Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Ionawr 2018.
Rydym ni wedi darparu £5.97 miliwn o gyllid grant ar gyfer eleni. Bydd y cyllid hwnnw'n parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae ar gyfer tri phrosiect: gwasanaethau cyngor rheng flaen, Cyngor Da, Byw'n Dda, a phrosiectau rhannu canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf. Maen nhw'n sicrhau mynediad am ddim ac annibynnol at gyngor lles cymdeithasol ledled Cymru ac, fel y dywedais, bydd hynny'n parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf.