Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 6 Chwefror 2018.
Brif Weinidog, croesawaf eich datganiad. Ceisiaf gadw fy nghyfraniad at y cwestiynau ac at y pwnc, sef y polisi masnach, ac nid ailadrodd y trafodaethau refferendwm, fel yr ymddengys yr ydym yn eu clywed mewn mannau eraill.
Brif Weinidog, mae'r polisi masnach, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, hefyd yn ystyried rhywbeth a godwyd yn gynharach, oherwydd roeddwn yn falch iawn o weld, ar dudalen 15, y cyfeiriad at sefyllfa 'dim bargen', oherwydd o leiaf rydym yn dechrau cydnabod bellach bod angen rhoi sylw i 'dim bargen', ac mae'n cyfeirio at hynny. Felly, rwy'n falch iawn ar hynny.
Ond mae'r papur y mae'n adeiladu arno, sef gwaith yr ysgol fusnes ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd yn trafod y sectorau a oedd mewn perygl, yn bennaf y sectorau hynny a ystyrid yn ganghennau o sefydliadau byd-eang, ac, o ganlyniad, eu cadwyni cyflenwi hefyd. Ond yr hyn yr wyf am ei wybod mewn perthynas â hynny yw hyn: pa baratoadau a wneir i ddatblygu cynlluniau cymorth ar gyfer y mathau hynny o fusnesau a'u cadwyni cyflenwi? Ac mae'n tynnu sylw at y ffaith na ddylech ganolbwyntio ar sectorau; dylech ganolbwyntio ar y busnesau eu hunain, oherwydd mae ganddynt anghenion gwahanol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny ac yn nodi'r rhai sy'n flaenoriaethau ar gyfer economi Cymru, oherwydd—mae hynny'n golygu efallai y rhai sy'n ychwanegu gwerth i Gymru, nid dim ond yn dod i mewn a mynd allan eto, lle nad yw'n ychwanegu llawer o werth at y cynnyrch ac, felly, nid yw'r economi yn tyfu llawer. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf beth fyddwch yn ei wneud i edrych ar y sectorau hynny, y busnesau hynny, ac yn eu paratoi i'w helpu mewn sefyllfa lle gallwn bellach ddiweddu gyda 'dim bargen'?
Hefyd, rydym yn sôn am y cyfnod pontio yn eich papur. Nawr, mae Dr Tobias Lock o Brifysgol Caeredin wedi rhoi sgyrsiau ac wedi ysgrifennu papur ar yr heriau cyfreithiol sy'n codi yn ystod y cyfnod pontio. A allwch chi ddweud wrthyf pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran yr agweddau cyfreithiol a allent fod yn newid yn ystod cyfnod pontio a beth yr ydych yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw busnesau Cymru ac economi Cymru yn wynebu heriau ychwanegol gan nad oes unrhyw un wedi meddwl amdanynt yn y sefyllfa gyfreithiol hon?
Hefyd, soniasoch, yn y papur, am wahanu rheoliadau. Nawr, ddoe, roeddem yn bresennol mewn sesiwn bord gron fel pwyllgor, ac un o'r materion a gododd oedd ardystio y tu hwnt i'r UE. Yr hyn nad oeddent yn ei ddymuno oedd dyblygu ardystio yn y DU, lle mae'n rhaid iddynt gael ardystiad y DU ac ardystiad yr UE oherwydd nad oes trafodaethau wedi'u cynnal rhwng y DU a'r UE ar sut y gallant mewn gwirionedd gynrychioli ei gilydd a derbyn ardystiad ei gilydd. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein busnesau yn wynebu mwy o fiwrocratiaeth a dyblygu ardystio oherwydd nad oes unrhyw un wedi cydweithio a dweud, 'Gadewch inni sicrhau bod hyn yn gyfartal ar draws yr UE'? Maent ei angen mewn gwirionedd ar draws y byd, ardystio cyfartal, ond o leiaf mae gennym ardystio'r UE ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau nad ydym yn cynyddu ac yn gorfod ei ddyblygu o ganlyniad.
Yn olaf, Brif Weinidog, y Bil Masnach. Ni chafodd ei grybwyll, mewn gwirionedd, yn eich papur. Gwyddom fod y Bil Masnach yn cyfeirio at newidiadau i reolau masnach presennol yr UE a sut y cânt eu rhoi ar waith, gan gynnwys yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach. A oes modd ichi roi ychydig o fanylion ynghylch sut y gwelwch yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn dod i mewn? Soniasoch yn eich datganiad am fater dur; rydym yn gwybod bod yr UE bellach wedi rhoi rhwymedïau masnach yn erbyn dur o Tsieina yn benodol. Yn amlwg, mae'n effeithio ar fy etholaeth i yn fawr iawn. Ond sut ydym mewn gwirionedd am fynd i'r afael â rhwymedïau masnach ar ôl Brexit i sicrhau nad yw ein diwydiannau yn dioddef o ganlyniad i fargen fasnach a wnaed gan Lywodraeth y DU, yn enwedig â Tsieina, sy'n caniatáu i ddur a fewnforiwyd ddod i mewn yn rhad? Dyna un enghraifft yn unig, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd yn America ac ym mhobman arall. Felly, mae'n bwysig inni edrych ar hynny a sicrhau bod gennym lais o ran rhwymedïau masnach.