2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cyflymu cynlluniau tai yn Nwyrain De Cymru i roi ystyriaeth i ddileu tollau pontydd Hafren? OAQ51561
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y tollau'n dod i ben ynghyd â'r manteision a ddaw i Gymru yn sgil hynny. Rwy'n cydnabod y gallai hyn ddylanwadu ar y galw am dai a phrisiau tai yn y rhanbarth. Byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol Casnewydd a Sir Fynwy i drafod y mater yn fanylach, ac rwyf eisoes wedi cael trafodaethau cynnar gydag adeiladwyr tai.
Weinidog, gallai arwain at brisiau tai uwch. Rydym eisoes wedi gweld prisiau tai yn codi mwy na 9 y cant yn Sir Fynwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a mwy na 6 y cant yng Nghasnewydd. Tybed a oes angen mwy o frys mewn perthynas â hyn. Rwy'n falch iawn o glywed am y cyfarfod y mae'n ei gael, ond lle y ceir galw a chyfle i roi hwb i'r economi, a dod â phobl ar gyflog uchel i mewn a helpu'r ganolfan dechnoleg yng Nghasnewydd, a fyddai'r Llywodraeth, efallai, yn ystyried gwneud mwy i helpu Casnewydd a Sir Fynwy i gael safleoedd yn barod a chyflymu datblygiadau er mwyn elwa ar hyn?
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae sicrhau ein bod yn cadw golwg ar y cynlluniau datblygu lleol sy'n cael eu mabwysiadu ar draws Cymru yn wirioneddol hanfodol o ran sicrhau bod y cartrefi sydd eu hangen ar Gymru yn cael eu darparu. Ar gyfer ardal Dwyrain De Cymru, mae yna gyfleoedd a heriau sylweddol sy'n fwy nag unrhyw awdurdod cynllunio lleol unigol, ac yn sicr y ffordd orau o fynd i'r afael â hwy yw drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd, a dyna pam rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn yr ardal, yn eu gwahodd i ddod at ei gilydd a chyflwyno cynlluniau i baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd.
Rydym yn gwybod bod tuedd gadarnhaol o adeiladu tai wedi bod ledled Cymru—cafodd 722 o anheddau newydd eu cwblhau yn ne Cymru yn ystod y chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2017. Ond rwy'n cytuno bod cael gwared ar y tollau yn rhoi cyfle i ni gynyddu a gwella cyflymder y broses o adeiladu tai, fel y mae ein rhaglen tai arloesol yn ei wneud yn yr ardal, er enghraifft. Rwy'n awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai i sicrhau ein bod yn gwneud hynny ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Weinidog, yr hyn a fyddai'n sicr o helpu i fynd i'r afael ag unrhyw gynnydd mewn prisiau tai fyddai cyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, a fydd eich trafodaethau gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddatblygu cartrefi fforddiadwy yn yr ardal honno?
Diolch i chi am y cwestiwn, ac mae bron bob trafodaeth a gaf yn y portffolio hwn yn cynnwys y rôl bwysig o wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyflymder a nifer y cartrefi a fydd yn cael eu datblygu i'w gwerthu yn y farchnad yn ogystal, oherwydd gwyddom ein bod angen y pecyn amrywiol cyfan yng Nghymru i ddiwallu anghenion pobl wahanol am wahanol fathau o dai. Mae'n anodd deall ar hyn o bryd beth y gallai'r effaith hirdymor fod ar brisiau tai yn yr ardal, ond rydym yn sicr yn cadw golwg agos iawn ar hynny. Pe bai prisiau tai yn codi, mae'n amlwg y byddai hynny'n beth da i'r farchnad dai leol a'r rheini sydd eisoes yn berchen ar gartrefi. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gallai effeithio'n fawr ar allu pobl leol sy'n prynu am y tro cyntaf i gael mynediad at eiddo mewn ardaloedd lle mae'r galw'n uchel, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i adeiladu tai ledled Cymru, ond yn enwedig yn y rhan hon o Gymru, a dyna pam rydym yn edrych ar ba fathau gwahanol o becynnau y gallwn eu rhoi at ei gilydd i gynorthwyo pobl i brynu cartref.
Rwy'n llawn cyffro ynghylch y gwaith datblygu rydym yn ei wneud ar y cynllun rhentu i brynu. Felly, bydd hwnnw'n becyn a fydd ar gael i bobl sy'n gallu fforddio talu rhent y farchnad ond nad ydynt wedi gallu cynilo blaendal ar gyfer cartref, a bydd hwnnw'n eu galluogi i brynu cartref o dan becyn newydd rydym yn ei ddatblygu ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio dweud rhagor am hynny yn y dyfodol agos.