Credyd Cynhwysol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, ni ddylid bod wedi gwneud smonach ohono yn y lle cyntaf, na ddylai? Dyna gyfaddefiad nad oedd yr hyn a roddwyd ar waith i gychwyn wedi ei ystyried yn ddigonol ac arweiniodd hynny at roi llawer o bobl mewn dyled. Mae gennym ni dystiolaeth gan gymdeithasau tai i Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dal i fod yn broblem i bobl ar gredyd cynhwysol. Ceir materion eraill hefyd sy'n gysylltiedig â gweithredu credyd cynhwysol, fel diffyg ymwybyddiaeth ynghylch trefniadau talu amgen a mynediad at daliadau ymlaen llaw. Felly, mae'r problemau hynny yn parhau.