yn rhan o broses i sicrhau bod sylfaen ariannol angenrheidiol y cynigion yn ddibynadwy, ac maen nhw wedi bod yn trafod ag Abellio ar y sail honno. Yn union ar ôl y digwyddiadau yn gynharach yr wythnos hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyngor cyfreithiol fel ein bod yn glir ynghylch a oes unrhyw effeithiau o'r datblygiadau hyn ar y broses fasnachfraint. Mae'r cwmni ei hun yn cymryd camau i wneud yn siŵr ei fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chynnig, os yw'n dewis gwneud hynny. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau canlyniad terfynol yn y broses dendro a fydd yn arwain at wella gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dymuno eu gweld yn cael eu sicrhau.
Y trydydd cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi yw'r un ehangaf, wrth gwrs. Bydd ef wedi gweld, rwy'n siŵr, darn yn y Financial Times heddiw o'r enw 'The Problem of Bigness', lle mae'r awdur yn trafod yr anawsterau sy'n digwydd i sefydliadau contractio cyhoeddus mewn marchnad lle y bu cryn gyfuno ac nad yw nifer y cwmnïau yn y maes yn arwain o reidrwydd at gystadleuaeth wirioneddol. Felly, mae hynny yn dod i'r amlwg yn anochel yn y profiad gyda Carillion, ac mae e'n iawn i dynnu sylw at y ffaith y bydd pob awdurdod cyhoeddus sy'n ymwneud â sicrhau gwasanaethau angenrheidiol drwy gontractio allan eisiau adolygu'r profiad hwn, dysgu'r gwersi oddi wrtho a gwneud yn siŵr na chaiff arian cyhoeddus ei beryglu yn ddiangen yn y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi am unrhyw waith yr ydych chi wedi'i wneud neu yr ydych chi'n bwriadu ei gomisiynu ar ganlyniadau y cwmni hwn yn mynd i'r wal o ran amodau economaidd ehangach y bydd hyn yn eu hachosi i economi Cymru, ac yn enwedig i fusnesau bach? Mae Adam Price wedi codi cwestiynau am y fasnachfraint rheilffyrdd, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig mwy am y prosiectau y gallai hyn effeithio arnyn nhw yng Nghymru? Fe wnaethoch chi ddweud na fyddai fawr ddim effaith ar brosiectau yng Nghymru, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig bach mwy ar hynny am rywfaint o eglurhad pellach ar ba brosiectau y gallai hyn effeithio arnyn nhw? A gaf i ofyn hefyd am brosiectau yng Nghymru sydd efallai ar fin dechrau neu sydd wrthi'n cael eu hadeiladu sydd efallai yn cael eu gweithredu neu eu rheoli nid gan Carillion ond gan gwmni arall? Rwy'n cyfeirio at ffordd osgoi'r Drenewydd yn fy etholaeth i, er enghraifft. Mae'n cael ei rheoli gan gontractwyr Alun Griffiths ond mae'n debygol eu bod yn dibynnu ar gyflenwyr am ddur ar gyfer pontydd neu fod yna ganlyniadau eraill o ran rheoli prosiect hefyd. A pha sgyrsiau ydych chi efallai wedi eu cael â nhw o ran sut y gallai hyn effeithio ar brosiectau yng Nghymru neu eu gohirio o bosibl?
