Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 6 Chwefror 2018.
Brif Weinidog, a gaf i groesawu eich datganiad a phapur polisi masnach Llywodraeth Cymru? Wrth gwrs, mae'r papur hwnnw'n dangos y byddai effaith anghymesur i economi Cymru gan Brexit caled, ac mae'n nodi'r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o dariffau— moduron, cemegau, dur a pheirianneg drydanol— tra bod y diwydiant awyrofod yn wynebu mwy o risg o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff. Dyma'r sectorau sydd ymysg y rhai mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru ac yn darparu nifer fawr o swyddi sgiliau uchel. Gwn y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn hollbwysig fod llais y busnesau allweddol hyn yng Nghymru, ac yn y sectorau hyn, yn cael ei glywed.
Ddoe, mewn gwirionedd, fel y dywedodd David Rees, ymwelodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ar gyfer trafodaeth ford gron, ag Aston Martin yn fy etholaeth i ac, yr wythnos diwethaf, siaradais â graddedigion peirianneg yn ffair yrfaoedd Aston Martin yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Denodd honno fyfyrwyr a graddedigion peirianneg ifanc a oedd yn awyddus i glywed am y cyfleoedd yn ffatri Aston Martin Sain Tathan, ymhlith y 750 o swyddi newydd sy'n dod i Gymru.
Mae buddsoddiad Aston Martin, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn rhoi gobaith a rhagolygon newydd, ond a all y Prif Weinidog egluro beth y gall y Llywodraeth ei wneud, pa ddylanwad y gall ei chael ar y trafodaethau yng ngham 2, i ddarparu sicrwydd a dilyniant ar gyfer busnesau fel Aston Martin, nid dim ond fel y dywedodd David Rees mewn perthynas â materion megis ardystio, sydd yn allweddol ar gyfer y sector modurol, ond hefyd ar gyfer safonau amgylcheddol a sgiliau?