Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 6 Chwefror 2018.
A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod, David Rees, am y cwestiynau hynny? Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi'i wneud gan Ysgol Busnes Caerdydd, mae'n edrych ar sut beth fyddai senario 'dim bargen'. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn nodi bod rhai sectorau mewn mwy o berygl, er enghraifft, o rwystrau tariff, ac eraill o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff, ac rydym yn gweithio gyda'r sectorau hynny i wneud yn siŵr y gallwn ddeall eu hanawsterau.
Un peth y clywaf dro ar ôl tro—fe'i clywais eto ddoe—a hynny yw'r effaith ar recriwtio, gan fusnesau sy'n dweud wrthyf, 'Rydym yn recriwtio o wledydd eraill. Beth sy'n digwydd yn awr os na allwn recriwtio? Rydym yn sefydliad rhyngwladol, mae angen inni gael y bobl orau o ble bynnag y maent. Beth sy'n digwydd nawr?' Nid ydym yn sicr sut y mae hynny'n mynd i weithio yn y dyfodol ar ôl Brexit .
O ran yr heriau cyfreithiol y mae—. Y peth arall y dylwn fod wedi'i grybwyll, wrth gwrs, yw ein bod yn agor swyddfeydd ledled y byd, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod yn canfod marchnadoedd newydd i geisio lliniaru effaith Brexit caled. Ond gadewch inni beidio ag esgus mewn gwirionedd y gallwn oresgyn yr heriau hynny y byddai'n eu creu.
O ran heriau cyfreithiol, mae llawer o hynny yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfnod pontio. Os yw'r DU yn fodlon derbyn y byddai Llys Cyfiawnder Ewrop yn dal i gael awdurdodaeth ac y byddai cyfreithiau'r UE yn dal yn berthnasol yn y cyfnod pontio hwnnw, yna nid oes unrhyw anhawster. Ond wrth gwrs mae'r anhawster yn codi o ran y DU yn dweud, 'Nid ydym yn mynd i wneud hynny'. Pwy sydd wedyn yn gweithredu fel llys masnach? Pa gyfle fydd i ymwahanu? Mae angen rhoi sylw i'r holl bethau hyn.
Nid oes unrhyw reswm, wrth gwrs, mewn meysydd datganoledig pam na allai Senedd a Llywodraeth ddatganoledig dderbyn rheoliad newydd yr UE a'i ymgorffori i gyfraith ddomestig. Nid oes dim i'n hatal rhag gwneud hynny, ond wrth gwrs byddai hynny'n fater i'r Senedd hon. Os edrychwn, er enghraifft, ar y cyrff rheoleiddio: rwyf wedi crybwyll yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd eisoes y prynhawn yma, sef Euratom. Os edrychwn ar reoleiddio'r diwydiant awyr—nid oes yr un o'r pethau hyn wedi cael sylw. Ni ŵyr unrhyw un eto, a dim ond blwyddyn sydd i fynd. Ni ŵyr unrhyw un eto sut fydd y materion hyn yn cael eu datrys yn y dyfodol, ac mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud nad oes neb am weld dyblygu o ran ardystio. Rwyf wedi clywed rhai yn Llywodraeth y DU yn dweud, 'Wel, welwch chi, yn y bôn yr hyn a olygir gan Brexit yw cadw'r un rheolau â'r Undeb Ewropeaidd, ond ein dewis ni yw eu cadw neu beidio'. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud hynny. Rwyf wedi clywed pobl eraill yn sôn am goelcerth o reoliadau. Maent eisiau economi â rheoliadau isel, un lle caiff cyflogau eu ffrwyno, lle mae safonau amgylcheddol yn cael eu dirwasgu, a dyna'r ideoleg asgell dde glasurol pan ddaw'n fater o sut fydd Prydain y tu hwnt i Brexit.
O ran rhwymedïau masnach, mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, fod gennym ran wrth lunio sut y gallai edrych yn y dyfodol. Gwyddom ei fod yn arf pwerus. Rydym wedi ei weld yn yr Unol Daleithiau yn yr ychydig wythnosau diwethaf, a pha mor bwysig y gall hynny fod, a'r effaith bosib ar economïau y tu allan i UDA. Bydd hwnnw'n ffactor pwysig o ran y trafodaethau a gawn gyda Llywodraeth y DU ynghylch beth ddylai'r cysylltiadau masnach a'r strwythur masnach fod o fewn y DU yn y blynyddoedd i ddod.