1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Ynys Môn? OAQ51736
Rydym ni’n disgwyl i bobl sydd ag angen clinigol am ambiwlans brys dderbyn ymateb cyn gynted â phosib, pryd bynnag y bo angen. Er gwaetha’r cynnydd yn y galw dros y misoedd diwethaf, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi parhau i gyrraedd y targed yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Diolch am yr ymateb yna. Ar ochr ambiwlansys y gogledd-orllewin, yn Ynys Môn, ac ar draws y gogledd, rwy'n siŵr, mae sticer mawr ymgyrch FAST, sef ymgyrch y Gymdeithas Strôc sy'n annog pobl i ffonio 999 os oes arwyddion o strôc, a'r slogan ydy 'when strokes strike, act FAST'. Yn anffodus, nid yw ffonio'n gyflym yn arwain at ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym. Dyma i chi ddwy enghraifft ddiweddar: porthladd Caergybi yn ffonio am ambiwlans i glaf oedd ofn ei fod e wedi cael strôc ond gorfod i rywun fynd â'r claf ei hunan i Ysbyty Gwynedd yn y pen draw, a gweld wyth ambiwlans wedi'u parcio yno. Enghraifft arall diweddar iawn: dynes 88 oed—etholwraig i mi—pryder ei bod hi wedi cael strôc, yn aros chwech awr am ambiwlans ac yn aros dwy awr arall y tu allan i'r ysbyty wedyn i gael ei throsglwyddo i A&E. Mi fu hi farw rai oriau yn ddiweddarach. Rydym ni'n gwybod bod strôc yn alwad categori melyn bellach. Yr wythnos diwethaf, mi ddywedodd uwch-swyddog meddygol yn y gogledd wrthyf i ei bod hi yn anghytuno'n bryderus ynglŷn â'r categoreiddio yno. Mae parafeddygon yn dweud wrthyf i'n gyson eu bod nhw'n bryderus am gategoreiddio galwadau strôc fel categori melyn. Pa bryd mae'r Llywodraeth am edrych ar hyn, oherwydd mae bywydau wirioneddol yn y fantol?
Mae'n wir i ddweud bod y model ei hunan wedi cael ei gynllunio gan bobl glinigol, felly nhw oedd yn ystyried ym mha ffordd y dylem ni wneud hyn. Nid rhywbeth a gafodd ei wneud gan wleidyddion oedd hyn. Mae'n wir i ddweud bod 65.8 y cant o alwadau coch ar Ynys Môn wedi cael ymateb o fewn wyth munud, ond mae'r Aelod wedi codi dau beth yn y Siambr hon, sydd, wrth gwrs, yn bwysig dros ben, a gofynnaf iddo ysgrifennu ataf er mwyn i mi allu ystyried unwaith eto beth ddigwyddodd ynglŷn â'r bobl hyn.
Chwe blynedd yn ôl, ym mis Chwefror 2012, adroddwyd y bu'n rhaid i glaf aros mewn ambiwlans am fwy na saith awr y tu allan i Ysbyty Gwynedd oherwydd prinder gwelyau ysbyty. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ffigurau yn dangos bod 1,010 o gleifion wedi wynebu amseroedd trosglwyddo o fwy nag awr y tu allan i'w hysbytai ym mis Hydref. Y mis diwethaf, gydag ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd, gwelsom hanes pensiynwr yn aros 13 awr am ambiwlans ar ôl i'w chlun roi oddi tani. Rydym ni'n gwybod bod ffigurau mis Rhagfyr yn dangos bod 17,400 o gleifion wedi aros mwy na'r amser targed o bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda'r gyfran uchaf—27 y cant—yn Betsi Cadwaladr, a 1,460 yn aros yn hwy na 12 awr. Pryd wnaiff eich Llywodraeth gydnabod bod toriad o 30 y cant i welyau i 10,935 dros y ddau ddegawd diwethaf wedi golygu na all parafeddygon ollwng cleifion yn gyflym, gan achosi ambiwlansys i gael eu hoedi a methu felly ag ymateb yn brydlon i'r galwadau brys nesaf, ac a wnewch chi wrthdroi'r toriadau hynny i welyau nid yn unig yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ond hefyd yn ein cymunedau, fel y mae ein meddygon teulu yn galw'n gynyddol amdano?
Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith yn y Siambr yw ei bod hi'n hynod bwysig sicrhau bod gennym ni system gofal cymdeithasol sy'n gallu cael pobl allan o'r ysbyty pan ei bod hi'n amserol iddyn nhw wneud hynny. A dyna, wrth gwrs, yw'r rheswm pam nad ydym ni wedi torri gwariant ar ofal cymdeithasol yn y ffordd y mae Lloegr wedi ei wneud. Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-redeg. Yr hyn y gallaf ei ddweud o ran galwadau brys, yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn unig, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 11,232 o alwadau brys ym mis Rhagfyr 2017, sy'n 362 o alwadau y dydd ar gyfartaledd. Mae hynny 14 y cant yn uwch na'r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Tachwedd 2017, a 9 y cant yn uwch na'r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Rhagfyr 2016. Er gwaethaf y cynnydd hwnnw mewn galw, bodlonwyd y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch ym mhob un o'r saith ardal bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr. Ac wrth gwrs rydym ni'n disgwyl bod gan fyrddau iechyd gynlluniau ar waith i sicrhau trosglwyddiad mor ddidrafferth, a throsglwyddiad mor gyflym â phosibl rhwng yr ambiwlans a'r ysbyty.