Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 6 Chwefror 2018

Mae'n wir i ddweud bod y model ei hunan wedi cael ei gynllunio gan bobl glinigol, felly nhw oedd yn ystyried ym mha ffordd y dylem ni wneud hyn. Nid rhywbeth a gafodd ei wneud gan wleidyddion oedd hyn. Mae'n wir i ddweud bod 65.8 y cant o alwadau coch ar Ynys Môn wedi cael ymateb o fewn wyth munud, ond mae'r Aelod wedi codi dau beth yn y Siambr hon, sydd, wrth gwrs, yn bwysig dros ben, a gofynnaf iddo ysgrifennu ataf er mwyn i mi allu ystyried unwaith eto beth ddigwyddodd ynglŷn â'r bobl hyn.