Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw ac am y papur sydd wedi cael ei gyhoeddi. Y ffaith amdani, wrth gwrs, yw bod y papur hwn, yn ogystal â'r dadansoddiad a ryddhawyd yn y dirgelwch, fel petai, o San Steffan, wedi datgelu bod cost i Brexit i economi Cymru—beth bynnag fo'r seniaro rŷch chi'n ei dilyn, mae yna gost. Mae yna gost arbennig, fel sydd wedi cael ei amlinellu yn y papur yma, i'r sector defaid, o ran amaeth, difrifol iawn yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio. Mae'n rhaid i ni gofio bod, tu ôl i'r sector yna—ie, mae yna economi, rhan o'r economi, ond mae yna bobl, cymunedau, tirwedd, rheoli dŵr, rheoli'r amgylchfyd, yr iaith Gymraeg, a ffordd o fyw sydd wedi bod yn trin tirwedd Cymru ers dros ddwy filenia, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw ffocws ar yr hyn sydd yn hynod bwysig i ni fel cenedl, yn ogystal â phwysig i ni fel economi. Mae hynny yn rhywbeth i'w gofio yn hyn.
A gaf i jest ofyn iddo fe sut mae'n bwriadu mynd ymlaen â'r gwaith yma nawr? Roedd Adam Price wedi gofyn i chi ynglŷn â rhanbarthau a delio â Llywodraethau eraill. Rŷch chi wedi gweld, mae'n siŵr, bod Prif Weinidog Llafur Gibraltar yn dweud bod cyfansoddiad Gibraltar yn rhoi hawl, yn ei dyb ef, i fusnes ardollau a thariffau gael ei benderfynu gan Gibraltar, tu fewn i'r cyfansoddiad a gafodd ei gymeradwyo yn y refferendwm yn 2006. Gwnaethoch chi fynd draw i Gibraltar ym mis Mehefin, rydw i'n meddwl, y llynedd. A ydych chi wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog Gibraltar? Ac, yn ail, a ydych chi o'r farn y dylai fod yna bleidlais yn y Cynulliad hwn, yn y Senedd hon, parthed unrhyw fargen neu gytundeb masnach sydd wedi ei wneud? Rŷm ni'n gwybod ein bod ni'n cael pleidlais ar y cynnig deddfwriaethol cyn belled ag mae'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd yn y cwestiwn, ond mae hwn yn gwestiwn penodol ynglŷn ag unrhyw gytundeb masnach. Serch ein bod ni'n cael refferendwm ymgynghorol, fel yr oedd Adam Price yn awgrymu, ai peidio, mi ddylem ni gael pleidlais o ddifrif yn y Senedd hon ynglŷn a'r materion yma.
Ac, yn olaf, mae'n rhaid i mi ofyn i chi, achos rydych chi wedi gosod allan rhywbeth heddiw, fel yr ŷch chi'n gwybod, mae yna lot yn gytûn rhwng y ddwy blaid, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, ar y materion hyn—rŷch chi'n cael eich arwain gan arweinydd yn San Steffan, Jeremy Corbyn, sydd ddim yn credu mewn aros yn y farchnad sengl, sydd ddim yn credu mewn aros yn yr undeb ardollau ac sydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i stopio hynny ddigwydd ar lefel San Steffan. Ac mae'n rhaid i mi ddweud: beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Prif Weinidog Cymru i roi buddiannau Cymru o flaen buddiannau eich plaid eich hun yn y materion hyn? Achos os cariwn ni ymlaen â'r llwybr presennol, mae'n bosib iawn y cawn ni Brexit caled iawn, wedi'i arwain gan asgell dde y Blaid Geidwadol, a chyda rhyw gydsyniad tawel gan eich plaid eich hunan yn San Steffan.