Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n ddibwrpas cael unrhyw fath o ymgynghoriad. Nawr, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn ar hyn o bryd, ac mae rhesymau dros hynny. [Torri ar draws.] Mae Simon Thomas yn gwybod hyn yn iawn: y rheswm pam na allwn ni gynnig barn ar hyn o bryd yw oherwydd bod ymgynghoriad agored yn digwydd. Ni allwn ni ddod â'r ymgynghoriad i ben ar hyn o bryd. Ceir materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hynny, i ddechrau.

Mae'n wir i ddweud y daw adeg, neu efallai y daw adeg, pan fydd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniad, a dyna'r adeg, heb os, y bydd Gweinidogion yn cael eu holi ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Ond ni allwch chi ar y naill llaw ddweud, 'Rydym ni wedi ymrwymo i adolygiad seneddol sy'n ystyried creu GIG sy'n gynaliadwy' ac yna dweud, 'Dyma fydd y dewisiadau—' [Torri ar draws.] Na, na, na. Ac yna dweud, 'Ceir rhai dewisiadau a fydd yn cael eu diystyru'n llwyr bob amser'. Nid dyna'r ffordd y mae'r pethau hyn yn gweithio. Yr wythnos diwethaf, roedd yr adolygiad seneddol yn cael ei gefnogi gan bob plaid yn y Siambr hon. Y cwestiwn yw: a yw'r pleidiau hynny'n cefnu ar yr adolygiad hwnnw nawr? Mae hwnnw'n gwestiwn y credaf bod angen ei ateb.