Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:39, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi fod yn gyfrifol ac yn atebol am iechyd yn y pen draw. Mae iechyd yn gwbl ddatganoledig ac yn gyfrifol i chi. Nawr, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw eisiau i bobl gael eu trin yn agosach i'w cartrefi ac yn y gymuned, ond nid yw'n ymddangos mai dyna y mae'r cynigion yn y ddogfen a ddatgelwyd yn ymwneud ag ef. Un agwedd a allai ategu gwasanaethau ysbyty presennol yw creu canolfannau cymunedol â gwelyau, neu'n fwy cywir efallai, 'Ni allaf gredu nad yw'n ysbyty cymuned'. Roedd cau ysbytai cymuned yn bolisi Llywodraeth Lafur ar un adeg, ac mae wedi arwain at leihau nifer y gwelyau, ac mae wedi bod yn gamgymeriad mawr. Ni ddylid defnyddio gwasanaethau cymunedol fel esgus i gau ysbytai cyffredinol dosbarth. Gyda defnydd o welyau ar draws y GIG yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant am y saith mlynedd diwethaf, a ydych chi'n derbyn bod y GIG angen mwy o welyau i'w alluogi i ymdopi â phwysau ychwanegol y gaeaf?