2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gymdeithasau tai yn Nhorfaen wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ51575
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, yr heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol y gall yr holl ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru ei ddefnyddio.
Diolch, Weinidog. Yn anffodus, rwyf wedi gweld cryn gynnydd yn ddiweddar yn nifer y cwynion gan denantiaid ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn achosion difrifol iawn a hyd yn oed yn achosion lle roedd bywyd yn y fantol. Un o'r pethau sy'n ymddangos yn gyson yw amharodrwydd pobl i roi tystiolaeth am eu bod ofn y bydd rhywun yn dial arnynt, ac er bod cynnydd wedi bod yn y defnydd o dystion proffesiynol i gefnogi achosion dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n anochel na fyddant yn gweld neu'n dyst i'r un broblem â rhywun sy'n byw gyda sefyllfa 24/7. Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid yn Nhorfaen yn cael eu diogelu'n well i sicrhau bod achosion o'r fath yn cael eu trin yn fwy effeithiol, a hyd yn oed i'w hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf?
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol y mae eich etholwyr wedi eu hwynebu. Cyfarfûm â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, yn gynharach yn yr wythnos, a'i ddirprwy, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i arwain y gwaith hwnnw, sy'n datblygu adnodd ar gyfer pob darparwr tai cymdeithasol, gobeithio, yn amodol ar werthusiad llwyddiannus y cynllun peilot hwnnw. Ac rwy'n bwriadu ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ar ôl y gwerthusiad. Rwy'n disgwyl cael yr adroddiad llawn erbyn diwedd mis Mawrth, ac rwy'n awyddus i wybod pa awdurdodau lleol a pha landlordiaid cymdeithasol yn enwedig a fyddai'n elwa fwyaf o ddefnyddio'r adnoddau. Felly, pe gallem gael sgwrs efallai, a nodi rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig penodol yn Nhorfaen, gallai hwnnw fod yn fan da i allu dechrau gwneud rhywfaint o gynnydd. Yn amlwg, mae materion cyfrinachedd ynghlwm wrth hyn, felly os hoffech i mi ofyn i fy swyddogion siarad gydag unrhyw landlordiaid penodol ynglŷn â'r materion y mae eich etholwyr yn eu hwynebu, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.