Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Ionawr 2018.
Yn ei gyllideb fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys newidiadau i'r system credyd cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar y saith niwrnod aros cyn y gall hawlydd wneud cais am gredyd cynhwysol, gwelliant sylweddol i'r system taliadau ymlaen llaw, gan gynnwys cynyddu'r swm sydd ar gael, a newidiadau i gynorthwyo pobl â'u taliadau rhent wrth symud o fudd-dal tai. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â phrif weithredwr y canolfannau Cyngor ar Bopeth a ddywedodd bod y newidiadau hyn yn gam i'w groesawu ac y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru?