Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyhoeddi dogfen newydd yn ein cyfres o bapurau safbwynt polisi Brexit dan yr enw 'Y Polisi Masnach: materion Cymru'. Dyma'r pumed yn ein cyfres o bapurau, sy'n nodi sut yr ydym yn credu y dylem ni yng Nghymru, a'r DU yn ei chyfanrwydd, ymateb i'r heriau sylweddol iawn yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r papur yn nodi ein dyheadau polisi masnach ac yn adlewyrchu'r gwaith dadansoddol ac ymarferol yr ydym yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Llywydd, mae'r papur hwn yn dangos pwysigrwydd masnach i Gymru. Mae Cymru yn genedl sy'n edrych allan ar y byd, sy'n masnachu yn fyd-eang, ac rydym wedi ymrwymo i ryngwladoliaeth. Fodd bynnag, ni allwn golli golwg ar y ffaith bod mwyafrif clir—61 y cant—o allforion nwyddau Cymru yn mynd yn syth i'r Undeb Ewropeaidd a bod ein hanes cryf o ddenu mewnfuddsoddiad yn adlewyrchu ein sefyllfa hanesyddol o gynnig amgylchedd sy'n addas ar gyfer busnes o fewn marchnad sengl Ewrop.
Mae'r gwaith yr ydym wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys yr ymchwil a gomisiynwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd—a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf hefyd—ond wedi cryfhau ein hargyhoeddiad mai'r safbwynt a nodwyd gennym yn y Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y llynedd, a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yw'r un cywir. Mae mynediad llawn a dilyffethair parhaus i'r farchnad sengl yn hanfodol i fuddiannau economaidd Cymru yn y dyfodol, fel y mae parhau i fod yn rhan o undeb tollau gyda'r UE. Ni welsom unrhyw ddadleuon economaidd cadarn i'r gwrthwyneb, ac mae'r wybodaeth a ryddhawyd heb awdurdod yn ddiweddar am ddadansoddiad Llywodraeth y DU o'n dyfodol economaidd y tu allan i'r UE yn awgrymu bod hyn am nad oes dadl o'r fath.
A gaf i bwysleisio yn y fan hon ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Wrth gwrs, mae gennym adnoddau cyfyngedig ac, wrth gwrs, ni allwn ddarogan y dyfodol yn gwbl gywir. Ond gallwn ni, ac rydym ni wedi, casglu tystiolaeth ynghylch pa faterion ymarferol y mae ein busnesau mwy o faint yn eu hwynebu o ganlyniad i'r bleidlais i adael yr UE, a byddwn yn parhau â rhagor o ymchwil yn canolbwyntio ar fusnesau llai. Gallwn wrando'n astud, ac rydym yn gwneud hynny, ar y dystiolaeth gan randdeiliaid yng Nghymru a thu hwnt am oblygiadau'r gwahanol senarios o ran eu gallu i weithredu'n effeithiol yn y dyfodol.
Ar y sail honno, Llywydd, o wrando ar y dystiolaeth, nid ar ryw eithafiaeth ideolegol, yr ydym wedi penderfynu ar ein safbwynt o gefnogi'r berthynas agosaf bosib â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, un sy'n gwbl gydnaws â chyflawni'r mandad gan y refferendwm o beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o'r UE—safbwynt sydd hefyd, yn fras, yn unol â safbwynt y prif sefydliadau busnes yn ogystal â'r TUC.
Dyna wahaniaeth, felly, i Weinidogion Llywodraeth y DU, sydd yn ôl pob golwg yn ymosod ar eu gweision sifil eu hunain am fethu â meddwl am yr atebion cywir a dal eu dwylo dros eu clustiau i atal eu hunain rhag clywed y galw cynyddol am Brexit synhwyrol; Brexit sy'n rhoi buddiannau ein heconomi yn gyntaf, nid un a bennir gan y llinellau coch mympwyol a nodir gan y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House.
Wrth gwrs, rydym ni'n derbyn yn llwyr bod yna gyfleoedd masnachu sylweddol y tu allan i Ewrop hefyd, ond nid ydym o'r farn y dylai Llywodraeth y DU fynd ar drywydd cytundebau masnach rydd ar draul ein perthynas fasnachu â'n cymdogion agosaf a mwyaf integredig yn economaidd. Dylid ystyried datblygu perthynas fasnachu newydd â gwledydd eraill ledled y byd fel rhywbeth i ategu'r berthynas â'r UE ac nid rhywbeth yn ei lle.
Mae Brexit yn achosi heriau mawr i'n heconomi. Ond, fel y nodwyd gennym yn ein papur 'Brexit a Datganoli', mae hefyd yn codi cwestiynau am y ffordd yr ydym yn rheoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Dros y 45 mlynedd diwethaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod â chymhwysedd ecsgliwsif i reoli'r tollau a'r polisi masnachol cyffredin—negodi a chytuno ar gytundebau masnach rhyngwladol—ar ran y DU. Pan fyddwn yn gadael yr UE, er y bydd masnach ryngwladol yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl o ran ein setliad datganoli, bydd angen cydweithredu dyfnach a mwy parhaus rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn. Oherwydd bydd gan y polisi masnach groestoriad sylweddol â phwerau datganoledig, megis safonau amgylcheddol, datblygiad economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd, a sgiliau a chymwysterau. Ni all Llywodraeth y DU ddatblygu polisi masnach sy'n addas at ei ddiben ar gyfer y DU gyfan ar ei ben ei hun—rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei gydnabod.
Nid wyf yn gyfarwydd â chael fy hun yn cytuno â Dr Liam Fox, ond mae'r Papur Gwyn ar fasnach 'Preparing for our future UK Trade Policy', a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr hydref diwethaf, yn eithaf clir am hyn. Mae'n dweud y bydd y gweinyddiaethau datganoledig â buddiant uniongyrchol yn ein cytundebau masnach yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio'n agos â nhw i sicrhau dull o weithredu sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan ac sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau unigol yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan fanteisio ar eu gwybodaeth a'u harbenigedd hanfodol.
O'n rhan ni, rydym wedi galw am sefydlu cyngor o Weinidogion y Deyrnas Unedig, sy'n dwyn ynghyd Weinidogion datganoledig â Gweinidogion y DU, a ddylai gael eu cynnwys yn llawn ar bob cam datblygu a gweithredu ein polisi masnach yn y dyfodol. Yn y tymor byrrach, dylid sefydlu cyd-bwyllgor gweinidogol newydd ar fasnach ryngwladol i gytuno ar ddulliau ar y cyd ar fasnach.
Rwy'n cymeradwyo'r papur hwn i'r Cynulliad, felly, ac yn croesawu unrhyw gwestiynau.