2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynt y cynlluniau i newid cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru? OAQ51680
Rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ymatebion niferus yr ymgynghoriad ar y cynigion yn ein Papur Gwyn diweddar, gyda newidiadau i gynghorau iechyd cymuned yn un ohonynt. Mae swyddogion a minnau'n dal i drafod gyda chynrychiolwyr bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned mewn perthynas â'u hymateb adeiladol i'r Papur Gwyn. Bydd adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu, os ydym am gael y ddadl aeddfed rydych eisiau i ni ei chael am ddyfodol y gwasanaeth iechyd, mae angen i ni gael sector cyngor iechyd cymuned sy'n gallu ymateb yn effeithiol i'r alwad honno yn ogystal â gwleidyddion. Credaf fod cynghorau iechyd cymuned yn hanfodol, ond mae gennyf rai amheuon o fy ardal fy hun o ran sut y maent wedi ymateb i broblemau blaenorol mewn perthynas ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn ddiweddar, mewn perthynas â sgandal Kris Wade. Ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar fy nghred sylfaenol nad wyf yn credu y bydd corff Cymru gyfan yn datrys y broblem hon. I mi, mae'n ymwneud â cheisio rhoi canllawiau i'r cynghorau iechyd cymuned, rhoi safonau iddynt, safoni arferion ar draws cynghorau iechyd cymuned a gwneud yn siŵr eu bod yn weladwy. Yn wir, dywedodd cyn gadeirydd cyngor iechyd cymuned Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wrthyf mai hon yw'r gyfrinach fwyaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddatganiad eithaf syfrdanol gan gadeirydd cyngor iechyd cymuned. Felly, beth rydych yn ei wneud mewn perthynas â'r cysyniad hwn o gyngor iechyd cymuned Cymru gyfan? A fyddwch yn bwrw ymlaen ag ef, er gwaethaf yr amheuon hynny?
Fel rwyf wedi'i ddweud, rydym yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rydym yn parhau i gael deialog adeiladol iawn ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â chynigion, ond credaf fod pob un ohonom eisiau gweld corff newydd sy'n rhoi llais i ddinasyddion ac sy'n gallu cwmpasu meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, ac ni allwch wneud hynny heb ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned, oherwydd nid yw eu cylch gwaith cyfredol fel y mae wedi'i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ymestyn i'r maes gofal cymdeithasol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflawni hynny. Mewn gwirionedd, mae yna bobl sy'n rhannu eich safbwynt nad corff cenedlaethol ddylai'r ateb fod, ond mewn gwirionedd, mae gennym gorff cenedlaethol eisoes gyda bwrdd y cynghorau iechyd cymuned. Mae'n ymwneud â gwneud iddo weithio a sicrhau y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r pryderon sydd gan bobl ynghylch sefydlu corff cenedlaethol mewn un lleoliad anghysbell—boed yng Nghaerdydd, Aberystwyth neu Fangor—ac ni fyddai gan hwnnw statws lleol a threfniant lleol i sicrhau presenoldeb o fewn cymunedau lleol. Felly, mae'r pryderon hynny'n cael ystyriaeth ddifrifol, a chan fod gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'n bod wedi symud ymlaen wedyn i gael yr hyn y gobeithiaf y byddant yn gynigion ar gyfer Bil, mae'r rhain yn amlwg yn faterion lle bydd angen nodi'n fanwl sut rydym yn argymell y dylid mynd i'r afael â hwy, ond nid yw'r sgyrsiau hynny wedi'u cwblhau.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod Bethan Jenkins wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn, ac maent yn bwyntiau sydd wedi'u gwneud i nifer o Aelodau Cynulliad ledled Cymru. Cyfarfûm â fy nghyngor iechyd cymuned lleol y llynedd, ac roeddent yn bryderus am rai o'r cynigion posibl a fyddai'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Nid ydynt yn gwrthwynebu newid, ac maent yn deall bod yn rhaid i'r system, y sector, newid. O ran y strwythur—a yw'n gorff cenedlaethol neu'n gorff lleol—rhywbeth i chi ei benderfynu yw hwnnw yn y pen draw, ond a wnewch chi sicrhau, fodd bynnag, eich bod yn gwrando ar gleifion, sicrhau bod lleisiau cleifion yn rhan o'r system hon, pa strwythur bynnag y gallai fod? Gadewch i ni beidio â cholli'r agwedd hanfodol honno ar system gyfredol y cynghorau cyngor cymuned, sy'n gweld gwirfoddolwyr yn mynd i ysbytai, sy'n gweld problemau gyda hapwiriadau ar lawr gwlad, problemau y mae cleifion yn eu hwynebu. Dyma'r hyn rydym angen ei glywed yn cael ei fwydo'n ôl i'r system mewn gwirionedd; nid ydym eisiau biwrocratiaeth lle nad yw llais y claf yn ganolog.