Wel, mae'r Aelod yn iawn, er nad oes risg uniongyrchol o bwys i wasanaeth cyhoeddus Cymru oherwydd Carillion, nid yw hynny'n golygu nad oes busnesau ac isgontractwyr yng Nghymru a allai, ar agweddau eraill o waith Carillion, fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i gwymp Carillion. Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwaith angenrheidiol i geisio nodi lle gallai'r anawsterau hyn fod. Rydym ni'n trafod hynny â'r Ffederasiwn Busnesau Bach a Chydffederasiwn Diwydiant Busnes ac yn defnyddio'r rhwydweithiau sydd gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru, er mwyn bod yn ymwybodol, os oes anawsterau o'r math y mae'r aelod wedi eu nod yn dod i'r amlwg, ein bod yn gallu cynnig cymaint o gymorth ag y gallwn o dan yr amgylchiadau hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg bod materion moesegol ac ymarferol iawn yn y fan yma, a hoffwn i fynd i'r afael â nhw. Rydym ni'n gwybod am hanes Carillion. Rydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon o ran ei wrthwynebiad i undebau llafur, ei gosbrestru a'i ymosodiadau ar delerau ac amodau gweithwyr, ac mae hwnnw'n fodel sydd yn amlwg wedi cyfrannu at ei gwymp presennol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei fod yn arwydd i'w groesawu fod Llywodraeth y DU bellach yn ymchwilio i gyfarwyddwyr Carillion. Rwy'n siŵr eich bod chi hefyd yn cytuno â mi bod angen i'r ymchwiliad hwnnw fynd ymhellach, i'r bancwyr sydd wedi mentro cefnogi'r cwmni ac, yn wir, Gweinidogion y Llywodraeth sydd wedi bod mor awyddus i lenwi pocedi'r cyfranddalwyr a'r cyfarwyddwyr ag amcanion a chontractau pan oedd rhybuddion clir wedi dod i'r amlwg. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r peth pwysicaf yw hyn: mae gennym ni nifer o gwmnïau yng Nghymru, llawer ohonyn nhw mewn gwirionedd yn masnachu yn Lloegr hefyd, y mae'n bosibl nawr na fyddan nhw'n cael eu talu ac efallai y byddan nhw mewn perygl o fynd i'r wal, a bod gweithwyr y mae eu cronfeydd pensiwn wedi eu dwyn oddi arnynt, a bod angen inni archwilio effaith y cwmnïau penodol hynny ar economi Cymru ac yn enwedig pa gymorth y gallwn ni ei roi?
Ond o ran y cwestiwn moesegol, onid yw'n ffaith bod gennym ni fodel economaidd sydd yn y bôn yn cyfyngu'r elw i'r ychydig, drwy ddwyn cronfeydd pensiwn y gweithwyr a bod disgwyl i'r cyhoedd, yn y pen draw, eu hachub, a'n bod ni'n gallu bod mor ddiolchgar nad yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn y trywydd arbennig hwnnw?
Wel, Llywydd, nid oedd Llywodraethau Cymru olynol yn fodlon dilyn y model a amlinellwyd gan Mick Antoniw. Rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol o beryglon y ffordd o wneud busnes lle mae elw yn cael ei breifateiddio a risg yn gymdeithasol, a dyna'n union beth yr ydych chi wedi ei weld yn yr enghraifft hon. Dyma gwmni sydd, gan ddefnyddio arian cyhoeddus, wedi rhoi difidendau i'w gyfranddalwyr, ac sy'n fodlon parhau i dalu ei uwch weithredwyr ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle'r oedd hynny yn cynrychioli camau synhwyrol i'w cymryd. A phan fydd pethau'n mynd o chwith, pan fydd eu ffrindiau draw acw wedi mynd ar gyfeiliorn, beth sy'n digwydd? Beth sy'n digwydd wedyn? Rydych chi'n disgwyl i'r pwrs cyhoeddus gamu i mewn. Rydych chi'n disgwyl i'r cyhoedd dalu am eich camgymeriadau, ac yng Nghymru—[Torri ar draws.] Yng Nghymru, mae honno'n ffordd o weithredu nad ydym ni erioed wedi bod yn fodlon ei dilyn. Dyna pam nad oes gennym ni, ac na fydd gennym ni yng Nghymru y math o drosglwyddo gwasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat y dylid eu darparu yn gyhoeddus ac y dylid talu amdanyn nhw yn gyhoeddus. Dyna pam nad oes gennym ni staff y gwasanaeth tân yn darparu prydau bwyd i ysgolion yng Nghymru heddiw. Oes, mae yna wersi yn codi o achos Carillion. Yn ffodus, yng Nghymru, roeddem ni wedi eu dysgu ymhell ar y blaen i'r blaid gyferbyn.
