Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 6 Chwefror 2018.
Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai aros yn yr undeb tollau yw'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o unrhyw drefniant amgen sy'n cyflawni unrhyw beth cystal â'r trefniadau sydd gennym nawr neu unrhyw beth a fyddai'n well yn y dyfodol. Os ydych yn fusnes ar hyn o bryd ac yn allforio i'r Undeb Ewropeaidd neu, yn wir, yn cyflenwi busnes sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd, rydych yn dibynnu ar lif masnach rydd. Yr hyn y gall Brexit ei wneud, er nad oes yn rhaid iddo ei wneud y ffordd hon, yw gosod biwrocratiaeth enfawr ar fusnesau—mwy o lenwi ffurflenni, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o oedi. Mae hyn yn arbennig o wir ac yn arbennig o ddifrifol yn achos y diwydiant pysgota, er enghraifft, lle, wrth gwrs, mae nwyddau yn hynod ddarfodus, ac mae angen iddynt gael eu symud yn gyflym iawn. Mae'r diwydiant hwnnw'n llwyr ddibynnol ar allforio—anfon nwyddau i farchnadoedd lle bydd pobl yn talu fwyaf ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota. Y peth olaf y maent yn ei ddymuno yw gorfod llenwi ffurflenni cyn iddynt fynd, canfod ciwiau mewn porthladdoedd megis Dover oherwydd nad yw'r seilwaith ffisegol yno—ac nid oes camau wedi'u cymryd, yn fy marn i, i fynd i'r afael â mater seilwaith. Gwiriadau yn y porthladdoedd—lle byddan nhw'n cael eu cynnal? Nid yw hynny wedi cael ei wneud; nid yw'r gwaith ar gyfer hynny wedi digwydd eto. Mae'r holl bethau hyn yn rhwystrau, heb sôn am dariffau posib, ond bydd pob un o'r rhwystrau hynny ar waith ar gyfer busnes. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn: pa gysur y gallaf i ei roi iddo? Y cysur y gallaf ei roi iddo yw hwn, y byddwn yn parhau i frwydro i sicrhau bod gan fusnesau fynediad at ein marchnad sengl fwyaf, y byddant yn rhydd o fiwrocratiaeth ac yn rhan o undeb tollau.