4. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:18, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:19, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd yr hen synagog Gothig wych ym Merthyr Tudful wedi gwasanaethu'r gymuned Iddewig yno ers y 1870au. Roedd y gymuned Iddewig ym Merthyr Tudful ar ei mwyaf yn y 1930au, ond er eu bod bellach wedi diflannu o'r dref i raddau helaeth, mae arwyddion o'u presenoldeb yn dal i fodoli, gan gynnwys y fynwent Iddewig yng Nghefncoedycymer.

Ym 1955, cynhaliwyd, ac rwy'n dyfynnu, gwasanaeth gwefreiddiol lle ailgysegrwyd y Synagog 80 oed gan y Prif Rabi... Yn ei anerchiad... cyfeiriodd y Prif Rabi at yr erledigaeth a barodd i'r Iddewon adael eu tiroedd genedigol a'r modd roeddent wedi dod o hyd, ac rwy'n dyfynnu, 'i ryddid i addoli ym Merthyr Tudful.'

Felly, mae'n drist nodi cyflwr cyfredol yr hen synagog, fel y gwelwch yn y llun. Yn ddiweddar, mapiodd y Sefydliad Treftadaeth Iddewig, sefydliad a leolwyd yn y DU, yr holl synagogau hanesyddol ledled Ewrop, a'u categoreiddio yn ôl eu harwyddocâd a'u cyflwr. Mae synagog Merthyr Tudful yn un o ddwy yn unig yn y DU a gafodd sylw yn y gwaith hwn fel y rhai sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Diolch byth, mae'r sefydliad eisoes wedi codi arian i gynnal astudiaeth ragarweiniol o'r adeilad, a allai arwain at ei adfer. Mae'r synagog yn rhan bwysig o'n hanes cyfunol, nid yn unig i Ferthyr Tudful ac i Gymru, ond y tu hwnt i hynny hefyd. Felly, hoffwn ddymuno'n dda i'r sefydliad gyda'u gwaith; maent yn haeddu llwyddo ac mae'r adeilad pwysig hwn yn haeddu cael ei achub.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:20, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ym 1994, 10 mlynedd ar ôl streic y glowyr, trodd Llywodraeth y DU eu sylw at y pwll dwfn olaf yn ne Cymru. Targed eu fandaliaeth economaidd oedd Pwll Glo'r Tower. Roedd Pwll Glo'r Tower yn Hirwaun yn broffidiol—cafodd ei ganmol gan John Redwood, o bawb, am ei gynhyrchiant. Fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth San Steffan daro ei hergyd derfynol yn erbyn y glowyr a fu unwaith mor gryf. Derbyniodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, gweithlu Pwll Glo'r Tower a'r gymuned yr her.

Ymunodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, â'r glowyr mewn protest o dan y ddaear i dynnu sylw at yr ymgyrch lew. Ymateb Llywodraeth y DU a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd mwy o fradychu a thorri eu gair. Nid oedd unrhyw ddewis gan y glowyr ond pleidleisio dros gau'r pwll. Ond nid dyna ddiwedd eu stori. O dan arweiniad ysgrifennydd y gangen, Tyrone O'Sullivan, cyfrannodd 239 o lowyr £8,000 o'u tâl diswyddo i brynu'r pwll glo. Cafodd ei atgyfodi fel cwmni cydweithredol y gweithwyr; y pwll glo cyntaf yn y byd i fod yn eiddo i'w weithlu. Mae mis Ionawr 2018 yn nodi 23 mlynedd ers i'r Tower ailagor—pennod newydd feiddgar a dewr yn ei hanes.

Mae'r Tower wedi cau bellach, ond mae cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol y safle; cynlluniau a fydd yn sicrhau bod y Tower a'i hanes o frwydro yn parhau'n fyw. I aralleirio'r naratif a berchnogwyd mor rymus gan lowyr y Tower: dynion cyffredin oeddent, roeddent eisiau eu gwaith, fe brynon nhw bwll glo.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:22, 17 Ionawr 2018

Yn ystod y llynedd, bu Bws Arfordir Llŷn yn rhedeg dau fws yn rheolaidd rhwng Llanbedrog, Abersoch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn rhwng Mai a'r hydref. Mae’n cael ei gynnal gan grŵp trafnidiaeth gymunedol o ddrws i ddrws. Mae Bws Arfordir Llŷn yn dilyn llwybr sy’n ategu'r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan alluogi pobl i gerdded llwybr yr arfordir gan adael eu ceir. Mae’r bws yn agor y drws i ardal o harddwch eithriadol ac ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd.

Mae’r bws hefyd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan bobl leol. Aeth criw o ffrindiau o Abersoch am ddiwrnod i Aberdaron, ymweld â Phorth y Swnt a chael pryd cyn mynd adref. Defnyddir y bws gan bobl hen ac ifanc, gan famau a’u plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae o gymorth i daclo problemau iechyd drwy annog cadw’n heini drwy gerdded, yn ogystal â thaclo unigedd drwy gynnig trafnidiaeth i wahanol ddigwyddiadau ac atyniadau treftadaeth.

Cefais gyfle cyn y Nadolig i gwrdd â nifer o bobl ynghlwm â llwyddiant y cynllun yn Nefyn a chlywed gan fusnesau ac unigolion lleol sut y bu Bws Arfordir Llŷn yn dod â budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i benrhyn Llŷn. Hoffwn ddiolch i’r gyrwyr, i’r gwirfoddolwyr, a phawb fu’n cynnal y gwasanaeth hwn, ac yn wyneb ansicrwydd cyllid ar gyfer y flwyddyn hon, hoffwn annog y Llywodraeth i gefnogi’r cyswllt pwysig hwn ym mhob ffordd bosib.