Yn ôl i'm hetholaeth hyfryd Aberconwy, a diolch ichi am gyfeirio at gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 ac am gael gwared ar y cylchfannau. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gwneud y gwaith hwnnw ers cryn amser, felly mae'n ddealladwy bellach, gan fod Carillion wedi mynd yn fethdalwr, bod llawer o'm hetholwyr yn gofyn i mi beth fydd yn digwydd i'r gwaith hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gobaith y gallaf i fynd yn ôl i'm hetholaeth a dweud wrth fy nhrigolion, ein modurwyr a'n hymwelwyr y byddwch chi mewn gwirionedd yn ceisio parhau â'r gwaith hwn, ac, efallai, pam na wnawn ni ystyried caffael yn fwy lleol? Ni allaf weld pam na ellid bod wedi gwneud y gwaith hwnnw. Mae gennym ni gwmnïau lleol yn ein hardal ni a allai fod wedi gwneud y gwaith hwn, ond, os gwelwch yn dda, a wnewch chi fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, oherwydd mae'r oedi ar yr A55 a'r problemau ofnadwy sydd gennym ni—. Mae Carillion wedi mynd i'r wal bellach, ond mae'r sefyllfa honno ar yr A55, sy'n effeithio'n fawr ar ein modurwyr a'n trigolion, yn dal i fod gennym ni, felly byddem yn gwerthfawrogi yn fawr iawn unrhyw beth y gallech chi ei wneud. Diolch.
Wel, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr y sylwadau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu gwneud. Roedd Carillion wedi ei gontractio ar gyfer y cam dylunio yn unig, hyd yma, o gyffyrdd 15 ac 16 o'r A55, a byddai tua 12 mis o'r gwaith dylunio hwnnw ar ôl i'w wneud. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweld a oes ffyrdd y gallwn ni ymateb i'r anawsterau hyn mewn modd na fydd yn arwain at ymestyn yr amserlen honno. Dyddiau cynnar iawn yw'r rhain, ond dim ond i roi enghraifft iddi o'r math o gamau y bwriadwn ni eu hystyried, mae isgontractwyr yn y contract hwnnw sydd mewn gwirionedd yn gwneud y gwaith. Efallai y bydd hi'n bosibl i un o'r is-gontractwyr hynny i fod y prif gontractwr, i barhau â'r gwaith hwnnw a chwblhau'r datblygiadau pwysig ar y gyffordd honno, sydd, rwy'n gwybod, yn bwysig i'w hetholwyr ac i eraill sy'n defnyddio'r rhan honno o'r A55, heb oedi pellach.
Llywydd, dylwn i ymddiheuro i Russell George am fethu ag ateb rhan gyntaf ei gwestiwn. Os gallaf i ddweud wrtho'n fyr iawn, mae gennym ni ddau gontract arall. Mae'r contract yn rhan Llanddewi Brefi o'r A40, lle mae'r cyfnod dylunio fwy neu lai wedi'i gwblhau a lle bydd yn rhaid i ni nawr ystyried sut i fwrw ymlaen ag ail gam y contract tri cham. Yna, roedd rhan 3 o'r A465, sydd wedi ei gwblhau, ac sydd eisoes ar agor, lle ceir contract tirlunio ar raddfa fach a fyddai wedi para am bum mlynedd gyda Carillion ar ôl agor rhan 3 ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydym ni hanner ffordd drwy'r cyfnod hwnnw o bum mlynedd. Bydd yn rhaid inni nawr ddod o hyd i fodd arall o gyflawni'r ddwy flynedd a hanner sy'n weddill. Ond dyna hyd a lled effaith Carillion ar Lywodraeth Cymru o ran y contractau y soniodd yr Aelod amdanyn nhw.
Diolch am y datganiad a'r ateb i'r cwestiynnau heddiw, ond mae'n rhaid dweud fy mod i'n synnu clywed bod yna gontract wedi ei osod yn y gogledd ar yr A55 ar ôl ichi sylweddoli a chlywed am y newyddion ym mis Gorffennaf am statws y cwmni yma, achos dyna, wrth gwrs, yn union beth oedd Jon Trickett yn beirniadu'r Blaid Geidwadol amdano yn hallt iawn ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin—gosod contractau ar ôl canfod y problemau neu glywed am y problemau ar dudalennau busnes y Financial Times a llefydd eraill. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, rydw i'n meddwl, ailystyried y ffordd y maen nhw'n ymwneud nawr â gweddillion Carillion, ac yn enwedig beth sydd ymhlyg yn hwn o ran y fasnachfraint a chais Abellio i fynd i'r afael â'r fasnachfraint reilffordd.
