5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:52, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiynau perthnasol iawn ynghylch y defnydd o blastig a deunydd pacio. Credaf eich bod yn iawn, dyma'r amser. Credaf fod gan bobl wir ddiddordeb yn hyn, ac, yn amlwg, gyda fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, byddwn yn cyflwyno strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, fydd yn rhoi sylw i leihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf fod hynny hefyd—. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli faint o fwyd sy'n cael ei daflu, a chredaf fod cyfle gennym ni yma i leihau faint o fwyd a wastraffwn. Credaf fod yn rhaid inni. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae llawer o gyfleoedd i leihau ac atal gwastraff ac arbed arian.

Mae gwaith wedi dechrau i ystyried sut y gellir lleihau gwastraff deunydd pacio bwyd, ac rydym ni'n gwybod bod plastig, yn benodol, yn broblem fawr. Credaf fod angen inni gael y drafodaeth honno gyda'r archfarchnadoedd—gwn yn union beth a olygwch chi am fagiau plastig untro ochr yn ochr â chynnyrch—i geisio lleihau'r nifer sy'n cael eu defnyddio. Mae'r fenter gwellt plastig mor syml, ond mae'n bwysig. Pan oeddwn i yn Dubai yn Gulfood y llynedd, ymwelais â ffatri oedd yn gwneud gwellt plastig. Roedd yn erchyll gweld y niferoedd a gânt eu cynhyrchu, ac roedd yn hollol anghredadwy. Felly, gallai pethau  bach fel newid o blastig i bapur—oherwydd rydym ni'n gwybod fod pobl yn awyddus i ddefnyddio gwellt—gallai arbed cymaint.

Felly, fel y dywedaf, mae hon yn agwedd o waith a gaiff ei datblygu gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, a byddaf yn amlwg yn cefnogi hi gyda hynny. Rwy'n hapus iawn i gael sgwrs gyda hi i geisio lleihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y ddau, ochr yn ochr.