Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:31, 6 Chwefror 2018

Diolch am yr ymateb yna. Ar ochr ambiwlansys y gogledd-orllewin, yn Ynys Môn, ac ar draws y gogledd, rwy'n siŵr, mae sticer mawr ymgyrch FAST, sef ymgyrch y Gymdeithas Strôc sy'n annog pobl i ffonio 999 os oes arwyddion o strôc, a'r slogan ydy 'when strokes strike, act FAST'. Yn anffodus, nid yw ffonio'n gyflym yn arwain at ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym. Dyma i chi ddwy enghraifft ddiweddar: porthladd Caergybi yn ffonio am ambiwlans i glaf oedd ofn ei fod e wedi cael strôc ond gorfod i rywun fynd â'r claf ei hunan i Ysbyty Gwynedd yn y pen draw, a gweld wyth ambiwlans wedi'u parcio yno. Enghraifft arall diweddar iawn: dynes 88 oed—etholwraig i mi—pryder ei bod hi wedi cael strôc, yn aros chwech awr am ambiwlans ac yn aros dwy awr arall y tu allan i'r ysbyty wedyn i gael ei throsglwyddo i A&E. Mi fu hi farw rai oriau yn ddiweddarach. Rydym ni'n gwybod bod strôc yn alwad categori melyn bellach. Yr wythnos diwethaf, mi ddywedodd uwch-swyddog meddygol yn y gogledd wrthyf i ei bod hi yn anghytuno'n bryderus ynglŷn â'r categoreiddio yno. Mae parafeddygon yn dweud wrthyf i'n gyson eu bod nhw'n bryderus am gategoreiddio galwadau strôc fel categori melyn. Pa bryd mae'r Llywodraeth am edrych ar hyn, oherwydd mae bywydau wirioneddol yn y fantol?