Ond i droi yn benodol at y cwestiwn rydych chi newid cyfeirio ato, sef gwella'r A40 yn—. Wel, fe wnawn ni beidio â chymysgu'r gwahanol Llanddewi—. Penblewin, fe wnawn ni ddweud. Mae Carillion i fod i ddechrau ar y gwaith yna yr haf yma, fel roeddwn i'n deall pethau. A fydd yna oedi nawr yn y cynllun yma, a beth yw'r camau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud nawr, i sicrhau na fydd gwaith pwysig, sydd yn ei dro, wrth gwrs, yn arwain at ddigwyddiadau economaidd yn yr ardaloedd hynny, yn cael ei oedi gormod, er lles y teithwyr ond hefyd er lles datblygu economaidd Cymru?
Diolch i Simon Thomas am y cwestiynau eraill yna.
Dim ond i fod yn eglur o ran cyffyrdd 15 ac 16 yr A55, roedd yr holl fusnes o ddyfarnu contract wedi ei gwblhau cyn y rhybudd elw ar 10 Gorffennaf, ond nid oedd llythyrau contract wedi eu hanfon i'r cwmni. Felly, ar yr adeg honno, gohiriwyd y cam o anfon llythyrau dyfarnu allan, a chynhaliwyd cyfres arall o ymchwiliadau gyda Carillion ccc i benderfynu a oeddent yn risgiau yr oedd angen eu nodi. Felly, cafwyd cyfnod arall o ddiwydrwydd dyledus, pan ofynnwyd am sicrwydd ffurfiol gan y cwmni a derbyniwyd hynny. Roedd swyddogion a oedd yn gyfrifol am gynnal yr asesiad hwnnw yn credu bod y sicrwydd angenrheidiol wedi ei dderbyn. Roedd risg gyfartal neu wahanol, pe na byddai'r dyfarniad wedi ei wneud, y byddai'r cwmni ei hun wedi ceisio cael adolygu'r penderfyniad hwnnw, gan fod y prosesau arferol wedi eu cwblhau'n briodol a'i fod wedi ennill y contract. Felly, roedd risg y bydden nhw eu hunain wedi ceisio cymryd camau, gan arwain at gyfres arall o oediadau o'r math a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders yn gynharach ac, wrth reswm, y byddai dinasyddion lleol wedi bod yn awyddus i'w hosgoi. Felly, roedd cydbwysedd o risg i'w lunio. Ymchwiliwyd iddo mewn modd pwrpasol a thrwyadl iawn.
Gan droi at ei bwynt am y rhan o'r A40 rhwng Llanddewi Felffre â Phenblewin, mae hwnnw'n gontract tri cham. Mae'r cam cyntaf wedi'i gwblhau mwy neu lai. Bydd dewisiadau i'w gwneud, y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn dymuno eu pwyso a'u mesur nawr. Yn yr achos hwn hefyd, mae is-gontractwyr sylweddol sy'n rhan o'r cynllun, ac mae'n bosibl y gallai un ohonyn nhw fod mewn sefyllfa i fod y prif gontractwr, a mantais hynny yn sicr yw y byddai'n lleihau oedi. Ond mae'r cyfle yno, os yw'n well gan Ysgrifennydd y Cabinet, i fynd allan i dendr ar gyfer cam nesaf y contract hwnnw, i weld yr hyn sydd gan y farchnad i'w gynnig ac i sicrhau'r gwerth gorau am wariant cyhoeddus Cymru. Anfantais hynny yw ei fod yn golygu oedi anochel. Yn y cyfnod byr iawn o amser ers cwymp Carillion, mae swyddogion wedi bod yn nodi dewisiadau, ac yn sicr yn cynnig cyngor i Weinidogion, a bydd y Gweinidogion yn penderfynu rhyngddynt wedyn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac a gaf i ymddiheuro i'r Ysgrifennydd Cabinet os roeddwn i'n orawyddus, ar un pwynt, i alw'r cwestiwn nesaf? Roedd hynny'n gwbl anfwriadol ar fy rhan i, ac mae'n ddrwg gen i am dorri ar eich traws chi yn eich atebion y prynhawn yma.