2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn? OAQ51624
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n bwriadu cynnal ymarfer caffael yn fuan, gyda golwg ar y prosiect newydd sy'n dechrau yn y gwanwyn eleni. Byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y mis hwn i nodi mwy o fanylion am y cynllun newydd.
Diolch am hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynllun, wrth gwrs, achos rŷm ni’n gwybod bod y cynllun blaenorol, sydd wedi dod i ben, heb gyrraedd pob man. Rwy’n gwybod nad oes gyda chi’r ffeithiau llawn—yr adroddiad llawn—eto, ond mae yna bentrefi di-ri sydd wedi adrodd nôl fod yna cables yn dal i hongian oddi ar y polion ac nad yw’r gwaith wedi cyrraedd pen y daith, a hefyd bod yna rannau o Gymru, nad oedd byth yn mynd i gael eu cyrraedd o dan y cynllun blaenorol, sydd angen ateb, efallai, gwahanol, mwy clyfar er mwyn eu cyrraedd nhw.
Dau gwestiwn, felly, os caf i fod yn glir: rwy’n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am £80 miliwn ar gyfer hyn—ai dyna’r swm sydd gyda ni o hyd, ac a ydych chi’n credu bod hynny’n ddigonol, neu a fydd angen ychwanegu at hynny? A faint o gyfle go iawn sydd i ddarparwr arall ddod i mewn i helpu yn y broses yma, achos rwy’n ofni bod rhoi ein hwyau i gyd ym masged BT Openreach wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol, lle nad ydym ni, yn syml iawn, yn gallu cyrraedd yr wyau i wneud yr omlet?
Mae Simon Thomas yn gwneud nifer o bwyntiau da y mae wedi'u gwneud ar nifer o achlysuron ynglŷn â'r ffordd y mae band eang cyflym iawn wedi gweithio. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cynllun Cyflymu Cymru wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus i'r bobl sydd wedi cael band eang cyflym iawn o ganlyniad iddo, ac maent yn nifer enfawr o bobl ledled Cymru. Mae'n rhan o natur pethau nad ydym yn derbyn llu o lythyrau gan bobl sy'n ddiolchgar amdano. Yn hytrach, rydym yn cael llawer o lythyrau gan y bobl sydd ar ben arall y prosiect, ac mae hynny'n ddealladwy iawn.
Ni fyddwn yn gwybod am nifer o wythnosau eto pa un a gafodd y cytundeb ei gyflawni'n llawn, ond mae gennym arwyddion da eu bod wedi gwneud yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn eu bod wedi cyflawni'r cytundeb mewn gwirionedd. Ond daeth y cytundeb i ben ar 31 Rhagfyr, am hanner nos, ac felly, yn amlwg, os na chafodd y gwaith ei wneud erbyn hynny, nid yw Llywodraeth Cymru yn talu amdano. Felly, mae hynny'n gadael pobl mewn sefyllfa rwystredig iawn.
Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ddechrau'r wythnos nesaf, felly rwyf am osgoi'r demtasiwn o achub y blaen arnaf fi fy hun drwy ei gyhoeddi cyn hynny, ond rydym yn ymwybodol iawn o helynt cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl, ac o nifer y bobl a gafodd addewid y byddent yn cael band eang cyflym iawn o dan y cynllun cyntaf, ac a gafodd eu gadael ar ôl am amryw o resymau. Yn sicr, byddwn yn cadw'r bobl hynny mewn cof pan fyddwn yn edrych ar y cyhoeddiadau rwy'n gobeithio eu gwneud ddechrau'r wythnos nesaf, fel y mae'n digwydd.
