1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2018.
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau cymorth llywodraeth leol i bobl hŷn? OAQ51698
Mae gofal cymdeithasol yn faes o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gyllid ar gyfer yr henoed, gan gydnabod bod gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu’n lleol yn werthfawr tu hwnt ar gyfer helpu pobl hŷn Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol o gynnig gan gyngor Abertawe i godi £40 y dydd i bobl oedrannus fynychu canolfannau dydd a gynhelir gan y cyngor, gwasanaeth sydd ar gael am ddim ar hyn o bryd. Nawr, mae'r canolfannau dydd yma yn gymorth sylweddol i'r defnyddwyr, ac yn help aruthrol wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn y ddinas. Felly, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon bod cyflwyno tâl dyddiol o £40 yn peryglu creu mwy o unigrwydd, ac a ydy eich Llywodraeth yn cytuno bod angen adolygu ffioedd canolfannau dydd ledled Cymru i sicrhau bod y canolfannau hyn yn hygyrch ac yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith ein henoed?
Wel, mae'r ymgynghoriad hwn yn rhywbeth i gyngor Abertawe—iddyn nhw i symud ymlaen gyda fe a gwneud penderfyniad ynglŷn â fe. Ond mae'n hollbwysig i sicrhau nad oes neb yn colli allan o achos unrhyw newidiadau yn y pen draw, os mai dyna beth fydd y penderfyniad.
Ac yn olaf, cwestiwn 11, Hefin David.