4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? 113
Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 22 Ionawr 2018 ynghylch camau cyfreithiol yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio. Gallaf gadarnhau bod achos cyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â thorri contract ac esgeuluster proffesiynol yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton Group Ltd. Byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar y cam hwn yn yr achos hwnnw.
Neil Hamilton—mae'n ddrwg gennyf, Neil McEvoy. [Chwerthin.] Roeddwn yn edrych draw acw. Mae'n ddrwg gennyf, Neil.
Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith ynglŷn â'r sgandalau gwerthu tir a ddigwyddodd yn 2012, ond rwy'n bryderus iawn ei bod wedi cymryd cymaint â chwe blynedd i gyrraedd y pwynt hwn. Dyna chwe blynedd ers i fy etholwyr golli £39 miliwn yn Llys-faen, pan werthwyd y tir yn rhad i gwmni tramor, a £7 miliwn yn y Rhws ym Mro Morgannwg.
Caf fy nghyfyngu, fel y dywedwyd wrthym, o ran beth rwy'n cael ei ofyn, oherwydd yr achos cyfreithiol, ond mae'n amlwg eich bod wedi casglu corff o dystiolaeth er mwyn erlyn y cwmnïau a oedd yn cynghori ar werthu'r tir. Felly, a fyddwch yn darparu'r dystiolaeth honno i Heddlu De Cymru a'r Swyddfa Twyll Difrifol, ac a fyddwch yn galw am ailagor yr ymchwiliad troseddol?
Diolch i chi am eich cwestiynau. Fe ddywedaf, o ran yr amserlen dan sylw, fod pob mater sy'n ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio wedi cael ei ystyried yn fanwl iawn gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y gwaith hwnnw yn arbennig yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 17 o argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, mae'r camau cyfreithiol hyn yn ymateb i un o'r argymhellion hynny, sy'n awgrymu y dylid rhoi camau ar waith mewn perthynas â thorri contract ac esgeuluster proffesiynol.
Am bob un o'r rhesymau a amlinellodd y Dirprwy Lywydd, rwy'n gyndyn iawn i wneud unrhyw sylw pellach ar fanylion y broses gyfreithiol sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn sicr ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar unrhyw dystiolaeth a gasglwyd gennym. Fodd bynnag, fe ddywedaf, er mwyn helpu'r Aelodau, fy mod yn gwybod bod yna bryderon mewn perthynas â'r achos cyfreithiol a'r mater ar wahân ynglŷn â'r taliadau gorswm yn ogystal. Felly, credaf y byddai gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod bod mwy na £5 miliwn wedi dod i law hyd yn hyn fel taliadau gorswm, a disgwylir taliadau ychwanegol yn y dyfodol. Unwaith eto, mae'n rhy gynnar i ddweud beth yw'r union ffigur o ran y cronfeydd hynny, ond buaswn yn sicr yn hapus i roi newyddion pellach i'r Aelodau ynglŷn â hyn a materion eraill wrth i bethau fynd rhagddynt.
Diolch, Weinidog.