Mae hyn wedi bod yn rhan o'r sgwrs adeiladol a synhwyrol iawn rydym wedi'i chael: sut rydym yn sicrhau bod llais go iawn i gleifion, llais i'r dinasyddion, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol? Sut y mae trefnu hynny mewn ffordd ymarferol i ystyried y rhannau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ein system ac i fynd i'r afael â rhai o'r heriau nad oes neb yn awgrymu eu bod wedi gweithio'n dda? Mae rhan o'r ffocws wedi bod ar y gallu i gyngor iechyd cymuned neu ei olynydd gynnal ymweliadau mewn gwirionedd, ac mae yna her ynghylch gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n amharu ar ofal cleifion ond sydd, mewn gwirionedd, yn gwneud yn siŵr bod yna fynediad ynghyd â'r gallu i gynnal ymweliadau dirybudd yn ogystal, ond heb ddrysu rhwng y genhadaeth o gael corff sy'n rhoi llais i ddinasyddion a gwaith arolygiaethau ffurfiol—Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae yna densiwn yno i'w ddatrys, oherwydd pan gafodd y cynghorau iechyd cymuned eu creu nid oedd gennym y sefydliadau arolygiaeth ffurfiol eraill hynny. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod eglurder yn y genhadaeth nad yw'n atal yr ymweliadau pwysig hyn ar gyfer deall a chlywed yn uniongyrchol gan ddinasyddion wrth iddynt dderbyn gofal a chymryd rhan mewn gofal eu hunain. Felly, rwy'n cydnabod y problemau ac wrth gwrs, byddant yn rhan o'n hystyriaeth wrth symud ymlaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Papur Gwyn yn awgrymu bod rolau arolygu'n cael eu dyblygu gan gynghorau iechyd cymuned ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ond mae arolygiadau cynghorau iechyd cymuned, mewn sawl ffordd, yn eithaf gwahanol. Maent yn ddirybudd a gallant ddigwydd ar unrhyw adeg, maent yn cynnwys cleifion a pherthnasau ac maent hefyd yn cynnwys ymweliadau dilynol. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yna elfen bwysig yno a'i bod yn hanfodol nad ydym yn ei cholli mewn gwirionedd.
Roedd un swyddogaeth bellach, a oedd, unwaith eto, yn rhan o'r cyflwyniad a wneuthum yn dilyn ymgynghoriadau amrywiol, sef rôl y cynghorau iechyd cymuned yn y broses gynllunio. Rwyf wedi codi hyn gyda phractisau meddygon teulu, ond y ffaith amdani yw, lle mae gennym, er enghraifft, ddatblygiadau tai mawr, ceir diffyg ymgysylltu priodol gyda'r byrddau iechyd a'r practisau meddygon teulu lleol ar effaith datblygiadau o'r fath, a hefyd, ceir y rôl bwysig y gallai cynghorau iechyd cymuned ei chwarae, o bosibl, yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n hanfodol fod y rôl yn cael ei chryfhau ac mae'n un bwysig y mae gwir angen i ni ei datblygu nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, ond gallai fod yn un o swyddogaethau hollbwysig y cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol.
Gan ymdrin â'ch ail bwynt yn gyntaf ynglŷn â'r broses gynllunio ehangach, wrth gwrs ei bod yn sgwrs ar draws y Llywodraeth am ein system gynllunio, a'r ffordd, pan fo eiddo preswyl newydd yn arbennig yn cael ei greu, mae hynny'n cael effaith ar wasanaethau ehangach, megis y gwasanaeth iechyd, sy'n un amlwg, ac ysgolion yn enghraifft arall a thrafnidiaeth yn rhannau amlwg yr effeithir arnynt. Felly, mae angen edrych ar sut y mae gwahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd, a'r gweithredwyr o'i amgylch, yn gallu cymryd rhan yn y broses a chael llais a sgwrs briodol am realiti effaith y datblygiad yn y dyfodol. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt cyffredinol rydych yn ei wneud.
Ar y pwynt ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng ymweliad cyngor iechyd cymuned ac ymweliad arolygiaeth ffurfiol, mae cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn cydnabod bod potensial ar gyfer dyblygu, ac nid yw hynny'n ddefnyddiol. Mewn gwirionedd, maent yn ceisio cynnal protocol rhyngddynt eu hunain ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn benodol er mwyn ceisio gwahaniaethu rhwng y gwahanol rolau sydd ganddynt a sut y dylent ategu ei gilydd. Rhan o'r hyn y byddwn eisiau ei wneud wrth ddatblygu'r Papur Gwyn yw gwneud hynny'n glir fel y bydd yn gwneud synnwyr i'r dinesydd, ond hefyd i'r arolygiaeth a'r bobl sy'n mynd i gyflawni'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n cydnabod bod gwerth gwirioneddol ynddo.