Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Y pwynt yw, Prif Weinidog, bod pobl angen system iechyd integredig a gwasanaethau cymunedol sy'n ategu ysbytai cyffredinol dosbarth, nid eu disodli. Mae pobl yn y gorllewin yn dal yn mynd i fod angen triniaeth frys. Bydd dal i fod angen llawdriniaeth arnynt, byddant yn dal i fod angen aros dros nos ac adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Nawr, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer ein cymunedau gwledig. Mae hynny'n golygu adran damweiniau ac achosion brys i Fronglais a Glangwili, a chadw Llwynhelyg ar agor.

Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn eich rhybuddio chi ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn am yr angen i hyfforddi mwy o feddygon. A wnewch chi weithio gydag ysgol feddygol Abertawe ar ei chynigion i gynyddu nifer y meddygon yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? A allwch chi sicrhau pobl allan yna, a'r Aelodau yma heddiw, na fyddwch chi'n cadarnhau unrhyw benderfyniad i gael gwared ar adrannau damweiniau ac achosion brys o Bronglais na Glangwili? A wnewch chi hefyd gadarnhau na fydd Llywodraeth Lafur yn cymeradwyo unrhyw benderfyniad i gau ysbyty Llwynhelyg na chael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o'r ysbyty hwnnw?