Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 24 Ionawr 2018.
A gaf fi hefyd ymuno ag eraill i ddiolch i Russell George ac i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Yn sicr, mae'r adroddiad yn amlygu nifer o faterion pwysig iawn ynghylch yr angen i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer ein cymunedau o'r bargeinion, ac i osgoi baich biwrocratiaeth sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwnnw. Ac nid yw hynny byth yn hawdd oherwydd, er enghraifft, ers i'r gwaith craffu penodol hwn ddechrau, gwelsom gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', sy'n haen arall o ddisgwyliadau sydd i'w cyflwyno gan lawer o'r un cyrff. Eto i gyd, nid yw'n ymddangos bod y berthynas hollbwysig rhwng y fargen ddinesig a strategaeth y Cymoedd wedi ffurfio unrhyw ran glir o ystyriaethau'r pwyllgor, o leiaf nid yr hyn a adlewyrchir ar wyneb yr adroddiad, a oedd yn bwynt a wnaeth Hefin rwy'n credu. Ac rwy'n derbyn y gallai hynny fod yn fater o amseru'n unig, oherwydd ceir tystiolaeth yn yr adroddiad—o gyflwyniadau Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree a TUC Cymru, ac yn wir, cyfeiriodd Russell George ato ei hun yn ei sylwadau agoriadol—fod anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig wedi cynyddu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut roedd y materion hynny'n cyfrannu at drafodaethau'r pwyllgor.
Lywydd, nid yw'r sylwadau rwyf am eu gwneud wedi eu hanelu yn benodol at unrhyw argymhellion penodol, ond maent yn ymwneud yn fwy cyffredinol â chasgliadau'r adroddiad. Ond eto, i adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaeth Hefin, a Vikki Howells hefyd, i gyrraedd y nod hwnnw, mae'n rhaid i'r fargen sicrhau manteision pendant i'r holl ddinasyddion yn y rhanbarth. Felly, os yw Caerdydd a Chasnewydd yn cael buddsoddiadau newydd sgleiniog o'r fargen, ni fyddaf yn cwyno am hynny—byddant yn asedau rhanbarthol a bydd pawb ohonom yn eu defnyddio. Ond yn amlwg, ni fydd hynny ynddo'i hun yn ddigon i ddweud ei fod wedi bod yn llwyddiant. Llwyddiant fydd uwchraddio sgiliau a chyfleoedd economaidd mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, gan ddarparu cysylltiadau gwell byth o'r rhanbarth ehangach i Ferthyr Tudful, y gellid dadlau ei bod yn un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol y Cymoedd. Bydd hynny'n hollbwysig, oherwydd gyda gwell cysylltiadau i mewn i leoedd fel Merthyr, bydd penderfyniadau buddsoddi cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer buddsoddiad sector cyhoeddus, nid yn unig yn gwneud synnwyr ond gellir eu cyfiawnhau gyda chanlyniadau pendant fel swyddi a thwf economaidd.
Llwyddiant fydd ardaloedd fel cwm Rhymni uchaf yn teimlo hwb am y bydd llawer o'r partneriaid ar draws y rhanbarth ehangach, gan gynnwys y naw awdurdod lleol arall sydd mewn partneriaeth â Chaerffili yn awr, wedi gweld ac wedi adnabod anghenion y cymunedau hyn. Llwyddiant fydd gweld ardaloedd fel ardal gyfagos Blaenau Gwent yn elwa, am mai echel ogleddol Blaenau'r Cymoedd, sef Merthyr, Rhymni a Blaenau Gwent yw'r union ardaloedd sydd fwyaf o angen yr hyn y buaswn yn ei alw'n fargen well, nid bargen ddinesig yn unig. Os caf ddyfynnu o ragair y Cadeirydd i'r adroddiad,
'Os bydd bargeinion yn rhan allweddol o weithgarwch economaidd yn y dyfodol yng Nghymru, yna mae angen inni sicrhau bod eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd'.
Wel, mae gan y rhai ohonom sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd farn glir iawn ynglŷn â'r hyn sydd angen digwydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhaid i fargen ddinesig helpu i wella'r lleoedd sydd angen y fargen well honno. Ni fydd yn llwyddiant hyd nes y bydd hynny'n digwydd.