Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio nid yn unig ar y mater o welyau, ond ar y mater o gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu, os edrychwch chi ar oedi wrth drosglwyddo gofal, bod ein ffigurau yn llawer gwell o fis i fis, ac wedi gwella'n fawr ers y llynedd. Nid ydym ni eisiau pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd angen iddyn nhw fod yno.

Ond, wrth gwrs, y pwynt arall y mae'n rhaid i ni ei ddeall yw ein bod ni angen GIG sy'n gynaliadwy. Ymrwymodd yr holl bleidiau i hynny yn rhan o'r adolygiad seneddol. Mae'n aruthrol o bwysig ein bod ni, wrth gwrs, yn cytuno â'r egwyddor y dylai pobl gael eu trin mor agos i gartref â phosibl, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynigion a wnaed gan Hywel Dda i Hywel Dda eu hystyried ar hyn o bryd, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae'n wir dweud efallai y daw adeg pan fydd angen penderfyniad gan y Llywodraeth, ond nid yw'r adeg honno wedi cyrraedd eto.