Os gwelwch yn dda, peidiwch â thalu BT am Princes Gate. Yn ystod yr amser dywedwyd wrthyf ar sawl achlysur y bydd Princes Gate yn cael band eang cyflym. Yn wir, y llynedd, ysgrifennodd pennaeth Cyflymu Cymru ataf—nid wyf am ei enwi—yn dweud y byddai ail gynllun yn sicrhau bod Princes Gate yn cael ei uwchraddio i fand eang cyflym iawn erbyn hydref 2017. Dyma'r ymateb gan arweinydd Openreach:
Mae'r seilwaith sy'n gwasanaethu eich cymuned yn rhan o raglen roeddem yn ei chynnal a ddaeth i ben ar ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017. Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben— nid ydym yn gwneud rhagor. Ac nid Princes Gate yn unig. Mae Cynwyl Elfed, Hermon, Lawrenny, Martletwy, darnau o Benfro—maent i gyd wedi cael eu siomi. Cawsant addewid, dywedwyd wrthynt yn bendant—a Llanpumsaint—y byddent yn ei gael, ac ni fyddant yn ei gael bellach. Nid wyf yn credu eich bod yn bersonol gyfrifol am hyn, Weinidog, oherwydd gwn eich bod yn credu'n gryf mewn cyflawni'r cynllun hwn, ond buaswn yn hoffi i chi siarad yn go gadarn â BT ac Openreach. Ni allant wneud addewidion i bobl ac yna dweud, 'Anlwcus. Mae wedi dod i ben. Trueni', oherwydd mae gan y bobl hyn fywydau i'w byw, busnesau i'w cynnal, plant i'w haddysgu. Mae band eang cyflym iawn yn ddarpariaeth gyffredinol sydd ei hangen ar bawb heddiw, ac ni allaf weld pam y dylai fy etholaeth fod o dan gymaint o anfantais.
Credaf fod yr Aelod wedi gwneud nifer o bwyntiau sy'n werth eu hystyried. Fel y dywedais, wrth ystyried yr hyn y byddwn yn ei wneud ar gyfer y cynlluniau olynol, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r bobl a gafodd addewidion mewn gwahanol amgylchiadau ac na chafodd eu bodloni, am amrywiol resymau peirianyddol cymhleth, o dan y cynllun cyntaf.
Angela Burns fydd y person cyntaf i ddweud na ddylwn dalu am rywbeth sy'n groes i'r cytundeb, ac wrth gwrs mae'r cytundeb wedi dod i ben, ac rydym wedi bod yn bendant iawn ynglŷn â hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymddwyn mewn ffordd ariannol briodol mewn perthynas â'r cytundeb ac yn y blaen. Ond ein prif fwriad yma yw cysylltu pobl â band eang—nid ymarfer ariannol yw hwn, ond ymarfer i gael y seilwaith yno. Felly, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau gyda BT Openreach ynglŷn â lle aeth y gwaith ar adeiladu'r seilwaith, a chofiwch, maent yn buddsoddi eu harian yn hwnnw—nid ydynt yn cael eu talu hyd nes y bydd y safleoedd hynny wedi'u cysylltu. Felly, maent wedi buddsoddi arian mewn adeiladu allan at y safleoedd hynny ac mae gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu cysylltu o fudd masnachol iddynt hwy yn gymaint ag unrhyw beth arall.
Rydym wedi cael cryn dipyn o sgyrsiau gyda hwy am bobl yn y sefyllfa a grybwyllwyd gennych, ar ran nifer o'ch etholwyr, a phobl ledled Cymru yn wir sy'n perthyn i'r 4 y cant o bobl sy'n weddill ar ddiwedd y cytundeb. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau yr wythnos nesaf, a chredaf y gallent fod yn rhywfaint o gysur i rai o'r cymunedau a grybwyllwyd gennych.
A yw arweinydd y tŷ, gyda'i chyfrifoldebau dros fand eang a chydraddoldeb, yn cytuno â mi nad oes gan gydraddoldeb priodas, mewn gwirionedd, fawr ddim i'w wneud â chyflwyno band eang cyflym iawn? A yw hi hefyd yn cytuno â mi fod y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon, a oedd yn cysylltu'r ddau beth yn hollol ddifeddwl, yn fawr mwy nag enghraifft arall o ba mor dwp, ansensitif ac allan ohoni yw Llywodraeth Dorïaidd y DU?
Credaf fod y sylwadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn eithaf syfrdanol, mewn gwirionedd. Yn amlwg, nid yw cydraddoldeb priodas yr un peth â chysylltedd band eang mewn unrhyw fodd. Yn amlwg, mae bod yn aelod o'r gymuned LGBT+ yn nodwedd warchodedig a dylid ei thrin mewn modd sensitif fel y cyfryw.
Nid yw cydraddoldeb priodas yng Ngogledd Iwerddon yn fater ar gyfer y Llywodraeth ddatganoledig hon wrth gwrs, ond mae cymharu'r peth â chyflwyno seilwaith yn amlwg yn ansensitif iawn ac nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei weld o dan unrhyw amgylchiadau.